Ymgynghoriad Dynodi Gwasanaethau Rhaglenni Rhyngrwyd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 11 Chwefror 2025
Ymgynghori yn cau: 25 Mawrth 2025
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus le unigryw yng nghymdeithas y DU. Maent yn darparu newyddion dibynadwy a chywir, ac ystod amrywiol o gynnwys o ansawdd uchel gan, ar gyfer, ac am bobl yn y DU sy'n dod â chynulleidfaoedd ynghyd. Felly mae'n hanfodol y gall gwylwyr ddod o hyd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus a'i ddarganfod yn hawdd.

Mae'r fframwaith rheoleiddio presennol wedi sicrhau bod sianeli teledu llinol y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi bod ar gael yn eang ac yn hawdd dod o hyd iddynt mewn canllawiau rhaglenni electronig ers degawdau. Fodd bynnag, tan i Ddeddf y Cyfryngau 2024 gael ei phasio, nid oedd unrhyw reolau i sicrhau eu hamlygrwydd mewn amgylcheddau cyfryngau ar-lein.

Mae Deddf y Cyfryngau 2024 yn llenwi’r bwlch hwn drwy gyflwyno trefn argaeledd ac amlygrwydd ar-lein newydd ar gyfer apiau teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus a ddosberthir ar lwyfannau teledu cysylltiedig. Bydd y drefn newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r llwyfannau hynny a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sicrhau bod apiau teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’u cynnwys ar gael, yn amlwg, ac yn hawdd eu cyrraedd.

Mae cam cyntaf y gweithredu felly yn canolbwyntio ar ddynodi'r gwasanaethau hynny sy'n dod o fewn y gyfundrefn. Rôl Ofcom yw dynodi’r apiau teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus, a elwir yn ‘wasanaethau rhaglenni rhyngrwyd’ (IPS), sy’n bodloni’r amodau a nodir yn y ddeddfwriaeth i elwa ar y drefn argaeledd ac amlygrwydd newydd. Cyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni gyhoeddi datganiad am y dulliau y byddwn yn eu defnyddio wrth asesu pa IPS y dylid ei ddynodi, ac rydym nawr yn ymgynghori ar ddatganiad o'r fath.

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn croesawu mewnbwn ar ein fframwaith arfaethedig a'r dulliau yr ydym yn bwriadu eu defnyddio wrth benderfynu a ddylid dynodi IPS. Rydym hefyd yn ceisio barn ar ein prosesau arfaethedig i ddarparwyr IPS eu dilyn wrth wneud cais am ddynodiad, ac i Ofcom ddirymu dynodiad.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm 25 Mawrth 2025.

Tudalen gysylltiedig

Ymgynghoriad: Canllawiau ar y Datganiad Polisi Rhaglenni a’r Datganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig