Anfon neges destun yw un o'r ffyrdd mwyaf pobologaidd o hyd o gadw mewn gysylltiad.
Felly does dim syndod bod cwmnïau'n dewis marchnata eu cynnyrch drwy negeseuon testun.
Mae'r canllaw hwn yn esbonio'r negeseuon testun sbam a sut i'w stopio.
Neges destun sbam ydy neges destun sy’n marchnata cynnyrch neu wasanaeth penodol ac sy’n cael ei hanfon i ffôn symudol.
Mae sawl pwrpas i’r negeseuon testun hyn. Er enghraifft:
Rheoli hawliadau - mae'r rhain yn bennaf yn ymwneud â hawliadau anafiadau personol a hawliadau cam-werthu yswiriant gwarchod taliadau (PPI).
Rheoli dyledion – mae’r negeseuon hyn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau rheoli dyledion.
Mae sefydliadau’n anfon y negeseuon testun hyn i greu rhestr o gwsmeriaid posibl y maent wedyn yn ei gwerthu i gwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth yn y neges.
Yn achos hawliadau anaf personol, byddai'r rhestr yn cynnwys enwau pobl sydd â diddordeb mewn hawlio iawndal am anaf personol.
Mae’r rhestr hon wedyn yn cael ei gwerthu i gwmni sy’n rheoli hawliadau anaf personol. Bydd yn cysylltu â'r bobl ar y rhestr ac yn cynnig iddynt y gwasanaethau y maent yn eu darparu ar gyfer delio â hawliadau posibl.
.
Mae unrhyw un sy’n anfon negeseuon testun sbam yn torri’r gyfraith oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd iddynt yn flaenorol.
Ond, os oes perthynas cwsmer rhyngoch chi a’r anfonwr yn barod, caiff anfon negeseuon testun sbam atoch am gynnyrch a gwasanaethau tebyg, gyhyd â'ch bod chi’n gallu dewis peidio â derbyn negeseuon o'r fath.
Nid yw’r gyfraith yn berthnasol i negeseuon a anfonir at rifau busnes.
Os byddwch yn derbyn neges destun oddi wrth rywun rydych yn gyfarwydd ag ef, neu oddi wrth rif neu god byr (mae cod byr fel arfer yn 5 digid ond gall fod hyd at 8), anfonwch ‘STOP’ i'r rhif ffôn neu’r cod byr a ddangosir yn y neges destun.
Bydd hyn yn dweud wrth yr anfonwr nad ydych am gael rhagor o negeseuon testun ganddynt.
Ond, os nad ydych yn gwybod pwy sydd wedi anfon y neges destun, neu os yw wedi dod oddi wrth rywun nad ydych yn gyfarwydd ag ef, rydym yn argymell i chi beidio ag ateb.
Bydd ymateb i'r neges destun yn cadarnhau bod eich rhif yn cael ei ddefnyddio a gall arwain at hyd yn oed fwy o negeseuon oddi wrthynt, a hyd yn oed alwadau llais.
Yn hytrach, gallwch roi gwybod i’ch cwmni rhwydwaith am y neges destun.
I roi gwybod am neges destun sbam, anfonwch y neges yn ei blaen i 7726.
Efallai y cewch ymateb awtomatig yn diolch i chi ac yn rhoi rhagor o gyfarwyddiadau i chi os bydd angen. Fyddwch chi ddim yn gorfod talu am anfon negeseuon testun i 7726.
Ffordd hawdd o gofio’r rhif ‘7726' - y rhain ydy’r rhifau ar allweddbad eich ffôn sy’n sillafu'r gair ‘SPAM'.
Gall eich cwyn arwain at fanteision go iawn, i chi fel unigolyn ac i ddefnyddwyr yn gyffredinol.
A'r rheswm? Mae gan gwynion rôl hollbwysig yn helpu rheoleiddwyr i fynd ar ôl y cwmnïau sy’n gyfrifol am negeseuon a galwadau niwsans. Heb eich cwynion chi, byddai rheoleiddwyr yn ei chael yn llawer mwy anodd canfod y rheini sy’n gyfrifol a chymryd camau yn eu herbyn.
Er na fydd cwyno o bosib yn stopio'r holl alwadau neu negeseuon niwsans rydych yn eu derbyn yn gyfan gwbl, mae’n helpu'r rheoleiddwyr i weithredu’n fwy penodol yn y maes hwn.
Mae cwyno yn broses hawdd. Gallwch gwyno ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post, a gall gymryd cyn lleied â 5 munud.
Cewch gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy: