Defnyddio troswr i wella eich signal ffôn symudol dan do


Mae troswyr yn ddyfeisiau a all helpu pobl sydd â signal ffôn symudol dan do gwael i gael gwell signal dan do. Maent yn gweithio orau pan fydd signal awyr agored da y gellir ei chwyddo dan do.

Fel arfer, gosodir dyfais troswr dan do rywle y mae’n gallu derbyn y signal symudol awyr agored, fel yn ymyl y ffenestr neu mewn ystafell i fyny'r grisiau. Mae’r troswr wedyn yn cysylltu â’r ddyfais sydd y tu mewn i’r adeilad, gan eich galluogi chi i wneud galwadau ffôn, anfon negeseuon testun a defnyddio data symudol dan do

Troswr, wedi ei osod yn rhywle lle gall signal awyr agored gael ei synhwyro, yn cynyddu'r signal dan do

Ym mis Mai 2022, estynnodd Ofcom amrediad y troswyr dan do statig sydd ar gael i bobl eu prynu a'u gosod eu hunain heb orfod cael eu trwyddedu. Yn flaenorol, dim ond troswyr a chwyddai signal un rhwydwaith ffôn symudol ar y tro a ganiatawyd.

Erbyn hyn rydym yn caniatáu troswyr sy'n chwyddo signalau mwy nag un gweithredwr symudol ar y tro, ar yr amod eu bod yn bodloni ein gofynion technegol. Mae troswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion hynny yn parhau i fod yn anghyfreithlon.

Dewis y troswr cywir

Rydym yn sylweddoli y gall fod yn anodd deall y gwahaniaeth rhwng troswyr cyfreithlon a'r ystod o ddyfeisiau anghyfreithlon a hysbysebir yn helaeth ar-lein – yn enwedig gan fod hysbysebion ar gyfer dyfeisiau anghyfreithlon yn aml yn honni eu bod wedi'u cymeradwyo'n briodol. Felly wrth ddewis troswr, cofiwch sicrhau eich bod yn ei brynu gan fanwerthwr ag enw da.

I'ch helpu i ddewis y troswr cywir, mae Ofcom wedi cyhoeddi rhestr o droswyr sy'n bodloni gofynion technegol ein cyfundrefn eithriad trwydded. Nid yw'r rhain yn droswyr yr ydym yn eu hyrwyddo neu'n eu cymeradwyo, dim ond y rhai sydd wedi cael eu profi yn erbyn ein gofynion gan dŷ prawf achrededig. Byddwn yn diweddaru'r rhestr hon o bryd i'w gilydd.

Enw'r cynnyrchGweithgynhyrchydd
Hi10-3S-Pro Huaptec
Hi10-4S-Pro Huaptec
Hi10-5S-Pro Huaptec
Nextivity G41-9E Nextivity Inc.
Nextivity Quatra 4000e Nextivity Inc.
Nextivity Connect C41 Nextivity Inc.
Nextivity Quatra Evo Nextivity Inc.
StellaHome Repeater Model: SD-RP1002 StellaDoradus Europe Ltd

Os nad ydych yn siŵr a yw troswr yn gyfreithlon i'w ddefnyddio, gallwch anfon e-bost atom yn marketsurveillance@ofcom.org.uk am gyngor.

Gosod troswr

Mae'r rhan fwyaf o droswyr dan do yn hawdd eu gosod, ond mae rhai yn fwy cymhleth, yn enwedig os yw'r signal symudol awyr agored yn wan iawn a bod angen antena arnoch. Efallai y bydd angen help arbenigwr arnoch – rhywun sy'n gwybod ble i ddod o hyd i'r mast ffôn symudol agosaf – i osod y troswyr hyn.

Gwybodaeth arall