
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf am y cwynion a gafwyd am y prif gwmnïau telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu yn y DU.
Mae’r ffigurau hyn yn berthnasol i’r cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024 ac maent yn cynrychioli cwynion gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau llinell dir, band eang, ffôn symudol talu’n fisol, a theledu-drwy-dalu.
Beth mae’r ffigurau hyn yn ei ddweud wrthym
Yn gyffredinol, roedd nifer y cwynion yn dal yn debyg i’r chwarter blaenorol (Gorffennaf–Medi 2024) yn ystod y cyfnod hwn. Gwelwyd gostyngiad bach yn nifer y cwynion am fand eang, ffonau symudol a theledu-drwy-dalu, ac arhosodd nifer y cwynion am wasanaethau llinell dir yr un fath.
- NOW Broadband a TalkTalk oedd y darparwyr band eang y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt. Bu cynnydd yn nifer y cwynion am NOW Broadband, a gostyngiad yn nifer y cwynion am TalkTalk.
- Plusnet a Sky oedd y darparwyr band eang a gafodd y nifer lleiaf o gwynion.
- NOW Broadband oedd y darparwr llinell dir a gafodd nifer mwyaf o gwynion, gyda chynnydd yn nifer y cwynion o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.
- Y darparwr llinell dir y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdano oedd Utility Warehouse.
- O2 oedd y darparwr symudol a gafodd y nifer mwyaf o gwynion. Roedd cwynion cwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd y cafodd eu cwynion eu trin.
- EE, Sky Mobile a Tesco Mobile oedd y darparwyr ffonau symudol y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
- Y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt oedd EE a Virgin Media. Roedd cwynion cwsmeriaid EE yn ymwneud yn bennaf â’u profiad o newid darparwr, a sut cafodd eu cwynion eu trin. Roedd cwsmeriaid Virgin Media yn cwyno’n bennaf am broblemau gyda bilio, prisiau a thaliadau.
- Sky a TalkTalk oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Polisi Ofcom: “Mae’r set ddiweddaraf hon o ffigurau yn dangos patrwm cyffredinol cadarnhaol, sef gostyngiad yn nifer y cwynion am dri o’r pedwar prif wasanaeth sydd wedi’u cynnwys yn y data.
“Rydyn ni’n falch o weld hyn, ond rydyn ni hefyd yn sylweddoli bod cynnydd wedi bod yn nifer y cwynion am rai darparwyr o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Mae hyn yn golygu nad yw’n set gwbl gadarnhaol o ffigurau, felly rydyn ni’n awyddus i weld rhagor o welliannau ar draws yr holl ddarparwyr a gwasanaethau.”
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, rydym yn casglu’r data cwynion hwn i’n helpu ni i ddeall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd ymysg cwsmeriaid yn y sectorau rydym yn eu rheoleiddio.
Er na allwn ddelio â chwynion unigol, mae’r ffigurau hyn yn rhoi cipolwg i ni ar broblemau a phryderon sy’n effeithio ar y cwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn – a thrwy gyhoeddi’r ffigurau hyn gallwn helpu cwsmeriaid telegyfathrebiadau i ddewis y darparwr iawn ar gyfer eu hanghenion.
Mae’r siartiau isod yn dangos nifer cymharol y cwynion a ddaeth i law. Gallwch ddefnyddio’r llithrydd i hidlo drwy’r blynyddoedd.