Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i dudalennau gwe sy’n dechrau gydag ofcom.org.uk/os-toolkit.
Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
- llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
- Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
- Profi safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
- Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried
- Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall gan gyhoeddi erthyglau defnyddwyr yng nghyswllt cyhoeddiadau mawr
Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Mae rhai rhannau o'r adnodd yn anoddach eu defnyddio gyda bysellfyrddau a meddalwedd darllenydd sgrin.
- Mae rhai cydrannau’n anoddach eu defnyddio gyda thechnolegau cynorthwyol gan nad ydynt yn cynnwys labeli disgrifiadol neu labeli sydd wedi’u pennu’n rhaglennol, ac nad oes cynrychiolaeth briodol o strwythur y cynnwys.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y wefan. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu drwy anfon e-bost at accessibilityrequests@ofcom.org.uk. Mae manylion am hyn a sut i gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu BSL ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.
Gallwch hefyd gwyno drwy ein hyb.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n cyflawni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen hon.
Gweithdrefn Gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd y mathau o ddiffyg cydymffurfio sydd wedi'u rhestru isod.
Methu cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
- Nid oes trefn ffocws resymegol i’r tudalennau â blychau ticio deinamig sy’n cynhyrchu gwybodaeth ychwanegol. Gall hyn olygu ei bod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ganfod ble mae'r cynnwys yn gorffen. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3, Trefn Ffocws.
- Nid yw rhai botymau wedi'u labelu'n gywir ac nid ydynt yn disgrifio eu pwrpas yn ddigonol o gyd-destun i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Mae hyn yn cynnwys botymau yn ôl,botymau anweithredol a botymau golygu. Mae hyn yn methu â chyflawni maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Nid yw rhai negeseuon statws, gan gynnwys "wedi copïo’n llwyddiannus" ar ôl copïo eich cyfeirnod unigryw, yn cael eu cyflwyno i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 4.1.3, Negeseuon Statws.
- Nid yw rhwyfaint o’r testun yn bodloni’r cyferbyniad lliw gofynnol. Mae hyn yn methu â chyflawni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.2 (cyferbyniad (isafswm)).
- Nid yw rhai o’r dangosyddion ffocws ar y tudalennau ‘Canllawiau Darllen’ a ‘Trosolwg’ yn ddigonol. Mae hyn yn methu â chyflawni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.7 Ffocws Gweladwy (Lefel AA).
- Nid yw'r strwythur penawdau yng ngham un yn cael ei gyflwyno'n iawn i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Nid yw botymau anweithredol yn cael eu hanwybyddu’n rhaglennol, a gall fod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin wahaniaethu rhwng botymau gweithredol ac anweithredol. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3 Trefn Ffocws (Lefel A).
- Nid yw rhai meysydd wedi’u nodi’n briodol fel rhai gorfodol, gall hyn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr adnabod pa feysydd sy’n ofynnol. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A).
- Nid yw teitlau tudalennau yn disgrifio pwrpas na phwnc y dudalen yn ddigonol. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â Maen Prawf Llwyddiant 2.4.2, Teitlau Tudalennau.
- Mae neges statws ar ôl cadw cynnydd ar goll. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 4.1.3, Negeseuon Statws.
- Pan fydd mwy nag un bar sgrolio yn bresennol, ni all bysellfyrddau ddefnyddio rhai bariau sgrolio. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â Maen Prawf Llwyddiant 2.1.1, Bysellfwrdd.
- Pan gaiff ei chwyddo i 400%, mae rhywfaint o'r testun yn cael ei guddio gan gydrannau tudalen eraill, gan ei gwneud hi'n anodd darllen y testun. Mae hyn yn methu â chyflawni Ail-lifo Maen Prawf Llwyddiant 1.4.10.
- Nid yw rhai tudalennau'n cynnwys blociau osgoi; felly, mae'n ofynnol i ddefnyddwyr dabio trwy gynnwys ailadroddus. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 2.4.1 Osgoi Blociau.
- Nid yw rhannau o rai cwestiynau yn cael eu darllen yn uchel gan ddarllenwyr sgrin, gan ei gwneud hi'n anodd i ddefnyddwyr ddeall cyd-destun y cwestiynau hynny. Mae hyn yn methu â chyflawni maen prawf llwyddiant 2.4.6 penawdau a labeli.
Rydym yn bwriadu datrys yr uchod erbyn mis Rhagfyr 2025.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Mai 2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Mai 2025. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol yn ogystal â dulliau profi eraill.
- JAWS
- Offeryn Gwerthuso WAVE
- headingsMap
- Accessibility Insights for Web
- Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG