29 Awst 2023

Cwmnïau ffôn symudol i gael eu gwahardd rhag gwerthu ffonau 'wedi cloi'

  • Rheolau newydd i helpu cwsmeriaid sy’n penderfynu peidio â newid darparwr oherwydd bod eu ffôn wedi cloi
  • Cwsmeriaid i gael gwell gwybodaeth am gontractau cyn iddyn nhw ymrwymo

Bydd cwmnïau ffonau symudol yn cael eu gwahardd rhag gwerthu ffonau sydd ‘wedi cloi’, o dan amrywiaeth o reolau newydd gan Ofcom a fydd yn ei gwneud hi’n haws newid nag erioed.

Mae rhai cwmnïau – gan gynnwys BT/EE, Tesco Mobile a Vodafone – yn dal i werthu ffonau symudol nad oes modd eu defnyddio ar rwydweithiau eraill oni bai eu bod yn cael eu datgloi, proses sy’n gallu bod yn gymhleth a chostio tua £10. Mae ymchwil Ofcom wedi canfod bod dros un rhan o dair (35%) o bobl a benderfynodd beidio â newid wedi dweud bod hyn yn rhywbeth a oedd wedi llywio eu penderfyniad.[1]

Mae bron i hanner y cwsmeriaid sy’n ceisio datgloi eu dyfais yn cael trafferth gwneud hynny. Er enghraifft, efallai eu bod yn wynebu oedi hir cyn cael y cod angenrheidiol i ddatgloi eu dyfais; efallai na fydd y cod yn gweithio; neu fe allent golli gwasanaeth os na fyddent yn sylweddoli bod y ddyfais wedi’i chloi cyn iddynt geisio newid.

Felly, ar ôl ymgynghori, rydym wedi cadarnhau y bydd cwmnïau ffonau symudol wedi’u gwahardd rhag gwerthu ffonau sydd wedi cloi – er mwyn i bobl allu symud i rwydwaith gwahanol gyda’r un ffôn yn ddidrafferth. Daw’r rheolau newydd i rym fis Rhagfyr 2021.

Dywedodd Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom: “Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn penderfynu peidio â newid darparwr oherwydd bod eu ffôn wedi cloi.

“Felly, rydyn ni’n gwahardd cwmnïau ffonau symudol rhag gwerthu ffonau sydd wedi cloi, a fydd yn arbed amser, arian ac ymdrech i bobl – ac yn eu helpu i gael gafael ar fargeinion gwell.”

Rhagor o weithredu i helpu cwsmeriaid

Mae’r gwaharddiad ar werthu ffonau symudol sydd wedi cloi yn rhan o becyn eang o fesurau sy’n cael ei gyflwyno gan Ofcom. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn adlewyrchu rheolau Ewropeaidd newydd. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud hi’n haws newid, a helpu i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg.[2]

O dan y mesurau newydd a gyhoeddwyd heddiw, bydd pobl hefyd yn cael crynodeb ysgrifenedig o brif delerau eu contract – cyn iddynt ymrwymo. Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, hyd a phrisiau contractau, a bydd darparwyr band eang yn gorfod dweud wrth gwsmeriaid beth yw’r cyflymder rhyngrwyd isaf gallant ei ddisgwyl.[3]

Ar ben hynny, mae Ofcom yn ei gwneud hi’n haws newid darparwr band eang. Ar hyn o bryd, mae cwsmeriaid sy’n newid rhwng darparwyr fel BT, Sky a TalkTalk ar rwydwaith copr Openreach yn gallu cysylltu â’u darparwr, sy’n rheoli’r broses newid o hynny ymlaen.

Ond mae’n rhaid i gwsmeriaid sy’n newid i rwydwaith band eang gwahanol – fel Virgin Media, CityFibre, Gigaclear neu Hyperoptic - reoli’r broses newid eu hunain a chyd-drefnu â’u darparwyr newydd a phresennol i osgoi bwlch rhwng yr hen wasanaeth yn dod i ben a’r gwasanaeth newydd yn dechrau.

Cyn bo hir byddwn yn ymgynghori ar gynigion manylach ar gyfer proses newid symlach i bob cwsmer band eang.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae O2, Sky, Three a Virgin Mobile i gyd yn dewis gwerthu dyfeisiau heb eu cloi i’w cwsmeriaid..

2. Mae’r rheolau newydd heddiw yn rhan o’n gwaith i weithredu’r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd newydd. Mae hyn hefyd yn cynnwys rheolau sy’n golygu y bydd unrhyw gwsmer y mae angen fformatau hygyrch arno oherwydd anabledd yn gallu gofyn am gyfathrebiadau mewn fformat sy’n bodloni ei anghenion – megis braille. Daw’r rheolau newydd hyn ar gyfer fformatau hygyrch i rym fis Rhagfyr 2021. Hefyd, rydym wedi cadarnhau newidiadau i’n cynllun achredu ar gyfer adnoddau cymharu prisiau er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a ddarperir gan y gwasanaethau hyn yn ddibynadwy, yn ddiduedd ac yn dryloyw – gan ganiatáu iddynt arloesi ar yr un pryd. Daw meini prawf newydd y cynllun achredu i rym ar 30 Ebrill 2021.

3. Daw’r rheolau newydd ar gyfer gwell gwybodaeth am gontractau i rym fis Mehefin 2022.

Related content