Gwneud cais am drwydded gwasanaeth cyfyngedig

Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 10 Gorffennaf 2026

Mae gwasanaethau cyfyngedig yn wasanaethau radio gydag ardaloedd darlledu bach sy’n cael eu defnyddio i ddarlledu digwyddiadau neu ddarlledu mewn sefydliad neu leoliadau eraill yn y DU. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • gwasanaethau radio pwrpasol ar gyfer gwyliau crefyddol fel Ramadan
  • gwasanaethau radio ar gyfer ysbytai a phrifysgolion
  • traciau sain ar gyfer gwylio ffilmiau yn y car
  • sylwebaeth ar y digwyddiadau.

Os ydych chi’n bwriadu darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar AM neu FM, mae’r ffurflen gais a’r wybodaeth arall sydd ei hangen arnoch i wneud cais i’w gweld isod

Os ydych chi’n bwriadu darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar safle penodol ar amleddau eraill, gallwch wneud cais am drwydded gwasanaeth cyfyngedig systemau dosbarthu sain.

Ffenestr ymgeisio ar gyfer cyfnod o alw mawr 2027

Ar ddydd Llun 3 Awst 2025 bydd Ofcom yn agor cyfnod ymgeisio o wythnos i ymgeiswyr Drwydded Gwasanaeth Cyfyngedig sy'n gobeithio darlledu ar unrhyw ddyddiadau rhwng dydd Iau 4 Chwefror a dydd Mawrth 16 Mawrth 2027 yn gynwysedig.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi yma ddydd Llun 3 Awst.

Os ydych chi'n bwriadu darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar AM neu FM, gwelwch isod y ffurflen gais a gwybodaeth arall y mae angen ai chi wneud cais amdani.

Newidiadau i drwyddedu systemau dosbarthu sain

Os ydych chi’n darlledu gwasanaeth cyfyngedig gan ddefnyddio amleddau y tu allan i'r bandiau amledd FM neu AM,[1] bu rhai newidiadau pwysig i'r gofynion trwyddedu.

Yn flaenorol, roedd angen Trwydded Gwasanaeth Cyfyngedig Systemau Dosbarthu Sain (ADSRSL) (fel arfer ochr yn ochr â thrwydded y Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr) i weithredu gwasanaethau cyfyngedig yn darlledu ar amleddau y tu allan i'r bandiau amledd FM neu AM. Roedd enghreifftiau o hyn yn cynnwys gwasanaethau fel sylwadau neu sylwebaeth y dyfarnwr mewn digwyddiad chwaraeon, neu gyfieithiadau mewn cynhadledd. Fodd bynnag, mae newidiadau mewn deddfwriaeth yn golygu o 1 Mai 2026, nid oes angen trwydded gwasanaeth cyfyngedig systemau dosbarthu sain ("trwydded ADSRSL") arnoch fwyach i ddarlledu gwasanaeth cyfyngedig ar amleddau y tu allan i'r bandiau FM ac AM. Fel arfer, bydd angen trwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr arnoch o hyd, y gallwch wneud cais amdani ar wahân drwy dîm Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig (PMSE) Ofcom.

Yn ogystal, os ydych chi'n bwriadu darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar amleddau FM ar bŵer isel iawn (o dan 50 nanowat), nid oes angen trwydded Deddf Darlledu mwyach. Nid oes angen trwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr lle mae'r pŵer yn llai na 50 nanowat a bod y ddyfais yn cydymffurfio â Gofyniad Rhyngwyneb IR2030 Ofcom.

Os oes gennych drwydded ADSRSL ar hyn o bryd, bydd Ofcom yn cysylltu i esbonio'r camau nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am drwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr, ewch i wefan Ofcom neu cysylltwch â thîm PMSE yn uniongyrchol.

[1] Y band amledd darlledu AM yw 526.5 cilohertz i 1.6065 megahertz. Y band amledd darlledu FM yw 87.5 i 108 megahertz. 

Gwneud cais am drwydded

Ffurflen gais gwasanaethau cyfyngedig (DOCX, 93.8 KB)

Nodiadau cyfarwyddyd gwasanaethau cyfyngedig (PDF, 515.1 KB)