15 Tachwedd 2022

Rheolau newydd Ofcom i ymladd twyll rhifau ffug

  • 41 miliwn o bobl wedi'u targedu gan alwadau ffôn a negeseuon testun amheus yr haf yma
  • Bydd yn ofynnol i gwmnïau ffôn adnabod a rhwystro galwadau wedi'u 'sbŵffio' pan fo hynny'n ymarferol
  • Arweiniad newydd yn nodi sut y dylai cwmnïau telathrebu sicrhau nad yw rhifau go iawn yn cael eu camddefnyddio

Bydd defnyddwyr ffôn yn cael eu diogelu'n well rhag sgamwyr sy'n defnyddio rhifau ffôn ffug, o dan reolau newydd a gyhoeddir heddiw gan Ofcom.

Mae sgamiau'n broblem gyffredin - mae tri chwarter o bobl wedi derbyn galwad ffôn neu neges destun amheus yn ystod y tri mis diwethaf. Amcangyfrifir bod hyn yn cynrychioli 40.8 miliwn o oedolion yn y DU.[1]

Tacteg gyffredin a ddefnyddir gan droseddwyr i dwyllo dioddefwyr yw dynwared – neu 'sbŵffio' - rhifau ffôn sefydliadau go iawn, fel banciau ac adrannau'r Llywodraeth. Os yw galwad i ffôn symudol neu linell dir i'w gweld yn deilwng, mae pobl yn fwy tebygol o'i hateb a dilyn cyfarwyddiadau'r sgamwyr. Rydym yn amcangyfrif i tua 700,000 o bobl wneud hyn yn y tri mis hyd at fis Awst 2022 yn unig, gan beri'r risg o golled ariannol a gofid emosiynol sylweddol.[2]

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon, mae Ofcom yn cryfhau ei rheolau a'i harweiniad i'w gwneud hi'n ofynnol i'r holl rwydweithiau ffôn sy'n ymwneud â thrawsyrru galwadau – naill ai i ffonau symudol neu linellau tir – nodi a rhwystro galwadau wedi'u sbŵffio, pan fo'n ymarferol yn dechnegol. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i sgamwyr ddefnyddio rhifau wedi'u sbŵffio.

Atal galwadau sgam wedi'u sbŵffio

Mae llawer o ffonau'n gadael i chi weld rhif y person sy'n ffonio cyn i chi ateb. Mae ymchwil newydd gan Ofcom wedi darganfod bod mwy na naw o bob deg o bobl sydd â'r cyfleuster hwn yn penderfynu, am ran o'r amser o leiaf, a fyddant yn ateb galwad ai beidio ar sail y rhif a ddangosir ar eu ffôn.[3]

Mae ein hastudiaeth hefyd yn datgelu bod pobl yn fwy tebygol o ateb galwad o rif DU nad ydynt yn ei adnabod, na rhif rhyngwladol anghyfarwydd neu rif sydd wedi'i guddio.[4] Mae twyllwyr tramor yn aml yn manteisio ar hyn, ac yn sbŵffio rhifau adnabod y galwr o'r DU gan wybod bod y rhai sy'n derbyn y galwadau'n fwy tebygol o ateb.

Yn ogystal â chryfhau ein rheolau, rydym hefyd wedi diweddaru ein harweiniad ar sut y dylai'r holl gwmnïau ffôn adnabod a rhwystro galwadau wedi'u sbŵffio. Mae hyn yn cynnwys:

  • sicrhau bod rhif yn cydymffurfio â fformat 10 neu 11 digid y DU;
  • rhwystro galwadau o rifau sydd ar restr Heb Ddangos Tarddiad Ofcom;[5] a
  • nodi a rhwystro galwadau o dramor sy'n sbŵffio rhif adnabod y galwr yn y DU.

Mae ein harweiniad i gwmnïau telathrebu i nodi a rhwystro galwadau o dramor sy'n ddefnyddio rhifau'r DU yn dwyllodrus yn seiliedig ar fenter gan y diwydiant, y mae rhai darparwyr eisoes wedi'i gweithredu o'u gwirfodd. Dywedodd un o'r rhain – TalkTalk – iddynt weld gostyngiad o 65% mewn cwynion am alwadau sgam ers cyflwyno'r mesur hwn.

Rydym yn rhoi chwe mis i gwmnïau ffôn wneud y newidiadau technegol angenrheidiol i gydymffurfio â'r rheolau newydd hyn a fydd yn dod i rym ym mis Mai 2023.

Syrthio'n drwm ar y camddefnydd o rifau go iawn

Heddiw hefyd, rydym yn cyhoeddi arweiniad newydd i helpu cwmnïau i atal sgamwyr rhag cael gafael ar rifau ffôn dilys.

Mae Ofcom yn neilltuo rhifau ffôn, fel arfer mewn blociau mawr, i gwmnïau telathrebu. Gallant wedyn drosglwyddo'r rhifau i unigolion neu fusnesau eraill. Disgwylir i bob cwmni ffôn gymryd camau rhesymol i atal eu rhifau rhag cael eu camddefnyddio, ond mae'r ymdrechion hyn yn amrywio.

Mae ein canllaw newydd yn nodi disgwyliadau clir er mwyn i ddarparwyr sicrhau eu bod yn cynnal gwiriadau 'adnabod eich cwsmer' ar gwsmeriaid busnes. Gallai'r rhain gynnwys gwirio cofrestr Tŷ'r Cwmnïau, cronfeydd data risg twyll a Rhestr Rybuddio'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i ddatgelu gwybodaeth a allai nodi risg uchel o gamddefnydd gan gwsmer sydd am ddefnyddio rhifau ffôn.

Dylai cwmnïau ffôn gymryd camau hefyd i atal unrhyw gamddefnydd posib pellach – gall hyn gynnwys rhwystro'r rhif dros dro ac adrodd tystiolaeth o weithgarwch twyllodrus i asiantaethau gorfodi'r gyfraith.

"Mae galwadau a negeseuon testun sgam yn brif ffynhonnell twyll, ac yn cynrychioli perygl pendant i bawb sy'n defnyddio ffôn. Mae troseddwyr yn mynd yn gynyddol soffistigedig, ac mae'n hawdd cael eich dal allan gan sgam.

Rydym yn gweithio'n barhaus gyda chwmnïau ffôn a sefydliadau eraill ar ddulliau newydd o fynd i'r afael â'r sgamiau hyn. Gall rhwystro rhifau ffug gael effaith sylweddol, felly rydyn ni'n sicrhau bod yr holl gwmnïau ffôn yn cymhwyso'r mesur diogelu hwn ar gyfer eu cwsmeriaid.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

Mae galwad neu neges destun sgam yn un ffordd yn unig y mae twyllwyr yn ymosod ar bobl, ond maent yn defnyddio sianeli eraill hefyd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau chwilio. Felly mae'n bwysig i Ofcom ac asiantaethau gorfodi eraill fabwysiadu ymagwedd gyfannol a chydlynus sy'n cymryd y dulliau niferus ac amrywiol y gall pobl fod yn agored i sgamiau i ystyriaeth. Cyn i ni dderbyn pwerau fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein newydd y DU, rydym hefyd wedi bod yn edrych yn fanwl ar brofiadau defnyddwyr o dwyll ar-lein a byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau y flwyddyn nesaf.

Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Senedd y DU, bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein yn pennu dyletswyddau newydd er mwyn i wasanaethau ar-lein fynd i'r afael â thwyll. Bydd yn dwyn gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr ar-lein a darparwyr chwilio i gyfrif am gymryd camau cymesur i liniaru a rheoli'r risgiau a achosir i'w defnyddwyr gan dwyll.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Ymchwil Defnyddwyr Adnabod Llinell y Galwr a Sgamiau Ofcom 2022, Amcangyfrif poblogaeth: 40.8 miliwn (cyfwng hyder: +/- 1.3 miliwn) Nifer yr Oedolion yn y DU 16+ oed a dderbyniodd o leiaf un alwad ffôn a/neu neges destun a/neu neges ap amheus ar eu ffôn llinell dir a/neu symudol yn y tri mis cyn cael eu cyfweld.
  2. Amcangyfrif poblogaeth: 700k (cyfwng hyder: +/- 300k) Nifer  yr Oedolion yn y DU 16+ oed a dderbyniodd neges amheus dros neges destun, galwad fyw neu ap negeseua ac a wnaeth yr hyn y cyfarwyddwyd iddynt gan y neges/person (e.e. clicio ar ddolen neu ddarparu manylion banc dros y ffôn).
  3. Ym mis Awst 2022 bu i ni gynnal arolwg o sampl cenedlaethol gynrychiadol o 2,030 o bobl yn y DU, gan ofyn iddynt am eu profiadau yn y tri mis blaenorol. Mae 93% o ddefnyddwyr symudol yn edrych ar y rhif a ddangosir ar eu ffôn i benderfynu a ddylid ateb galwad ai beidio. Mae gan 77% o ddefnyddwyr llinell dir ffôn sy'n dangos rhif y galwr sy'n dod i mewn a dwedodd 91% o'r rhai sydd â chyfleuster dangos y galwr eu bod nhw'n penderfynu a ddylid ateb galwad ai beidio trwy edrych ar y rhif ar y ffôn o leiaf rhywfaint o'r amser.
  4. Dengys ein hymchwil fod 74% o bobl sydd â chyfleuster dangos y galwr ar eu ffôn llinell dir a/neu symudol, ac yn ei ddefnyddio o leiaf rhan o'r amser i benderfynu a fyddant yn ateb ai beidio, yn annhebygol o ateb galwad o rif rhyngwladol anghyfarwydd a bod 57% yn annhebygol o ateb galwad o rif anhysbys. Mae hyn yn gostwng i tua 45% ar gyfer rhifau o'r DU nad yw pobl yn eu hadnabod.
  5. Defnyddir rhestr 'Heb Ddangos Tarddiad' Ofcom gan gwmnïau ffôn i rwystro galwadau sy'n sbŵffio rhifau nad yw sefydliadau fel banciau ac adrannau Llywodraeth byth yn eu defnyddio i ffonio allan arnynt.

Related content