Cyfryngau'r Genedl 2020

03 Tachwedd 2020

Dyma drydydd adroddiad blynyddol Cyfryngau'r Genedl gan Ofcom, cyhoeddiad cyfeiriadol i’r diwydiant, gwneuthurwyr polisi, academyddion a defnyddwyr.

Mae’n adolygu tueddiadau allweddol yn y sectorau teledu a fideo ar-lein, ynghyd â’r radio a sectorau sain eraill. Yn ogystal â’r adroddiad hwn, ceir adroddiad rhyngweithiol sy’n cynnwys ystod eang o ddata. Mae yno hefyd adroddiadau ar wahân ar gyfer y DU, Cymru,Gogledd Iwerddon a’r Alban

Daw'r adroddiad eleni ynghanol cyfnod byrlymus a heriol i ddiwydiant y cyfryngau yn y DU. Mae pandemig Covid-19 a'r cyfnod clo ddaeth yn ei sgil wedi newid ymddygiad defnyddwyr yn sylweddol ac wedi achosi tarfu ar draws darlledu, cynhyrchu, hysbysebu a sectorau cysylltiedig eraill.

Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio yn bennaf ar ddatblygiadau diweddar a'u goblygiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n eu gosod yn erbyn cefndir tueddiadau fwy hir dymor a nodwyd yn ein hadolygiad pum mlynedd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC) a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, rhan o'n hadolygiad o gyfryngau gwasanaethau cyhoeddus, Sgrin Fach, Trafodaeth Fawr. Mae Cyfryngau'r Genedl yn rhoi mwy o dystiolaeth i gefnogi hyn, ac yn ogystal, yn asesu tirwedd y diwydiant yn ehangach.

Cyfryngau'r Genedl: adroddiadau

Adroddiad rhyngweithiol

Mae'r adroddiad data yma, sydd ar gael yn Saesneg yn unig, yn cydfynd gydag adroddiad y DU ac yn darparu mynediad rhyngweithiol i amrywiaeth eang o ddata.

Media Nations: Interactive report 2020