
Cyhoeddwyd:
9 Ebrill 2026
Heddiw, mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau amlblecs DAB ar raddfa fach ar gyfer pump o ardaloedd eraill ledled y DU.
Mae DAB ar raddfa fach yn dechnoleg arloesol sy'n darparu ffordd cost isel i wasanaethau cerddoriaeth fasnachol, gymunedol ac arbenigol lleol fynd i'r tonnau awyr digidol.
Hyd yn hyn mae dros 100 o amlblecsiau wedi’u lansio, gan gefnogi ystod eang o wasanaethau radio digidol hyperleol sy'n darlledu i wrandawyr ar draws pedair gwlad y DU.
Yn dilyn proses gystadleuol, lle barnwyd pob ymgeisydd yn erbyn meini prawf penodol, dyfarnwyd trwyddedau amlblecs ar gyfer y pum maes fel a ganlyn:
- Ballymena: NIDAB Limited
- Barnsley: Barnsley Community Media
- Lincoln: Maxxwave Limited
- De-orllewin Fife: C.I. Broadcasting Limited
- De-orllewin Sussex: West Sussex Digital Radio Limited