
- Saith ymchwiliad i ddelweddaeth cam-drin plant yn rhywiol ar wasanaethau rhannu ffeiliau
- Ymchwilio i 4chan ynghylch cydymffurfiad â dyletswyddau i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon
- Ymchwilio’r darparwr pornograffi First Time Videos mewn perthynas â rheolau gwirio oedran i amddiffyn plant
Heddiw, mae Ofcom wedi lansio ymchwiliadau i weld a yw saith gwasanaeth rhannu ffeiliau, 4chan a’r darparwr pornograffi, First Time Videos wedi methu cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU.
Dyletswyddau o dan y Ddeddf
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein wedi cyflwyno rheolau newydd i sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn cymryd camau i ddiogelu eu defnyddwyr yn y DU, yn enwedig plant.[1]
Mae’n rhaid i safleoedd sy’n cyhoeddi eu pornograffi eu hunain gael prosesau archwilio oedran effeithiol iawn ar waith i atal plant rhag cael gafael ar y deunydd hwn. Dylai gwasanaethau chwilio a defnyddiwr-i-ddefnyddiwr – lle gall pobl weld cynnwys sy’n cael ei rannu gan eraill, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol – fod wedi asesu’r risg y bydd eu defnyddwyr yn y DU yn dod ar draws gweithgarwch a chynnwys anghyfreithlon ar eu llwyfannau, a rhaid iddynt nawr fod yn cymryd camau priodol i’w diogelu rhag hynny.[2]
Yn ogystal ag ymgysylltu â llwyfannau mawr ynghylch eu dyletswyddau newydd, mae ein tasglu pwrpasol wedi bod yn ceisio ymgysylltu â nifer o safleoedd llai a allai beri risgiau penodol i ddefnyddwyr. Heddiw, rydym wedi agor ymchwiliadau i nifer o’r gwasanaethau hyn.
Ymchwiliadau newydd
Heddiw, rydym wedi agor ymchwiliadau ffurfiol i’r bwrdd trafod ar-lein 4chan a saith o wasanaethau rhannu ffeiliau – Im.ge, Krakenfiles, Nippybox, Nippydrive, Nippyshare, Nippyspace a Yolobit – ar ôl i ni beidio â derbyn ymatebion i’n ceisiadau statudol am wybodaeth, y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i wasanaethau ymateb iddynt.
Rydym wedi cael cwynion am y posibilrwydd o weithgarwch a chynnwys anghyfreithlon ar 4chan, a’r posibilrwydd bod deunydd cam-drin plant yn rhywiol wedi cael ei rannu ar wasanaethau rhannu ffeiliau.
Yn benodol, rydym yn ymchwilio i weld a yw darparwyr y gwasanaethau hyn wedi methu gwneud y canlynol:
- rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu ei ddefnyddwyr yn y DU rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon;
- cwblhau – a chadw cofnod o – asesiad risg niwed anghyfreithlon addas a digonol; ac
- ymateb i gais statudol am wybodaeth.
Heddiw, rydym wedi lansio ymchwiliad i weld a oes gan First Time Videos LLC, sy’n darparu gwasanaethau pornograffi FTVGirls.com ac FTVMilfs.com, fesurau sicrwydd oedran effeithiol iawn i ddiogelu plant rhag pornograffi.
Beth sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn awr yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes unrhyw dramgwydd wedi digwydd. Os bydd ein hasesiad yn dangos methiannau o ran cydymffurfio, byddwn yn rhoi hysbysiadau dros dro o dramgwyddo i'r darparwyr, a byddant hwy wedyn yn gallu cyflwyno sylwadau ar ein canfyddiadau, cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.[3]
Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliadau hyn cyn gynted â phosibl.
Pwerau gorfodi
Pan fyddwn yn canfod methiannau o ran cydymffurfio, gallwn ei gwneud yn ofynnol i lwyfannau gymryd camau penodol er mwyn cydymffurfio. Gallwn hefyd roi dirwyon o hyd at £18 miliwn, neu 10% o’u refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf.
Pan fo’n briodol, yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn ofyn am orchymyn llys ar gyfer ‘mesurau tarfu ar fusnes’, fel mynnu bod darparwyr taliadau neu hysbysebwyr yn tynnu eu gwasanaethau o blatfform, neu fynnu bod Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn rhwystro mynediad i safle yn y DU.
Gweithgarwch gorfodi parhaus arall
Gan fod y dyletswyddau diogelwch cyntaf wedi dod i rym eleni, rydym wedi lansio rhaglenni gorfodi ar gyfer archwilio oedran yn y sector oedolion, cydymffurfiad darparwyr â dyletswyddau i gyflawni a chofnodi asesiadau risg o niwed anghyfreithlon, a delweddaeth cam-drin plant yn rhywiol ar wasanaethau rhannu ffeiliau.
Ym mis Ebrill, fe wnaethom agor ymchwiliad i fforwm hunanladdiad ar-lein. Fis diwethaf, fe wnaethom lansio ymchwiliadau i dri gwasanaeth pornograffig – Itai Tech a Score Internet Group – sy’n rhedeg y safle noethi Undress.cc a’r safle pornograffi Scoreland.com yn y drefn honno – a Kick Online Entertainment, sy’n darparu’r safle pornograffi Motherless.com.
Rydym yn disgwyl gwneud cyhoeddiadau ychwanegol am gamau gorfodi ffurfiol dros y misoedd nesaf, yn enwedig gyda rhagor o ddyletswyddau’n dod i rym o dan y Ddeddf.
Nodiadau i olygyddion:
1. Lle bynnag yn y byd mae gwasanaeth wedi’i leoli, os oes ganddo ‘gysylltiadau â’r DU’, mae ganddo bellach ddyletswyddau i warchod defnyddwyr yn y DU. Gall hyn olygu cael nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU, os yw’r DU yn farchnad darged, neu os yw gwasanaeth yn gallu cael ei ddefnyddio gan bobl yn y DU ac yn peri risg sylweddol o niwed sylweddol iddynt.
2. O ddiwedd mis Gorffennaf, rhaid i wasanaethau chwilio a defnyddiwr-i-ddefnyddiwr ddechrau rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu plant rhag mathau penodol o ddeunydd niweidiol, gan gynnwys pornograffi a chynnwys sy’n hyrwyddo hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta neu heriau peryglus.
3. Mae cyfraith y DU yn nodi’r broses mae’n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i ddarparwr a phenderfynu a yw wedi methu cydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol. Mae ein Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein ar gael yma.