15 Chwefror 2022

Miliynau o deuluoedd incwm isel yn colli allan ar arbedion band eang blynyddol gwerth £144

  • Gallai 4.2 miliwn o aelwydydd dorri eu biliau band eang yn hanner drwy gymryd pecynnau disgownt arbennig
  • Ond mae ymwybyddiaeth o 'dariffau cymdeithasol' rhatach yn isel: dim ond 55,000 sydd wedi manteisio arnynt
  • Mae Ofcom yn galw arbob darparwr band eang i helpu cwsmeriaid ar fudd-daliadau

Yn ôl Ofcom, gallai miliynau o deuluoedd sydd o dan bwysau o ganlyniad i gostau byw cynyddol arbed £144 ar eu biliau band eang blynyddol.

Mae pecynnau band eang disgownt arbennig – a elwir weithiau'n 'dariffau cymdeithasol' – ar gael i tua 4.2 miliwn o aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol.

Ond dim ond 55,000 o gartrefi sydd wedi manteisio ar y cyfraddau gostyngol hyn hyd yma – 1.2% yn unig o'r rhai sy'n gymwys. Mae hynny'n golygu bod miliynau o bobl sy'n derbyn budd-daliadau yn colli allan ar arbediad blynyddol cyfartalog o £144 yr un ar eu band eang.

Ar hyn o bryd mae chwe darparwr band eang – BT, Community Fibre, G.Network, Hyperoptic, KCOM a Virgin Media O2 – yn cynnig o leiaf un o'r bargeinion hyn am ddisgownt arbennig. Mae pris y pecynnau hyn rhwng £10-£20 y mis am gyflymder band eang sy'n amrywio o 10Mbit yr eiliad i 67Mbit yr eiliad.

Heddiw, mae Ofcom yn galw ar bob cwmni band eang arall i gefnogi aelwydydd sy'n profi caledi drwy gyflwyno eu tariffau cymdeithasol eu hunain. Rydym hefyd am weld pob cwmni'n hyrwyddo'r bargeinion hyn yn ehangach, ac yn sicrhau y gall cwsmeriaid gofrestru'n gyflym ac yn hwylus.

Cymorth ariannol

Mae tua 1.1 miliwn o aelwydydd (5%) yn ei chael hi'n anodd fforddio eu gwasanaeth band eang cartref, yn ôl adroddiad Ofcom ar fforddadwyedd heddiw. Mae hynny'n codi i tua un o bob 10 ymhlith yr aelwydydd â'r incwm isaf. Mae problemau fforddadwyedd yn debygol o waethygu yn 2022 oherwydd cynnydd mewn prisiau manwerthu a'r wasgfa ehangach ar gyllidebau cartrefi, gan roi pwysau pellach ar y rhai sy'n gallu ei fforddio leiaf.

Miliynau o deuluoedd incwm isel yn colli allan ar arbedion band eang blynyddol gwerth £144

Ond gallai newid i dariff cymdeithasol ddarparu rhywfaint o ryddhad ariannol i aelwydydd sy'n gymwys. Er enghraifft, mae pecyn band eang masnachol safonol yn costio £27 y mis ar gyfartaledd i berson di-waith sy'n hawlio Credyd Cynhwysol – neu 8.3% o'u hincwm gwario misol. Byddai tariff cymdeithasol o £15 bron yn haneru eu costau band eang ac yn defnyddio 4.6% o’u incwm gwario.

Ond nid yw cwsmeriaid yn cael gwybod am hyn

Er gwaethaf yr arbedion sydd ar gael, dengys ymchwil Ofcom nad yw'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n derbyn budd-daliadau (84%) yn ymwybodol o dariffau cymdeithasol, ac mae'r nifer sy'n manteisio arnynt yn isel iawn.

Rydym wedi gweld tystiolaeth gyfyngedig o ddarparwyr yn mynd ati i hyrwyddo eu tariffau cymdeithasol i gwsmeriaid cymwys. Yn gyffredinol, nid yw'r bargeinion hyn yn ymddangos mewn hysbysebion band eang na chwiliadau ar wefannau cymharu prisiau.

Mae'n rhaid i ddarparwyr fynd ati i gefnogi aelwydydd sy'n profi caledi

I ymdrin â'r broblem hon a sicrhau y gall cwsmeriaid ar incwm is elwa o fand eang dibynadwy am gost fwy fforddiadwy, mae Ofcom yn annog darparwyr i:

  1. Gynnig tariff cymdeithasol. Er bod llawer yn gwneud hynny, mae'r cwmnïau nad ydynt yn eu cynnig yn cynnwys EE, Plusnet, Shell, Sky, TalkTalk a Vodafone.
  2. Hyrwyddo bargeinion am ddisgownt. Dylai unrhyw gyfathrebiadau â chwsmeriaid am godi prisiau hefyd gynnwys manylion y tariffau cymdeithasol sydd ar gael. Dylai darparwyr hefyd ystyried creu partneriaethau ag awdurdodau lleol ac asiantaethau cynghori defnyddwyr i ledaenu'r gair.
  3. Darparu gwybodaeth glir. Dylai manylion am dariffau cymdeithasol fod mewn safle amlwg ar wefannau a chynnwys gwybodaeth glir am bwy sy'n gymwys.
  4. Gwneud cofrestru’n hwylus. Dylai cwmnïau band eang adolygu eu prosesau ymgeisio er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd eu dilyn. Mae'n rhaid peidio â digalonni cwsmeriaid sy'n ymgeisio am dariff cymdeithasol trwy ei gwneud yn anodd iddynt brofi eu bod yn gymwys.

Mae pobl yn dibynnu ar eu band eang am gadw mewn cysylltiad, gweithio a dysgu gartref. Ond i'r rhai sy'n cael trafferth o ganlyniad i’r cynnydd mewn biliau, mae pob ceiniog yn cyfrif.

Gall gostyngiadau arbennig wneud gwahaniaeth mawr, ac mae gormod o gwmnïau band eang yn methu naill ai â hyrwyddo eu tariff cymdeithasol neu i gynnig un o gwbl. Rydym yn disgwyl i gwmnïau wella'r gefnogaeth i bobl ar incwm isel, a byddwn yn cadw llygad ar eu hymateb.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu, Ofcom

Nodiadau i olygyddion

  1. Tariffau Cymdeithasol sydd wedi'u cynnig gan ddarparwyr cyfathrebu

CynnyrchPrisCyflymderCymhwystra
BT Home Essentials £15 y mis Tua 36 Mbit yr eiliad Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
BT Home Essentials 2 £20 y mis Tua 67 Mbit yr eiliad Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
Community Fibre £10 y mis 10 Mbit yr eiliad Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
G.Network £15 y mis 50 Mbit yr eiliad Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
Hyperoptic Fair Fibre 50 £15 y mis 50 Mbit yr eiliad Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
KCOM Full Fibre Flex £19.99 y mis 30 Mbit yr eiliad Budd-daliadau amrywiol (yn y gwaith a di-waith)
Virgin Media Essential Broadband £15 y mis 15 Mbit yr eiliad Credyd Cynhwysol

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

Related content