Meysydd Electromagnetig (EMF)

Mae pob defnydd o sbectrwm radio yn creu meysydd electromagnetig (EMF) ac mae canllawiau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol sy'n helpu sicrhau bod gwasanaethau'n gweithredu mewn ffordd na fydd yn effeithio'n andwyol ar iechyd.

Cyhoeddir y canllawiau hyn gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydriad Anioneiddiol (ICNIRP) ac maent yn cynnwys terfynau ar amlygiad i EMF er mwyn diogelu’r cyhoedd. Rydym yn cyfeirio at y terfynau hyn fel “y terfynau EMF cyffredinol i'r cyhoedd”.

Yn y DU, Public Health England (PHE) sy'n arwain ar faterion iechyd cyhoeddus gysylltiedig ag EMF, ac mae'n ddyletswydd statudol arnynt i roi cyngor i Lywodraeth y DU ar unrhyw effeithiau iechyd a allai gael eu hachosi gan amlygiad i EMF. Prif gyngor PHE yw y dylai amlygiad i EMF gydymffurfio â'r terfynau EMF cyffredinol i'r cyhoedd.

Mae Ofcom yn awdurdodi ac yn rheoli'r defnydd o'r sbectrwm radio yn y DU. Rydym yn rhoi trwyddedau ac yn gosod amodau ar gyfer defnyddio sbectrwm heb drwydded. Wrth berfformio'r rôl honno, rydym yn cymryd cyngor PHE ar amlygiad i EMF i ystyriaeth. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) bellach wedi cymryd drosodd gan PHE o ran y cyfrifoldebau hyn.

Mesur lefelau EMF o gwmpas mastiau ffôn symudol

Mae Ofcom wedi bod yn gwneud mesuriadau EMF ger mastiau ffôn symudol ers blynyddoedd lawer. Mae'r mesuriadau cyhoeddedig hyn wedi dangos yn gyson fod lefelau EMF ymhell o fewn y terfynau EMF cyhoeddus cyffredinol.

Gallwn hefyd wneud mesuriadau ger mastiau ffôn symudol wrth ymateb i geisiadau gan ysgolion, ysbytai neu aelodau o'r cyhoedd.

Rheolau EMF Ofcom

Mae'r rhan fwyaf o drwyddedau sbectrwm a gyhoeddir gan Ofcom yn cynnwys amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i drwyddedau sicrhau cydymffurfiaeth â'r terfynau EMF cyffredinol i'r cyhoedd.

Ewch i un o'r tudalennau canlynol i gael rhagor o wybodaeth am reolau EMF Ofcom:

Featured content

Ymholiadau trwyddedu

Ar gyfer pob trwydded ac eithrio trwyddedau darlledu

Gwneud ymholiad

Ar gyfer trwyddedau darlledu

Gwneud ymholiad am drwydded darlledu