Mae'r blog hwn yn cyflwyno rhai o brif ganfyddiadau ein gwaith ymchwil ansoddol newydd ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, ac yn edrych ar ffyrdd i ganfod ein ffordd o’u cwmpas a lliniaru eu heffaith. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau ein quantitative survey a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024, a oedd yn edrych ar ymddygiad ac agweddau oedolion y DU yn y maes hwn.
Mae’n bwysig bod yn glir o’r dechrau bod camwybodaeth yn derm goddrychol. Mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir priodweddu camwybodaeth, ac felly mae’n bwysig deall cyd-destun ehangach agweddau a gwybodaeth pobl.
Rydyn ni’n cynnal y gwaith ymchwil hwn fel rhan o’n rhaglen waith ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, i helpu i lywio dyletswydd Ofcom o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ac i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o natur ac effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar-lein. Mae hefyd yn cynnig ffyrdd o liniaru’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â gwybodaeth o’r fath.
Mae llawer o bobl yn poeni am effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a gall unrhyw un fod yn agored i hynny
“Dydy camwybodaeth ddim yn golygu pobl yn credu yn y peth anghywir yn unig - mae’n gallu cael canlyniadau yn y byd go iawn” (Menyw, 35+)
Clywsom hyn gan un o’r cyfranogwyr y buom yn siarad â nhw yn ein hastudiaeth, ac ategwyd y teimlad hwn gan y rhan fwyaf o’r bobl y buom yn siarad â nhw. Mae llawer o bobl yn poeni am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, ac mae’r byd ar-lein a’r cyfryngau rydym yn byw ynddo heddiw yn dwysáu eu heffaith ar unigolion ac ar gymdeithas ehangach.
Mae Llywodraeth y DU wedi diffinio twyllwybodaeth fel creu a lledaenu gwybodaeth ffug a/neu wedi’i thrin yn fwriadol, gyda’r bwriad o dwyllo a chamarwain pobl. Camwybodaeth yw lledaenu gwybodaeth ffug yn anfwriadol.[1]
Mae ein gwaith ymchwil tracio yn awgrymu bod nifer yr achosion o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn cynyddu ar-lein.[2] Ar ben hynny, roedd ein data a gyhoeddwyd yn yr hydref yn dangos bod dros ddwy ran o bump (43%) o oedolion y DU wedi dweud eu bod wedi dod ar draws camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn y pedair wythnos diwethaf (adeg holi). Roedd naw o bob deg o’r rhain yn poeni am yr effeithiau cymdeithasol, ac roedd ychydig o dan ddwy ran o dair yn poeni am yr effaith arnyn nhw eu hunain o ddod ar draws camwybodaeth a thwyllwybodaeth.[3] Gall pawb fod yn agored i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n cynnwys llawer o wybodaeth gymhleth, ac mae pryderon a rhagdueddiadau o ran camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn gyffredin
Roedden ni am ddeall y ffordd orau y gall strategaethau a negeseuon cymorth helpu i liniaru effeithiau camwybodaeth a thwyllwybodaeth, ac felly fe wnaethom gynnal ymchwil ansoddol ymhlith tri grŵp o bobl:
- Y rheini a oedd â barn leiafrifol o’r blaen[4]
- Y cyhoedd mewn gweithdai ar-lein
- Arbenigwyr y cyfryngau
Gyda’r cyfranogwyr hyn, fe wnaethom archwilio a chyd-greu negeseuon, strategaethau cymorth posibl ac adnabod lleisiau dibynadwy er mwyn helpu i fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Disgrifiodd ein cyfranogwyr amrywiol rwystrau roedden nhw’n teimlo oedd yn eu hatal nhw – ac eraill – rhag adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Bydd y rhain yn taro tant gyda llawer ohonom, ac yn cynnwys
- Gormod o wybodaeth: Doedd dim syndod gweld bod llawer o bobl yn teimlo eu bod yn boddi mewn opsiynau o ran ffynonellau gwybodaeth. Am bob stori newyddion, gallai fod cannoedd o erthyglau, darnau’n mynegi barn, penodau podlediad, cartwnau, riliau cyfryngau cymdeithasol ac ati. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu llethu wrth geisio dod o hyd i wybodaeth gywir.
