Mae nifer o ffactorau sy'n effeithio cyflymdra eich cysylltiad band eang.
Mae pellter eich cartref o'r gyfnewidfa ffôn, ar ba amser o'r dydd rydych chi'n mynd ar-lein a faint o bobl sy'n eich cartref sy'n defnyddio'r rhyngrwyd ar yr un pryd -gall pob un o'r rhain arafu eich cysylltiad chi.
Hefyd, efallai nad yw eich dyfais wedi'i gosod yn gywir neu efallai fod y llinell sy'n darparu'r cysylltiad rhyngrwyd i'ch cartref wedi malu a gallai polisïau rheoli traffig eich darparwr rhyngrwyd fod yn ffactor hefyd.
Gallai’r awgrymiadau canlynol helpu i wella’ch cyflymder - mae’r tri olaf (8-10) yn berthnasol os ydych chi’n cael eich band eang drwy eich llinell ffôn yn hytrach na drwy gebl.
Profwch gyflymder eich llinell. Bydd hyn yn dangos pa gyflymder rydych chi'n ei gael mewn gwirionedd. Profwch eich llinell dros ychydig ddiwrnodau gan wneud hynny ar wahanol amseroedd. Mae gan safleoedd cymharu prisiau, sydd wedi cael eu hachredu gan Ofcom, Broadband.co.uk, broadbandchoices.co.uk, Cable.co.uk a Simplifydigital brofion cyflymder.
Os oes gennych chi broblem â’ch cysylltiad, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’ch darparwr yn gyntaf. Dylai allu eich helpu i ddatrys beth sy’n achosi hyn a sut gallech chi ei drwsio.
Gwiriwch os ydych chi'n defnyddio fersiwn diweddaraf eich porwr gwe-mae fersiynau newydd yn sicrhau gwell diogelwch ac maent yn gweithio'n gyflymach hefyd. Gallwch wirio eich porwr ar y wefan Saesneg allanol, Get Safe Online.
Credir bod y canlynol i gyd yn effeithio ar lwybryddion - lampau halogen, switshys pylu golau, seinyddion stereo neu gyfrifiadur a gwirfau AC. Cadwch eich llwybrydd cyn belled ag y gallwch oddi wrth ddyfeisiau trydanol eraill yn ogystal â’r rheini sy’n allyrru signalau diwifr fel ffonau diwifr, monitor babi ac ati. Ceisiwch roi eich llwybrydd ar fwrdd neu ar silff yn hytrach nag ar y llawr a gwnewch yn siŵr ei fod ymlaen drwy’r amser.
Os oes gennych hen lwybrydd neu os yw eich linell yn datgsysylltu'n rheolaidd, efallai bydd o fudd i chi uwchraddio. Cysylltwch gyda'ch darparwr i drafod ymhellach.
Os na fyddwch chi’n cadw eich llwybrydd band eang di-wifr yn ddiogel, gall unrhyw un gerllaw fewngofnodi i’ch band eang. Gallai hyn arafu eich cyflymderau band eang, yn ogystal â pheryglu eich diogelwch ar-lein. I weld a ydych chi’n ddiogel, chwiliwch am y rhwydweithiau di-wifr sydd ar gael. Os yw eich rhwydwaith yn ddiogel, dylai fod symbol clo wrth ei ymyl. Os nad oes symbol clo wrth ei ymyl, rhaid i chi osod cyfrinair i ddiogelu eich llwybrydd. Defnyddiwch gyfrinair sy’n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau mawr a bach. Os nad ydych chi’n siŵr sut mae gosod neu newid cyfrinair, cysylltwch â’ch darparwr.
Defnyddiwch gebl Ethernet i gysylltu eich cyfrifiadur â’ch llwybrydd yn syth yn hytrach na defnyddio Wi-Fi. Cebl rhwydweithio cyfrifiadurol yw cebl Ethernet a ddylai roi cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy i chi.
Gallai unrhyw ymyriant ar eich llinell ffôn arafu eich band eang. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r prif soced ffôn diweddaraf ar gyfer eich cartref a phlygiwch ficrohidlyddion ym mhob soced ffôn yn eich cartref. Maent yn edrych fel blychau bach gwyn ac yn hollti’r signalau ffôn a band eang fel nad ydynt yn effeithio ar ei gilydd.
Ceisiwch beidio â defnyddio ceblau estyniad ffôn - gall ceblau achosi ymyriant a allai arafu eich cyflymder. Os oes yn rhaid i chi ddefnyddio cebl estyniad, defnyddiwch gebl newydd o ansawdd uchel sydd â’r hyd lleiaf posib. Mae ceblau sydd mewn coil neu mewn clymau hefyd yn gallu effeithio ar gyflymder.
Mae nifer o ddyfeisiau ar gael sydd wedi’u cynllunio i hidlo ymyriant o wifrau eich ffôn cartref. Mae’r rhain yn gwella cyflymder, a hyd yn oed os nad ydynt, gallant helpu i sefydlogi eich llinell band eang a’i wneud yn fwy dibynadwy. Chwiliwch ar-lein am ddyfeisiau a allai fodloni eich anghenion.