13 Ionawr 2023

Ffarwel i'r peiriant ffacs?

Yn dilyn ein hymgynghoriad y llynedd, rydym yn cadarnhau na fydd yn rhaid i ddarparwyr telegyfathrebiadau ddarparu gwasanaethau ffacs i’w cwsmeriaid mwyach.

Oni bai eich bod wedi symud tŷ neu os ydych chi'n asiant pêl-droediwr – neu yn wir asiant pêl-droediwr sydd wedi symud tŷ - efallai na fyddwch wedi cael llawer o reswm dros ddefnyddio peiriant ffacs yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd y ddyfais gyfathrebu - a elwir yn ffurfiol yn beiriant ffacsimili - yn nodwedd reolaidd mewn swyddfeydd ac, i raddau llai, cartrefi.

Roedden nhw’n gweithio trwy alluogi defnyddwyr i anfon copi union (neu ffacsimili) o dudalen o destun neu ddelweddau i'r derbynnydd, gan ddefnyddio llinell ffôn i wneud hynny.

Dyma un o'r rhesymau y cawsant eu defnyddio mewn trafodion arian mawr gyda therfynau amser tynn, megis gwerthiannau tai neu drosglwyddiadau pêl-droed, gan eu bod yn galluogi i gontractau gael eu cyfnewid yn gyflym ac yn gywir.

Ond wrth i dechnoleg ddigidol a gwasanaethau band eang ddatblygu, mae'r peiriant ffacs wedi cael ei ddisodli gan e-bost a meddalwedd rhannu dogfennau sy'n cynnig yr un swyddogaethau neu rai gwell.

Dyna pam ein bod wedi ymgynghori ynghylch newid y rheolau a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau telegyfathrebiadau ddarparu gwasanaethau ffacs.

Beth sy’n newid?

O dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO), rhaid i wasanaethau ffôn fod ar gael i bobl ledled y DU am bris fforddiadwy – hyd yma, sydd wedi cynnwys gwasanaethau ffacs. Mae dau ddarparwr telegyfathrebiadau dynodedig yn gyfrifol am wasanaeth cyffredinol yn y DU – BT a KCOM (yn ardal Hull yn unig).

Rydym yn diwygio ein rheolau i ddileu’r gofyniad i BT a KCOM ddarparu gwasanaethau ffacs o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol.

Cafodd y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol presennol ei sefydlu yn 2003, pan oedd peiriannau ffacs yn fwy cyffredin ac roedd negeseuon e-bost a negeseuon gwib yn llai cyffredin. Felly, bryd hynny, roedd hi’n bwysig bod y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol yn mynnu bod BT a KCOM yn darparu gwasanaethau ffacs.

Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r dirwedd delegyfathrebu wedi newid. Nid yn unig y mae dewisiadau eraill yn lle peiriannau ffacs bellach ar gael yn ehangach, mae trosglwyddo rhwydweithiau ffôn i dechnoleg protocol rhyngrwyd (IP) yn golygu na ellir gwarantu bod gwasanaethau ffacs yn gweithio yn yr un ffordd mwyach.

Nid yw’r newid hwn yn golygu y bydd gwasanaethau ffacs yn stopio gweithio ar unwaith, ond dylai defnyddwyr ffacs cyfredol chwilio am ddewisiadau eraill (fel e-bost).

Related content