Beth yw 4G?


4G yw'r bedwaredd genhedlaeth o dechnoleg ffôn symudol ac mae'n gam ymlaen o 2G a 3G.

Roedd technoleg 2G yn addas ar gyfer gwneud galwadau ac anfon negeseuon testun ac mae 3G yn ei gwneud hi'n bosib cael mynediad i'r we yn fwy effeithiol drwy eich ffôn symudol.

Dylai gwasanaethau 4G wneud hi'n gyflymach i syrffio'r we ar eich ffôn symudol, llechen a gliniadur. Mae'n ddelfrydol ar gyfer gwasanaethau sy'n mynnu mwy o gapasiti fel ffrydio fideo, mapio a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Ar gyfer y defnyddiwr nodweddiadol, gallai cyflymderau lawrlwytho rhwydweithiau 4G cychwynnol fod tua 5-7 gwaith yn fwy nag ar gyfer rhwydweithiau 3G presennol.

Mae hyn yn golygu bod albwm cerddoriaeth sy'n cymryd 20 munud i'w lawrlwytho ar ffôn 3G yn cymryd ychydig dros 3 munud ar 4G. Mae hyn yn seiliedig ar gyflymder 3G presennol o 1Mbit yr eiliad ar gyfartaledd a chyflymder 4G o 6Mbit yr eiliad (cyfartaledd o 5 a 7 gwaith yn gyflymach).

Prynu ffôn 4G

Dylunnir ffonau symudol 4G i weithio ar fathau penodol o amleddau.

Fel ceir sydd wedi'u hadeiladu i redeg ar wahanol fathau o danwydd, os byddwch chi'n ceisio rhoi disel mewn car sydd wedi'i ddylunio ar gyfer petrol, ni fydd yn gweithio. Yn yr un modd, bydd ffôn 4G ond yn gweithio ar amleddau y cafodd ei ddylunio i weithio arnynt.

Gall gweithredwyr symudol ddefnyddio gwahanol amleddau i ddarparu gwasanaethau 4G. Felly, os byddwch yn cofrestru ar gyfer contract 4G gydag un darparwr ac yna'n penderfynu newid i gontract SIM yn unig gyda darparwr arall, efallai y byddwch yn colli swyddogaethau 4G eich ffôn.

Os nad yw eich darparwr eisoes yn cynnig 4G; ond rydych chi'n ystyried prynu set llaw newydd wrth baratoi ar gyfer hynny, mae ychydig yn fwy cymhleth na dewis ffôn 'barod am 4G'. Mae hyn oherwydd efallai na fydd y ffôn yn gydnaws â'r amleddau y bydd eich darparwr yn eu defnyddio i ddarparu 4G yn y pen draw.

Un ffordd bosib o 'ddiogelu eich pwrcasiad at y dyfodol' yw dewis set llaw sy'n medru 4G ar sawl amledd gwahanol.

Meddyliwch am hyn yn yr un ffordd â phrynu hen ffôn 2G gyda gosodiad 'tri-band', sy'n cefnogi'r rhan fwyaf o'r bandiau amledd 2G a ddefnyddir ledled y byd. Neu i ddefnyddio enghraifft y car, byddech chi'n prynu hybrid, sy'n rhedeg ar drydan a phetrol.