HERO_digital radio small scale licences

Trwyddedau DAB ar raddfa fach wedi'u dyfarnu ar gyfer pum ardal arall

Cyhoeddwyd: 11 Tachwedd 2025

Heddiw, mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau amlblecs DAB ar raddfa fach ar gyfer pum ardal arall ledled y DU.

Mae DAB ar raddfa fach yn dechnoleg arloesol sy'n darparu ffordd cost isel i wasanaethau cerddoriaeth fasnachol, gymunedol ac arbenigol lleol fynd i'r tonnau awyr digidol.

Hyd yn hyn, mae 79 o amlblecsiau wedi lansio i ddarlledu i wrandawyr ar draws pob un o'r pedair gwlad yn y DU. Yn ei gyfanrwydd,  bydd y rhaglen DAB ar raddfa fach yn galluogi lansio dros 100 o amlblecsiau.

Yn dilyn proses gystadleuol, lle cafodd pob ymgeisydd ei farnu yn erbyn meini prawf penodol, dyfarnwyd trwyddedau amlblecs ar gyfer yr ardaloedd canlynol: