Bob dydd, mae pobl yn defnyddio rhifau gwasanaeth i wneud galwadau ffôn i gwmnïau a sefydliadau, cysylltu ag ymholiadau rhifau ffôn neu hyd yn oed i bleidleisio mewn sioeau teledu.
Ond roedd hi'n anodd gwybod faint oedd cost galw'r rhifau hyn -sy'n dechrau gydag 08,09 neu 118.
Newidodd hyn yng Ngorffennaf 2015, dan system newydd sy'n gwneud y gost o alw rhifau gwasanaeth yn glir i bawb. Fe'i gelwir yn Galwadau'r Deyrnas Unedig, a dyma'r newid mwyaf i alwadau ffôn ers dros ddegawd.
Mae'n bosibl y byddwch chi’n cofio gweld gwybodaeth am gost galwadau yn y gorffennol a oedd yn edrych yn debyg i hyn:
“Mae galwadau'n costio 20c y funud o linell dir BT. Mae cost llinellau sefydlog eraill yn gallu amrywio ac mae galwadau o ffonau symudol yn gallu bod yn uwch o lawer.”
Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gwybod y gost, oni bai eich bod yn digwydd galw o linell dir BT.
Ers 1 Gorffennaf 2015, mae cost ffonio rhifau gwasanaethau yn cynnwys dwy ran:
Tâl mynediad: Mae'r rhan hon o gost yr alwad yn mynd i'ch cwmni ffôn, ar gyfradd ceiniogau'r funud. Fe fyddan nhw'n dweud wrthych chi faint fydd y tâl mynediad ar gyfer galwadau i rifau gwasanaeth. Nodir hyn yn glir ar filiau a phan fyddwch chi'n ymgymryd â chontract.
- Tâl gwasanaeth: Dyma weddill y tâl am yr alwad. Y sefydliad rydych chi'n ei ffonio sy’n penderfynu ar hyn, a bydd yn dweud wrthych faint yw’r gost.
Gadewch i ni feddwl am enghraifft.
Dywedwch bod eich cwmni ffôn penodol yn codi tâl o 5c y funud arnoch chi am alwadau i rifau gwasanaeth - hynny yw, eu tâl mynediad. A dywedwch mai 20c y funud yw tâl gwasanaeth rhif penodol yr hoffech ei ffonio. Yn yr achos hwnnw, fe fyddech chi'n gweld gwybodaeth fel hyn:
“Bydd galwadau'n costio 20c y funud, a ffi mynediad eich cwmni ffôn.”
Yn yr enghraifft benodol hon, byddai'r alwad yn costio 20c y funud (y tâl gwasanaeth), ynghyd â 5c y funud (y tâl mynediad). Felly byddai'r alwad yn costio 25c y funud i chi.
Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i bob galwad gan ddefnyddwyr i rifau 084, 087, 09 ac 118 ar draws y Deyrnas Unedig, gan ddarparu cyfraddau galwadau mwy eglur i bawb.
Nid yw'r rheolau yn effeithio ar alwadau a wnaed i rifau llinell dir cyffredin (01, 02), rhifau 03 na rhifau symudol (07). Nid ydyn nhw chwaith yn effeithio ar alwadau a wneir o ffonau talu, galwadau rhyngwladol, na galwadau i'r Deyrnas Unedig wrth grwydro dramor.
Yn ogystal, mae'r holl rifau rhadffôn ('freephone' sy'n dechrau 0800 neu 0808) bellach yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr euy ffonio o bob ffôn, boed yn ffonau symudol neu'n ffonau llinell dir.
Cewch ragor o wybodaeth drwy ddefnyddio canllaw costau galwadau Ofcom.