Galwadau dieisiau: gwasanaethau ffôn a allai fod o gymorth


Mae cwmnïau ffôn yn cynnig nifer o wasanaethau a all helpu i ddiogelu yn erbyn galwadau ffôn dieisiau.

Dangos y galwr

Mae dangos y galwr yn dangos i chi y rhif a gyflwynir gan y sawl sy'n ffonio (os nad yw'r rhif wedi'i guddio a bod gennych ffôn gyda sgrin arddangos), er mwyn i chi ddewis a ydych am ateb ai beidio.

Mae gwybodaeth dangos y galwr hefyd yn bwysig gan ei bod yn eich galluogi i hysbysu Ofcom a rheoleiddwyr eraill am alwadau dieisiau, ac yn helpu setiau llaw a gwasanaethau sy'n dibynnu ar y rhif ffôn i helpu meddalwedd rhwystro a hidlo galwadau i weithio'n effeithiol.

Fodd bynnag, dylai defnyddwyr sy'n defnyddio dangos y galwr i adnabod galwyr fod yn ymwybodol efallai nad y rhif a gyflwynir mo rhif go iawn y sawl sy'n ffonio, oherwydd 'sbŵffio', neu ffugio rhifau ffôn yn fwriadol heb awdurdod.

Rhwystro/hidlo galwadau sy'n dod i mewn

Gall gwasanaethau rhwystro galwadau sy'n dod i mewn helpu i daclo galwadau dieisiau trwy atal rhifau penodol rhag dod drwodd.

Dyma enghreifftiau o’r rhain:

BT Call Protect

Mae BT Call Protect yn wasanaeth hidlo galwadau am ddim o fewn y rhwydwaith sydd ar gael i gwsmeriaid preswyl BT. Ar ôl ei alluogi, mae'r gwasanaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon galwadau penodol i flwch negeseuon llais sothach. Gall y rhain gynnwys galwadau o restr ddu BT o alwyr niwsans, galwadau o restr ddu a grëir gan y cwsmer, a rhai mathau penodol o alwadau (fel rhifau rhyngwladol neu wedi'u cuddio). Gall cwsmeriaid adalw unrhyw negeseuon a adawir yn y blwch negeseuon llais fel y bo'n gyfleus.

Sky Talk Shield

Mae Sky Talk Shield yn wasanaeth sgrinio galwadau am ddim o fewn y rwydwaith sydd ar gael i gwsmeriaid Sky Talk. Ar ôl ei alluogi, mae'r gwasanaeth yn sgrinio pob galwad i linell dir y cwsmer trwy ofyn i alwyr adnabod eu hunain. Pan fydd y cwsmer yn ateb ei ffôn, bydd yn clywed recordiad o enw'r galwr, a gall penderfynu a yw eisiau ychwanegu'r galwr at ei 'restr sêr' neu ei 'restr rwystro’. Ar ôl gwneud hyn, bydd galwadau o rifau ar y rhestr sêr yn dod drwodd heb gael eu sgrinio, ac ni fydd galwadau o rifau ar y rhestr rwystro'n dod drwodd. Ni fydd galwadau wedi'u hawtomeiddio byth yn dod drwodd gan nad oes modd iddynt ymateb i'r sgrinio cychwynnol.

Gwrthod galwadau anhysbys

Mae sgamwyr neu rai galwyr sy'n gwneud galwadau marchnata digymell neu niwsans yn ceisio cuddio eu hadnabyddiaeth trwy guddio eu rhif.

Mae gwrthod galwadau anhysbys yn galluogi chi i rwystro galwadau gan bobl sy'n cuddio eu rhif.

Adnabod y galwr diwethaf neu 1471

Wrth dderbyn galwad dieisiau, gellir deialu 1471 yn syth wedyn i ganfod rhif y galwr diwethaf (oni bai bod y galwr wedi cuddio ei rif).

Ar ôl cael hyd i'r rhif trwy ddeialu 1471, gallwch ffonio'r rhif yn ôl a gofyn am beidio â chael eich cysylltu yn y dyfodol, neu roi gwybod i'r rheoleiddiwr perthnasol am y rhif.

Llaisbost neu 1571 (gwasanaethau safonol a gwell)

Mae gwasanaeth llaisbost yn caniatáu i chi sgrinio galwadau penodol a dewis a ydych am ddychwelyd yr alwad ar ôl i chi wrando ar y neges.

Mae rhai darparwyr hefyd yn cynnig gwasanaeth llaisbost gwell. Mae hyn yn cynnwys nodweddion fel mynediad o bell, sy'n eich galluogi i wrando ar negeseuon o ddyfais heblaw eich llinell dir.

Faint maen nhw'n ei gostio?

Mewn rhai achosion, mae'r gwasanaethau hyn am ddim. Mewn achosion eraill, codir tâl misol a all amrywio gan ddibynnu ar ba becyn rydych wedi ymrwymo iddo. Nodir y taliadau gan y saith darparwr llinell dir isod.

 Dangos y Galwr (Gweld pwy sy'n eich ffonio cyn i chi ateb)1471 (Cael rhif y person diwethaf a ffoniodd)Llaisbost 1571 Safonol (Gwrando ar negeseuon llaisbost trwy ddeialu 1571)Llaisbost 1571 Gwell (nodweddion ychwanegol fel mynediad o bell)Rhwystro Galwadau i Mewn (Rhwystro rhifau penodol rhag dod drwodd)1Gwrthod Galwadau Anhysbys (Rhwystro galwadau o rifau sydd wedi'u cuddio neu'n ddienw)Call Protect (Defnyddio data rhwydwaith a rhestrau personol y cwsmer i ddargyfeirio galwadau dieisiau, cyn iddynt ganu, i flwch post sothach 1572).
BT£1.75 neu am ddim gyda chontract 12 mis2Am ddim£2.25£4.25£4.75£5.80BT Call Protect (i gwsmeriaid BT - am ddim)
EEAm ddimAm ddimAm ddimDdim ar gaelDdim ar gael£33Ddim ar gael
KCOMAm ddimAm ddimDdim ar gael£1.02 neu am ddim4£2.507£1 neu am ddim7Ddim ar gael
Post OfficeAm ddimAm ddimAm ddim£2.55£3.42£4.08Ddim ar gael
SkyAm ddimAm ddim£1£2.50£3.35£4.00Sky Talk Shield (i gwsmeriaid Sky Talk - am ddim)
Talk TalkAm ddimAm ddimAm ddim£2.55Am ddimAm ddimDdim ar gael
Virgin Media£2.25Am ddimAm ddim£2.25Ddim ar gael8£2.70Ddim ar gael

Taliadau misol yw'r prisiau a restrir. Y darparwyr a ddangosir uchod yw'r rhai sydd â chyfran berthnasol o'r farchnad uwchben 1% neu â rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol i sicrhau bod gwasanaethau telathrebu llinell sefydlog sylfaenol ar gael am bris fforddiadwy i ddinasyddion ledled y DU (BT a KC). Mae darparwyr cyfathrebu eraill yn cynnig yr un gwasanaethau neu wasanaethau tebyg. Wrth ddewis darparwr dylai defnyddwyr ystyried y rhain hefyd a gwirio eu darpariaeth o'r gwasanaethau perthnasol a'r tâl a godir amdanynt. Dylai defnyddwyr sy'n gwsmer i ddarparwr arall wirio eu gwasanaethau a'r tâl a godir amdanynt.

Er mwyn hwyluso cymharu, mae Ofcom wedi defnyddio enw a disgrifiad generig ar gyfer pob un o'r gwasanaethau a gynigir gan y darparwyr cyfathrebu a restrir. Er bod y gwasanaethau o'r un fath yn fras, mae'n bosib y bydd gwahaniaethau bach yn y ffordd y mae'r gwasanaethau'n gweithredu a'r nodweddion y maent yn eu cynnig. Felly, dylai defnyddwyr wirio union natur y gwasanaeth gyda'r darparwr yn uniongyrchol. 

Gwybodaeth yn gywir ar 30 Ionawr 2017

1.-Blociau o hyd at 10 rhif, oni nodir fel arall
2.-Mae dangos y galwr ar gael am ddim ar gais gyda chontract rhentu llinell 12 mis. Fel arall, codir £1.75 y mis amdano.  Bydd cwsmeriaid ar dariff BT Basic/ Home Phone Saver yn derbyn BT Privacy with Caller Display yn ddi-dâl.
3.-Mae Gwrthod Galwadau Anhysbys ar gael dim ond fel rhan o becyn nodweddion galw EE. Codir £3 y mis am hyn ac mae hefyd yn cynnwys Dargyfeirio Galwadau a Galwad yn Aros.
4.- Mae tâl KC o £1.02 am dangos y galwr yn berthnasol i ddefnyddwyr ar y Cynllun Defnyddwyr Ysgafn a'r tariff KC Local. Ar gyfer pob tariff arall, gan gynnwys eu Pecyn Mynediad Cymdeithasol, mae'r gwasanaeth am ddim.
5.-Mae'r tâl o £1.02 am laisbost 1571 gwell yn berthnasol i'r Cynllun Defnyddwyr Ysgafn, KC Local a'r Pecyn Mynediad Cymdeithasol.
6.-Nid oes terfyn ar nifer y galwadau sy'n dod i mewn y gellir eu rhwystro
7.-Mae gwrthod galwadau anhysbys am ddim i gwsmeriaid ar y Pecyn Mynediad Cymdeithasol, KC Anytime, KC Home Xtra a KC Home Unlimited. Mae'r tâl o £1 yn berthnasol i bob tariff siarad a bwndel KC arall.
8.-Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid cebl Virgin Media.

Gwasanaethau eraill

Mae'n bosib bod darparwyr cyfathrebu hefyd yn cynnig gwasanaethau eraill i'ch helpu i daclo galwadau dieisiau. Mae rhai cwmnïau'n cynnig tîm penodedig i roi cyngor a chymorth. Mae rhai eraill yn darparu'r gwasanaethau hyn drwy eu timau gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae ffonau neu unedau rhwystro galwadau y gellir eu rhaglennu i sgrinio galwadau dieisiau hefyd ar gael. Gellir prynu'r rhain gan fanwerthwyr yn ogystal â chan rai cwmnïau ffôn yn uniongyrchol. Dylech wirio i weld a fydd angen i chi gofrestru am wasanaeth dangos y galwr i ddefnyddio'r set llaw yn effeithiol.

Os ydych yn pryderu am alwadau dieisiau, dylech siarad â'ch darparwr (neu ddarpar ddarparwr) i gael gwybod am unrhyw wasanaethau eraill sydd ar gael.

Darllen mwy am alwadau dieisiau.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?