Perfformiad band eang cartref y DU, cyfnod mesur Mawrth 2023

14 Medi 2023

Ymchwil ddiweddaraf Ofcom i berfformiad band eang llinell sefydlog a ddarperir i gartrefi yn y DU. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gennym ym mis Mawrth 2023.

Mae ein Hadroddiad ar y Farchnad Gyfathrebiadau yn dangos bod 86% o gartrefi yn y DU yn defnyddio band eang sefydlog. Mae’r ffaith bod mwy o bobl yn gweithio o gartref a’r defnydd eang o wasanaethau sy’n drwm ar fand eang fel ffrydio fideos yn golygu bod angen band eang dibynadwy, o ansawdd uchel ar y rhan fwyaf o bobl.

Mae’r adroddiad yn defnyddio dwy brif ffynhonnell ddata:

  • data a gasglwyd gan SamKnows gan wirfoddolwyr sy’n cysylltu uned monitro caledwedd i’w llwybrydd band eang; a
  • data a ddarparwyd i Ofcom gan bedwar darparwr band eang mwyaf y DU.

Adroddiad technegol - Perfformiad band eang cartref y DU, cyfnod mesur Mawrth 2023 (PDF, 1.4 MB)
Cyhoeddwyd 14 Medi 2023

Noder bod y deunyddiau isod yn Saesneg:

Atodiadau – Perfformiad band eang cartref y DU, cyfnod mesur Mawrth 2023 (PDF, 405.6 KB)
Cyhoeddwyd 14 Medi 2023

Adroddiad rhyngweithiol

Lawrlwytho'r data

Data Dyddiad cyhoeddi
Chart data (CSV, 45.6 KB) 14 Medi 2023
Panellist data (CSV, 1.7 MB) 14 Medi 2023