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w gredu...roedd cymaint o wybodaeth ar gael.” (Dyn, 35+, a oedd â barn leiafrifol o’r blaen)
- Cynnwys sy’n cael ei greu gan ddeallusrwydd artiffisial: Fel yr amlinellwyd yn ein papur trafod Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau Deall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn fwyfwy argyhoeddiadol o ran dynwared cynnwys a gynhyrchir gan bobl, mae’n debygol y bydd y llinellau rhwng cynnwys go iawn a chynnwys ffug yn dod yn fwyfwy aneglur, gan ei gwneud yn fwy heriol i ddefnyddwyr ganfod pa wybodaeth sy’n ddilys a beth sy’n gamwybodaeth ac yn dwyllwybodaeth wedi’i chynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial[5]. Mae hyn yn cyd-fynd â phryderon cyfranogwyr ynghylch sut nad ydyn nhw/eu hanwyliaid bob amser yn gallu sylwi ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth.
“Yn aml dydy fy rhieni ddim yn gwirio [gwybodaeth] eto cyn ei rhannu... A dydyn nhw ddim yn gallu gweld yr arwyddion pan allai fideo neu lun fod wedi cael ei gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial.” (Dyn, 35+)
- Siambrau adlais a rhagfarn sy’n cadarnhau: Rydyn ni’n cael ein denu’n naturiol at safbwyntiau a barn sy’n cyd-fynd yn agos â’n rhai ni,[6] ac mae algorithmau argymell yn cydnabod hyn ac yn dymuno cadw ein sylw. O ganlyniad, dywedodd cyfranogwyr eu bod wedi gweld eu barn yn cael ei chadarnhau’n barhaus drwy’r wybodaeth ar-lein a’r cymunedau roedden nhw’n ymgysylltu â nhw, yn ogystal â thrwy gyfryngau cymdeithasol.
“Roeddwn i eisiau credu oherwydd bod pawb arall yn credu’r peth.” (Dyn, 35+, a oedd â barn leiafrifol o’r blaen)
Gallai fod yn demtasiwn i bobl gredu bod pobl eraill yn fwy agored i gredu camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Yn wir, dyma ddywedodd rhai cyfranogwyr pan ofynnwyd iddyn nhw gyntaf am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Roedd llawer ohonyn nhw’n credu mai cenedlaethau hŷn neu iau oedd yn fwyaf agored i hyn, er enghraifft eu plant, eu rhieni neu neiniau a theidiau:
“Dydy fy rhieni ddim yn cwestiynu dim byd, maen nhw’n cymryd bod y straeon newyddion maen nhw’n eu darllen yn ffaith.” (Menyw, 16-34)
“Mae cynulleidfa(oedd) iau yn tueddu i gredu’r rhan fwyaf o bethau os ydyn nhw’n cael eu hyrwyddo gan berson enwog neu ddylanwadwr ni waeth beth maen nhw’n ei ddweud neu’n ei werthu... rwy’n meddwl bod gwybodaeth gamarweiniol yn dylanwadu ar fy merch hynaf oherwydd ei bod hi’n dilyn llawer o lwyfannau cymdeithasol.” (Dyn, 35+)
Er gwaethaf hyn, cafwyd consensws yn y pen draw bod pawb yn debygol o fod yn agored i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth ar ryw adeg yn eu bywydau.
Sut gallwn ni annog pobl i siarad am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, heb ofn na beirniadaeth?
Er bod llawer o wybodaeth a ffyrdd ymlaen yn yr adroddiad rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw, yr hyn yr hoffem dynnu sylw ato yma yw gofalu bod modd i ni siarad am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn ein grwpiau teuluol a chymdeithasol, ac i sefydliadau cymdeithas sifil, a darlledwyr a darparwyr newyddion eraill allu gwneud hynny hefyd.
