Mae Ofcom wedi cyhoeddi Hysbysiad Cyffredinol ac wedi hysbysu trwyddedeion eraill o'n cynigion i amrywio ystod eang o drwyddedau i'w gwneud yn ofynnol i drwyddedeion gydymffurfio â therfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP a chadw cofnodion i ddangos sut maent yn cydymffurfio. Mae'r broses amrywio trwydded hon bellach ar waith, ac rydym yn awr mewn cyfnod pontio. Am fwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen ar feysydd Electromagnetig.
Yn ystod y cyfnod pontio hwn, bydd Ofcom yn dal i dderbyn ceisiadau newydd a bydd yn dal i roi trwyddedau. Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am drwydded (neu barhau â chais am drwydded) yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cymryd hyn fel cydsyniad gennych i'r newidiadau hyn yn y dyfodol.