Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau
Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau yw rhaglen waith Ofcom i helpu gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein oedolion a phlant yn y DU.
Rydyn ni'n gwneud hyn trwy rannu ein mewnwelediad ein hunain, a thrwy roi hwb i'r gymuned ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ehangach i symud ymlaen a pheilota gweithgareddau a mentrau i gefnogi hyn. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar gorff ymchwil sylweddol Ofcom i arferion cyfryngau'r DU, ei hagweddau atynt a'i dealltwriaeth feirniadol ohonynt.
Yn yr adran hon gallwch chi ddod o hyd i ddolenni i'n hymchwil ymwbyddiaeth o'r cyfryngau ac ymchwil farchnad ar-lein berthnasol, ynghyd â gwybodaeth arall am Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau, gan gynnwys ein panel cynghori a manylion ar sut i ymuno â'n rhwydwaith rhanddeiliaid.
Dyma ddiffiniad Ofcom o ymwybyddiaeth o'r cyfryngau: "y gallu i ddefnyddio, deall a chreu cyfryngau a chyfathrebiadau mewn amrywiaeth o gyd-destunau".
Mae hyn yn adeiladu ar ddyletswydd statudol Ofcom i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, fel y nodir yn Neddf Cyfathrebiadau 2003.
Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n bwysig am gynifer o resymau. Mae'n bwysig y gallwn i gyd gymryd rhan ar-lein. Mae'n bwysig y gall y rhai sydd ar gyrion ein cymdeithas hefyd elwa o gael eu cysylltu. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn gwybod nid yn unig sut i gadw'n ddiogel ar-lein, ond i gael y sgiliau a'r hyder i ffynnu ar-lein. I wneud y pethau rydym yn eu mwynhau, dod o hyd i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom, a chysylltu â'r rhai yr ydym yn eu caru.
Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn galluogi pobl i feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud defnydd llawn o'r cyfleoedd a gyflwynir gan wasanaethau cyfathrebu traddodiadol a newydd. Mae meddu ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein yn hanfodol i'r ffordd y mae pobl yn gweithredu fel defnyddwyr a dinasyddion digidol.
Mae'r rôl ganolog y mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn ei chwarae ar-lein hefyd yn effeithio ar fywydau ehangach pobl. Mae hyn yn cynnwys galluogi defnyddwyr i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cynnal perthynas iach ag eraill, dod o hyd i wybodaeth a'i chymathu, a ffurfio a mynegi barn yn feirniadol.
Mae'n ddyletswydd statudol ar Ofcom i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, fel y nodir yn adran 11 Deddf Cyfathrebiadau 2003. Mae'n ddyletswydd arnom hefyd i wneud trefniadau i gynnal ymchwil i faterion ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, fel y nodir yn adran 14(6)(a) Deddf Cyfathrebiadau 2003.
At hynny, Ofcom yw'r rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU. Ers 1 Tachwedd 2020, mae'n rhaid i VSP a sefydlir yn y DU gydymffurfio â rheolau newydd o gwmpas diogelu defnyddwyr rhag fideos niweidiol.

Ein blaenoriaethau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau
Mae ein hymagwedd at hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein yn aml-ochrog ac yn ystyried nifer o wahanol agweddau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- beth mae defnyddwyr yn ei wneud ac yn dod ar ei draws ar-lein;
- sut gall mentrau ywybyddiaeth o'r cyfryngau wella sgiliau digidol; a
- sut gall dylunio'r gwasanaethau gael effaith ar allu defnyddwyr i gymryd rhan yn llawn ac yn ddiogel ar-lein.
Byddwn yn canolbwyntio ein gweithgareddau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn pum maes. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch rhain isod.
Ymgysylltu
Ymgysylltu â’r amrywiaeth eang o ymarferwyr ymwybyddiaeth o’r cyfryngau
Cychwyn
Cychwyn treialon ac ymgyrchoedd peilot i hybu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau
Sefydlu
Sefydlu arfer gorau o ran egwyddorion dylunio ymwybyddiaeth o’r cyfryngau
Gwerthuso
Darparu canllaw ar werthuso a thystiolaeth ar beth sy’n gweithio