Yn strategaeth tair blynedd Ofcom ar gyfer ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, rydyn ni wedi tynnu sylw at yr angen i sicrhau bod ymwybyddiaeth o'r cyfryngau “yn fater i bawb - llwyfannau ar-lein, rhieni, addysgwyr, sefydliadau trydydd sector, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, darlledwyr (gan gynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus) ac eraill. Er mwyn gwireddu potensial ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn llawn yn y DU, byd cyfraniadau a chydweithio gan bawb yn hanfodol.”[7]
Rydyn ni’n eich gwahodd i feddwl am sut i greu mannau diogel i gael sgyrsiau agored, heb feirniadaeth am y mater hwn. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod y dull hwn yn helpu i annog y rheini sydd â safbwyntiau lleiafrifol i ganfod eu ffordd drwy gamwybodaeth a thwyllwybodaeth ac yn cefnogi pawb i ddelio â gwybodaeth ffug. Os yw hyn yn rhywbeth y mae eich sefydliad eisoes yn ei wneud, ystyriwch sut gallech chi ehangu eich gweithgareddau ymhellach er mwyn rhannu arferion gorau.
Beth yw’r dulliau gorau o gyfleu negeseuon a phwy yw’r lleisiau dibynadwy sy’n gallu annog meddwl yn feirniadol?
Yn ein gwaith ymchwil, datgelodd y rhai y buom yn siarad â nhw a oedd â barn leiafrifol yn flaenorol ei bod yn cymryd peth amser iddyn nhw symud i ffwrdd o’r farn honno. Doedd dim moment ‘dyna fe!’, nac un catalydd penodol.
“Wnes i ddim newid fy marn ar unwaith ... fe gymerodd amser, wyddoch chi, i wrando ar rywfaint o’r newyddion yma, ymchwilio, clywed y cyfweliadau [gyda gwyddonwyr a meddygon ar newyddion ar y teledu].” (Dynes, 16-34, a oedd â barn leiafrifol o’r blaen)
Mae angen i amgylcheddau newid dros gyfnod hwy o amser ac mae angen mynd i’r afael â’r tabŵs sy’n ymwneud â dal safbwyntiau lleiafrifol.
“Byddai gallu rhannu fy marn yn fwy agored wedi helpu yn ystod y cyfnod hwnnw.” “[Roedd y farn yn dipyn o tabŵ] ...roedd hynny wedi gwneud pethau’n waeth oherwydd roeddwn i’n teimlo na allwn i fynegi beth roeddwn i’n ei feddwl i lawer o bobl mewn gwirionedd.” (Dynes, 16-34, a oedd â barn leiafrifol o’r blaen)
“Caniatáu ar gyfer deialog agored, gadael iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw gael y sgwrs heb deimlo eu bod yn cael eu beirniadu.” (Dyn, 16-34, a oedd â barn leiafrifol o’r blaen)
Pan ofynnwyd pwy fyddai’n llais dibynadwy i helpu i fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth, roedd yr enwau a awgrymwyd yn cynnwys yr Athro Brian Cox a David Attenborough, ffigurau adnabyddus sydd hefyd yn siarad yn agored, heb fod yn feirniadol a heb fod yn nawddoglyd, am y materion maen nhw’n wybodus yn eu cylch.
“Ddylai’r dôn ddim bod yn wrthdrawiadol, nac yn nawddoglyd nac yn feirniadol, hynny yw, peidiwch â dweud wrth bobl eu bod yn dwp neu’n anghywir.” (Dyn, 16-34, a oedd â barn leiafrifol o’r blaen)
Roedd y cyfranogwyr am i leisiau a negeseuon ddod o bob carfan o gymdeithas. Er enghraifft: arweinwyr cymunedol, addysgwyr, cyfoedion uchel eu parch sy’n rhannu pethau’n gyffredin â chynulleidfa darged. Tynnodd arbenigwyr y cyfryngau y buom yn siarad â nhw sylw at y ffaith y gallai lleisiau partneriaethau fod yn bwerus er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd penodol, e.e. arbenigwyr wedi’u paru â phobl y gellir ymddiried ynddyn nhw yn y gymuned – meddyliwch am David Attenborough gydag athrawon ysgol neu’r Athro Brian Cox gyda’ch meddyg teulu lleol.
