DAB licenses awarded to seven more areas HERO

Trwyddedau DAB ar raddfa fach wedi'u dyfarnu i saith ardal arall

Cyhoeddwyd: 29 Medi 2025

Heddiw, mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau amlblecs DAB ar raddfa fach ar gyfer saith ardal arall yn y DU.

Mae DAB ar raddfa fach yn dechnoleg arloesol sy'n darparu ffordd gost-isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol cymryd i'r tonnau awyr digidol.

Hyd yn hyn, mae 75 o amlblecsiau wedi lansio i ddarlledu i wrandawyr ar draws pedair gwlad y DU. Ac yn ei gyfanrwydd, bydd y rhaglen DAB ar raddfa fach yn galluogi lansio dros 100 o amlblecsau.

Yn dilyn proses gystadleuol, lle cafodd pob ymgeisydd ei farnu yn erbyn meini prawf penodol, mae trwyddedau amlblecs bellach wedi'u dyfarnu ar gyfer yr ardaloedd canlynol: