1 Mehefin 2022

Ofcom yn annog cwmnïau technoleg i gadw menywod yn fwy diogel ar-lein

  • Ofcom yn gweld bod menywod yn llai hyderus am eu diogelwch ar-lein na dynion
  • Effeithir ar fenywod yn fwy gan gynnwys gwahaniaethol a chas, a throlio
  • Mae menywod yn teimlo na allant ddweud eu dweud a rhannu eu barn cystal ar-lein
  • Y Fonesig Melanie Dawes: mae'n rhaid i gwmnïau technoleg wrando a gweithredu ar bryderon diogelwch defnyddwyr benywaidd

Adlewyrchir pryderon y byd go iawn am ddiogelwch a lles menywod yn y byd ar-lein, yn ôl ffigurau o astudiaeth fawr Ofcom i fywyd y wlad ar-lein.

Mae ein canfyddiadau'n datgelu bod menywod yn llai hyderus o ran eu diogelwch ar-lein na dynion, yr effeithir yn fwy negyddol arnynt gan gynnwys gwahaniaethol, cas a throlio, ac na allant ddweud eu dweud a rhannu eu barn cystal ar-lein.

Rydym heddiw yn annog cwmnïau technoleg, sy'n adeiladu'r gwefannau a'r apiau a ddefnyddir gan filiynau o bobl yn y DU, i gymryd camau nawr i wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel i fenywod a merched.

Mae menywod y DU yn ddefnyddwyr brwd y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol,[1] gan dreulio mwy na chwarter o'u horiau deffro ar-lein – tua hanner awr bob dydd yn fwy na dynion (4 awr 11 munud o gymharu â 3 awr 46 munud). Ond i lawer o fenywod, nid yw bywyd ar-lein bob amser yn brofiad cadarnhaol.

Yn ôl yr astudiaeth gan Ofcom, er i'r rhan fwyaf o bobl ddweud bod manteision bod ar-lein yn drech na'r risgiau, mae menywod yn llawer llai tebygol na dynion o gytuno (63% o gymharu â 71%). Yn yr un modd, mae llai o fenywod yn teimlo'n hyderus na fyddant yn profi niwed ar-lein (64% o gymharu â 73% o ddynion).

Dywedodd menywod a gymerodd ran yn ein hymchwil iddynt deimlo'n llai abl i rannu eu barn a dweud eu dweud ar-lein (42% o gymharu â 48% o ddynion). Mae menywod hefyd yn llai tebygol na dynion o deimlo'n rhydd i fod yn nhw eu hunain ar-lein (33% o gymharu â 39%). I lawer, gall bywyd ar-lein efelychu dynameg wahaniaethol niweidiol sy'n bodoli mewn cymdeithas ehangach.

Mae menywod yn teimlo effaith niwed ar-lein

Mae'r canfyddiadau hyn yn rhan o adroddiad blynyddol Ein Gwlad Ar-lein Ofcom[2] sy'n bwrw golwg dyfnach ar ein bywydau ar-lein a'r cwmnïau technoleg y tu ôl iddynt. Mae crynodeb o'r prif dueddiadau ar-lein a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd ar gael ar ganolfan newyddion Ofcom.[3]

Eleni, mae'r adroddiad yn cynnwys ymchwil fanwl i'r niweidiau y mae pobl yn dod ar eu traws ar-lein. Mae'n nodi bod menywod sydd wedi mynd ar-lein yn y pedair wythnos ddiwethaf yn fwy tebygol na dynion o fod wedi gweld neu brofi:

  • cynnwys sy'n ymwneud â delwedd negyddol y corff, deietio gormodol neu anhwylderau bwyta (9% o gymharu â 6%)
  • cynnwys misogynistaidd – sef cynnwys sy'n gwrthrychu neu'n diraddio menywod neu fel arall yn eu portreadu'n negyddol (9% o gymharu â 7%)
  • cynnwys sy'n ymwneud â hunan-niwed neu hunanladdiad (4% o gymharu â 2%)

Mae dynion sy'n mynd ar-lein yn fwy tebygol na menywod o fod wedi gweld neu brofi:

  • cynnwys gysylltiedig â sgamiau, twyll a gwe-rwydo (30% o gymharu â 25%)
  • camwybodaeth (25% o gymharu â 19%)
  • cynnwys sy'n dangos trais (11% o gymharu â 7%)

Yn gyffredinol, mae dynion yn fwy tebygol na menywod o fod wedi profi ymddygiad neu gynnwys ar-lein a allai fod yn niweidiol yn ystod y pedair wythnos diwethaf (64% o gymharu â 60%).[3] Ond mae'r astudiaeth yn dangos bod menywod yn cael eu heffeithio'n fwy negyddol gan y cynnwys niweidiol y maent yn dod ar ei draws.

Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o boeni am drolio na dynion (60% yn erbyn 25%) ac yn yr un modd gyda chynnwys cas (85% yn erbyn 70%)Dywed mwy na dwy o bob pum menyw (43%) fod cynnwys niweidiol y daethant ar draws ar-lein yn ddiweddar wedi peri gofid iddynt o gymharu â dynion (85% o gymharu â 70% o ddynion), yn ogystal â throlio (60% o gymharu 25% o ddynion).

Mae menywod o gefndir ethnig lleiafrifol yn arbennig o debygol o deimlo gofid o ganlyniad i'w profiadau niweidiol ar-lein (52% o gymharu â 42% o fenywod gwyn). Maent hefyd yn fwy tebygol o fod wedi profi o leiaf un niwed posib yn ystod y pedair wythnos diwethaf (67% o gymharu â 61% o fenywod gwyn).

Yr effaith ar iechyd meddwl menywod

Gofynnodd ein hymchwilwyr hefyd i bobl rannu eu teimladau am sut mae mynd ar-lein yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Roedd menywod 18-34 oed yn fwy tebygol nag unrhyw grŵp arall o anghytuno â'r datganiad y gall "bod ar-lein gael effaith gadarnhaol ar fy iechyd meddwl" (23% o gymharu â 14% i'r oedolyn cyffredin y DU, a 12% o ddynion). Dylid nodi bod bron i chwarter (23%) o fenywod Du hefyd wedi anghytuno â'r datganiad hwn, yn uwch na menywod gwyn (16%) a menywod Asiaidd (12%).

Yn benodol mae menywod eisiau gwell amddiffyniad

Mae hanner y defnyddwyr rhyngrwyd sy'n oedolion yn cefnogi mesurau diogelwch ar-lein pellach, gyda mwy o fenywod o blaid na dynion (56% o gymharu â 43%). Hefyd, mae menywod yn ystyried bod diogelu defnyddwyr ar-lein yn flaenoriaeth – yn fwy felly na dynion (44% o gymharu â 33%).

Bydd Deddf Diogelwch Ar-lein y dyfodol yn gosod dyletswyddau ar gwmnïau technoleg, a fydd yn helpu i sicrhau bod pob defnyddiwr – gan gynnwys menywod a merched – yn cael eu diogelu'n well rhag niwed ar-lein. Fel rheoleiddiwr ar-lein, bydd Ofcom yn sicrhau bod cwmnïau technoleg yn cyflawni eu dyletswyddau i wella diogelwch defnyddwyr ar yr un pryd ag eirioli dros y pethau gwych am y rhyngrwyd, gan gynnwys rhyddid lleferydd.

.

Mae'r neges gan fenywod sy'n mynd ar-lein i'w chlywed yn uchel. Maent yn llai hyderus am eu diogelwch personol ar-lein, ac yn teimlo effeithiau negyddol cynnwys niweidiol, fel trolio, yn fwy dwys.

Rydym yn annog cwmnïau technoleg i gymryd pryderon diogelwch ar-lein menywod o ddifri a rhoi diogelwch pobl wrth wraidd eu gwasanaethau. Mae hynny'n cynnwys gwrando ar adborth gan ddefnyddwyr pan fyddant yn dylunio eu gwasanaethau a'r algorithmau sy'n darparu cynnwys.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae menywod yn ddefnyddwyr trymach na dynion o saith o'r 10 prif lwyfan cyfryngau cymdeithasol. 
    Ymhlith y deg safle cyfryngau cymdeithasol uchaf, Pinterest yw'r platfform gyda'r gyfran uchaf o ddefnyddwyr benywaidd yn 66%. Reddit sydd â'r gyfran uchaf o ddefnyddwyr gwrywaidd, sef 61%.   Mae'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith defnyddwyr y pedwar ap cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir fwyaf - Facebook, YouTube, WhatsApp ac Instagram - wedi'i ystumio ychydig tuag at ddefnyddwyr benywaidd, mae 52% o ddefnyddwyr Facebook yn fenywod, o'i gymharu â 48% yn ddynion.
  2. Mae adroddiad eleni yn defnyddio data o sawl ffynhonnell, gan gynnwys Traciwr Profiadau Ar-lein Ofcom – astudiaeth tracio newydd sy'n ymchwilio i brofiadau ar-lein cadarnhaol a negyddol defnyddwyr yn y DU. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer y Traciwr Profiadau Ar-lein ym misoedd Tachwedd-Rhagfyr 2021 ymhlith sampl gynrychioliadol o 6,619 o ddefnyddwyr ar-lein rhwng 13 ac 85 oed. Mae adroddiad rhyngweithiol ar gael sy'n galluogi archwilio'r data fesul demograffeg wahanol.
  3. Mae'n brif ganfyddiadau o adroddiad Ein Gwlad Ar-lein eleni. Mae 67% o ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU sy'n 13+ oed yn teimlo bod manteision bod ar-lein yn drech na'r risgiau, ond yn ystod y pedair wythnos diwethaf, mae 62% o ddefnyddwyr wedi dod ar draws o leiaf un niwed posibl ar-lein.

Related content