Dywedodd ein cyfranogwyr wrthym mai dulliau gweithredu sy’n cynnwys sawl elfen oedd yn teimlo orau. Fel y nodwyd yn gynharach, gall pawb fod yn agored i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, ond dydy hyn ddim yn golygu y bydd un neges/strategaeth yn addas i bawb. Rhaid defnyddio nifer o sianeli a negeseuon wedi’u teilwra i dargedu gwahanol segmentau o’r boblogaeth.
Mae rhai o’r awgrymiadau o’r gweithdai hyn yn adlewyrchu’r dulliau rydyn ni eisoes yn eu treialu gyda sefydliadau rydyn ni wedi’u comisiynu i brofi gwahanol ddulliau o siarad am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Awgrymodd un grŵp y byddai Men’s Sheds yn lle da i gael sgyrsiau anodd am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Bydd Red Chair Highland, menter gymdeithasol ficro yn Inverness rydyn ni’n ei chefnogi fel rhan o’n rhaglen Untold Stories, yn gwneud hynny’n union, yn Dingwall, ym mis Gorffennaf eleni.
I gael rhagor o wybodaeth am negeseuon ac ymyriadau wedi’u targedu, darllenwch ein hadroddiad ‘Beth sy’n gweithio o ran darparu gweithgareddau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau’.
“Dylai pawb fod yn rhan o rannu’r neges honno ... i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn cael ei lledaenu’n eang ... byddai angen ffynonellau gwahanol yn bendant.” (Dynes, 16-34, a oedd â barn leiafrifol o’r blaen)
Fel y mae'r gwaith ymchwil hwn wedi’i gadarnhau, mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn faterion cymdeithasol cymhleth, felly bydd angen ymdrech gymdeithasol i symud ymlaen i drafod y rhain yn agored gyda mwy o ymwybyddiaeth feirniadol. Rydyn ni am i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau fod yn fusnes i bawb, gan alluogi pobl i gael y sgiliau i werthuso gwybodaeth yn feirniadol ar eu telerau eu hunain.
I gael rhagor o wybodaeth, llwythwch ein hadroddiad a'n hadolygiad llenyddiaeth i lawr.
[1] Taflen Ffeithiau ar CDU ac RRU - GOV.UK
[2] Agweddau Oedolion a’u Defnydd o Gyfryngau: Mae hanner (49%) yr oedolion sy’n defnyddio llwyfannau cyfathrebu ar-lein yn credu eu bod wedi gweld stori newyddion sy’n fwriadol anghywir neu gamarweiniol ar yr apiau maen nhw’n eu defnyddio – i fyny o 45% y llynedd. Traciwr Profiadau Ar-lein: Mae 41% o ddefnyddwyr rhyngrwyd 13 oed a hŷn yn y DU wedi dweud eu bod wedi dod ar draws camwybodaeth yn ystod y pedair wythnos diwethaf yn 2025. Mae hyn yn uwch na’r tair blynedd diwethaf y gofynnwyd y cwestiwn hwn.
[3] Adroddiad meintiol Ofcom ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth
[4] Fel yr esboniwyd mewn gwaith ymchwil blaenorol gan Ofcom ‘Deall profiadau o gredoau lleiafrifol ar lwyfannau cyfathrebu ar-lein’, rydyn ni’n diffinio barn neu gred leiafrifol yma fel un nad yw’n gyffredin iawn ymhlith poblogaeth gyffredinol y DU, ac sy’n cynnwys categori ehangach o gredoau na thermau mwy penodol eraill fel camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
[5] Deall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol
[6] Beth yw rhagfarn sy’n cadarnhau? - BBC Bitesize
[7] Strategaeth Derfynol Tair Blynedd Ofcom ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau