Woman holding card and laptop (1336 × 560px)

Safle porn yn cyflwyno gwiriadau oedran ar ôl cael dirwy o £730,000 gan Ofcom

Cyhoeddwyd: 4 Medi 2026

Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £700,000 i ddarparwr porn ar-lein am beidio â chael gwiriadau oedran ar waith, a dirwy ychwanegol o £30,000 am fethu ag ymateb i gais cyfreithiol rwymol am wybodaeth.

Mae corff gwarchod diogelwch ar-lein annibynnol y DU hefyd wedi cadarnhau heddiw ei fod wedi sicrhau mesurau diogelu gwell gan wasanaeth rhannu ffeiliau ar-lein i fynd i'r afael â deunydd cam-drin plant yn rhywiol. 

Safle porn sydd wedi cael dirwy yn cyflwyno gwiriadau oedran ac yn atal mynediad yn y DU

Mae gwiriadau oedran cadarn yn gonglfaen i Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU. Rhaid i wefannau sy'n dangos deunydd pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i bennu a yw defnyddiwr penodol dros 18 oed, er mwyn atal plant rhag cael mynediad i'r cynnwys hwnnw.

Rhwng mis Gorffennaf 2025 a mis Tachwedd 2025, ni wnaeth darparwr Xgroovy[dot]com gydymffurfio â'r dyletswyddau hyn. O ganlyniad, mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £700,000. [1]

Ers hynny, mae'r darparwr wedi cyflwyno math o sicrwydd oedran sy'n gallu bod yn hynod effeithiol, ac wedi 'geoblocio' mynediad o gyfeiriadau IP y DU, sy'n golygu nad yw bellach ar gael yn uniongyrchol i bobl yn y DU. Byddwn yn parhau i fonitro'r wefan i sicrhau cydymffurfiaeth.

Anwybyddu ceisiadau am wybodaeth sy'n gyfreithiol rwymol

Mae casglu gwybodaeth gywir gan gwmnïau yn hanfodol er mwyn i ni allu gwneud ein gwaith, sef sicrhau bywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU. Mae'r ceisiadau hyn yn ein helpu i asesu a monitro cydymffurfiaeth y diwydiant â'u dyletswyddau diogelwch, ac mae'n ofynnol i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol.

Yn ystod ein hymchwiliad, methodd darparwr Xgroovy[dot]com ag ymateb i gais ffurfiol am wybodaeth. O ganlyniad, rydym wedi rhoi dirwy ychwanegol o £30,000.

Byddwn hefyd yn gosod cosb ddyddiol o £200 y dydd hyd nes y darperir y wybodaeth, neu hyd at 3 Tachwedd 2026, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi yn Ofcom: "Mae'r neges i wefannau oedolion yn glir: rhowch wiriadau oedran effeithiol ar waith i atal plant rhag cael mynediad at porn. Os yw cwmnïau'n methu â gwneud hyn, neu'n anwybyddu ceisiadau cyfreithiol gennym ni, dylent ddisgwyl wynebu dirwyon."

Safle rhannu ffeiliau yn cryfhau mesurau diogelu CSAM yn dilyn camau gweithredu Ofcom

Y llynedd, lansiodd Ofcom raglen orfodi i asesu'r mesurau diogelwch sy'n cael eu cymryd gan wasanaethau rhannu ffeiliau, sy'n aml yn cael eu camddefnyddio gan droseddwyr i ddosbarthu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) ar raddfa fawr. Mae lledaeniad y deunydd hwn yn achosi niwed dinistriol i ddioddefwyr ac yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf difrifol o ran diogelwch ar-lein.

O ganlyniad uniongyrchol i gamau gweithredu Ofcom o dan y rhaglen hon, mae sawl gwasanaeth naill ai wedi defnyddio technoleg paru hash i liniaru'r risg o rannu CSAM neu wedi cymryd camau i atal pobl yn y DU rhag cael mynediad i'w safleoedd.

Heddiw, mae Ofcom wedi cadarnhau – mewn ymateb i gamau unioni cydymffurfiaeth gan ein tîm gorfodi – fod darparwr safle rhannu ffeiliau arall wedi diwygio ei asesiad risg ac wedi cymryd camau i gyflwyno paru hash canfyddiadol. [2]


Nodiadau i olygyddion:

  1. Caiff dirwyon eu trosglwyddo i Drysorlys EM. Os na fydd cwmni’n talu dirwy, byddwn yn cymryd camau i adennill y ddyled honno lle bynnag y bo modd, ni waeth ble mae'r cwmni wedi'i leoli.
  2. Mae unioni cydymffurfiaeth yn broses lle rhoddir cyfle i ddarparwyr weithio gyda'n tîm gorfodi i wneud gwelliannau penodol neu wynebu camau ffurfiol. Gweler tudalen 11 o Ganllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein
  3. Rydym hefyd wedi cyhoeddi penderfyniadau dros dro heddiw fod Cyberitic, LLC a ZD Media wedi methu â chydymffurfio â dyletswyddau gwirio oedran o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae gan y ddau ddarparwr gyfle nawr i wneud sylwadau cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.