Mae Rhan 4 o Ddeddf y Cyfryngau 2024 yn diwygio'r rheoliad ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alw ("ODPS") o dan Ran 4A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 drwy greu cyfundrefn newydd ar gyfer gwasanaethau o'r enw "Gwasanaethau Haen 1".
Sef y gwasanaethau fideo ar-alw mwyaf poblogaidd sy'n bodloni trothwy gwylwyr a osodwyd gan y Llywodraeth a byddant hefyd yn cynnwys ODPS a ddefnyddir gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gyflawni eu cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus. Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy'n llawer agosach at ein rheoleiddio darlledu teledu llinol a byddant yn destun i God Safonau Haen 1 newydd a Chod Hygyrchedd Haen 1 newydd.
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn nodi ein cynigion ar gyfer y Cod Safonau Haen 1. Mae hyn yn cynnwys rheolau ar: ddiogelu pobl dan ddeunaw oed; niwed a throseddu; trosedd, anhrefn, casineb a cham-drin; crefydd; didueddrwydd a chywirdeb dyledus; etholiadau a refferenda; a thegwch a phreifatrwydd. Rydym hefyd yn gofyn am farn i lywio ein ffordd o feddwl wrth i ni ystyried gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i achosion posibl o dorri Cod Safonau Haen 1.
Cyflwynwch ymatebion i'r ymgynghoriad hwn gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 7 Awst 2026 fan bellaf. Mae Ofcom hefyd yn ymgynghori ar ei gynigion ar gyfer y Cod Hygyrchedd Haen 1.
Mae Ofcom hefyd yn ymgynghori ar ei gynigion ar gyfer y Cod Safonau Haen 1. Gellir dod o hyd i'r ymgynghoriad hwn yma.
How to respond
Content Standards and Enforcement Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA