Y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF)
Mae'r CMA, yr ICO, yr FCA ac Ofcom gyda'i gilydd wedi ffurfio'r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) – i weithio gyda'i gilydd ar feysydd sydd o bwys i'r ddwy ochr wrth reoleiddio gwasanaethau ar-lein.
Mae'r fforwm hwn yn cryfhau'r cydweithredu a'r cydgysylltu presennol rhwng y pedwar rheoleiddiwr. Ei nod yw harneisio ein harbenigedd cyfunol pan fydd data, preifatrwydd, cystadleuaeth, cyfathrebu a chynnwys yn rhyngweithio.
Cysylltwch â drcf@ofcom.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Diweddariad 6 Mai: Y CMA ac Ofcom yn cyhoeddi cyngor cod ymarfer ar y cyd ar gyfer llwyfannau a chyhoeddwyr
Ym mis Ebrill 2021, gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i'r CMA weithio gydag Ofcom i edrych yn benodol ar sut y byddai cod ymddygiad, a gynigiwyd fel rhan o'r drefn newydd o blaid cystadlu ar gyfer marchnadoedd digidol, yn rheoli'r berthynas rhwng llwyfannau a darparwyr cynnwys fel cyhoeddwyr newyddion. Nod y cod hwn oedd sicrhau bod telerau masnachu llwyfannau a chyhoeddwyr yn deg ac yn rhesymol. Rhoddodd y CMA ac Ofcom y cyngor hwn i'r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2021.
Canfyddiadau o ffrwd waith Prosesu Algorithmig y DRFC -Gwanwyn 2022
Mae ffrwd waith Prosesu Algorithmig y DRCF wedi cyhoeddi dau bapur trafod ar y buddion a'r niwed a berir gan algorithmau, ac ar dirwedd archwilio algorithmig a rôl rheoleiddwyr, yn y drefn honno.
Adroddiad blynyddol 2021/22 a chynllun blynyddol 2022/23 y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol
Mae'r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) wedi cyflwyno ei gynllun gwaith ar gyfer 2022/23. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys prosiectau a fydd yn helpu i fynd i'r afael â heriau digidol sylweddol, gan gynnwys:
- Diogelu plant ar-lein
- Hyrwyddo cystadleuaeth a phreifatrwydd mewn hysbysebu ar-lein
- Cefnogi gwelliannau mewn tryloywder algorithmau
- Galluogi arloesedd yn y diwydiannau rydym yn eu rheoleiddio
Mae adroddiad blynyddol cyntaf y DRCF yn esbonio sut rydym bellach yn rhannu gwybodaeth a sgiliau fel mater o drefn, yn cyfuno adnoddau ac yn gweithio gyda'n gilydd i nodi tueddiadau a datblygiadau arloesol pwysig yn y diwydiant.
Mae'r DRCF wedi lansio rhaglen dechnoleg sganio'r gorwel, i ddarparu safbwynt clir ynghylch y marchnadoedd a'r technolegau digidol newydd.
Ein blaenoriaethau uniongyrchol yw:
- :ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i ymchwil ddigidol aelodau'r DRCF;
- ymgysylltu ar y cyd â BBaChau yn y DU a chymunedau cychwyn technoleg a'r byd academaidd;
- a gwella ein gwaith o feithrin gwybodaeth mewn technolegau a marchnadoedd newydd neu sy'n datblygu'n gyflym.
I gael yr amrywiaeth mwyaf eang o safbwyntiau, rydym yn lansio llinell gyfathrebu 'bob amser ar agor' drwy ein mewnflwch e-bost newydd: JoiningUpOnFutureTech@ofcom.org.uk.
Darllen mwy am ein dull gweithredu a sut i gymryd rhan.