Adroddiad blynyddol a chyfrifon Ofcom 2025-26

Cyhoeddwyd: 10 Gorffennaf 2026

Gweledigaeth hirdymor Ofcom yw rheoleiddio ar gyfer twf, wedi'i alluogi gan gystadleuaeth, arloesi, buddsoddiad a'n dyletswydd i roi sylw dyledus i dwf economaidd yn y DU.

Ofcom annual reports

Ein nod yw osgoi beichiau diangen ar ddiwydiant trwy nodi cyfleoedd i ddadreoleiddio lle bo hynny'n bosibl, a thrwy symleiddio ein dull fel bod busnesau yn wynebu llai o gostau ac yn derbyn gwasanaeth mwy effeithlon.

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cyflawni ymrwymiadau a wnaethom trwy ein gwaith rheoleiddio economaidd yn y sectorau telathrebu, o ran sut rydym yn rheoli sbectrwm a thrwy symleiddio a lleihau beichiau ar ddiwydiant.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025/26 yn amlinellu’r effaith y mae ein gwaith wedi’i chael dros y flwyddyn ddiwethaf, a sut mae ein gwaith yn parhau i sicrhau bod cyfathrebu'n gweithio i bawb yn y DU.

Uchafbwyntiau 2025/26

Galluogi gwell band eang
Bydd ein fframwaith rheoleiddio tymor hir newydd ar gyfer y sector band eang yn parhau i hyrwyddo
cystadleuaeth, arloesedd a buddsoddiad yn y farchnad hanfodol hon.

Help darpariaeth i ddefnyddwyr

Fe wnaethom lansio Mapio eich Ffôn Symudol, adnodd cynhwysfawr sy’n datgelu darpariaeth a pherfformiad symudol 4G/5G lleol yng nghodau post y DU.

Diwygio’r gwasanaeth post
Bydd ein newidiadau i
rwymedigaethau’r Post Brenhinol yn ei alluogi i wneud gwelliannau anghenrheidiol i ddibynadwyedd
perfformiad. Fe’i daliwyd i gyfrif gennym hefyd, gan roi dirwy o £21 miliwn iddynt am beidio â chyrraedd targedau cyflawni.

Gweithredu Deddf y Cyfryngau

Fe wnaethom gwblhau ein gwaith i ddiweddaru rheoliadau o dan y Ddeddf y Cyfryngau. Fe wnaethom foderneiddio sut rydym yn rheoleiddio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, a nodi sut dylai eu cynnwys barhau i fod ar gael ar setiau teledu clyfar a seinyddion clyfar.

Helpu darlledu gwasanaeth cyhoeddus i oroesi a ffynnu

Yn dilyn ein hadolygiad o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, fe wnaethom nodi cynllun manwl ar gyfer eu diogelu a’u cynnal dros y blynyddoedd nesaf.

Gwasanaethu a diogelu cynulleidfaoedd

Eleni, fe wnaethom gau 65,968 o gŵynion (8,544 o achosion), cwblhau 25 o ymchwiliadau, a chanfod 14 achos a oedd yn torri ein rheolau darlledu. Lle roedd darlledwyr wedi methu â chynnal safonau, fe wnaethom gymryd camau i orfodi ein rheolau.

Diogelu plant rhag pornograffi

Fe wnaethom fynnu bod gwasanaethau pornograffi yn atal plant rhag cael gafael ar y cynnwys hwn, gan ddefnyddio gwiriadau oedran effeithiol iawn. Erbyn hyn, mae angen archwiliadau ar filiynau o
ymweliadau dyddiol â safleoedd pornograffig.

Blwyddyn o weithredu

Fe wnaethom ymchwilio i bron i 100 o wasanaethau ar-lein am beidio â chydymffurfio â’r cyfreithiau, a chymryd camau yn erbyn llawer ohonynt. Roedd hynny’n cynnwys dirwyon i chwe gwasanaeth a beidiodd â chynnal gwiriadau oedran effeithiol.

Mynd i’r afael â’r cynnwys mwyaf niweidiol

Fe wnaethom gwblhau ein rheoliadau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Fel rhan o hyn, fe wnaethom sefydlu codau ymarfer a chanllawiau gyda’r nod o atal plant rhag dod ar draws y mathau mwyaf niweidiol o gynnwys.

Arloesi mewn sbectrwm

Fe wnaethom arwerthu tonnau awyr i ganiatáu i weithredwyr symudol ddarparu gwasanaethau cyflymach a gwell. Mae’r amleddau ‘mmWave’ hyn bellach ar gael mewn 68 o ardaloedd dwysedd uchel lle mae galw mawr am ddata symudol.

O loerennau i ffonau clyfar

Cyn bo hir, bydd ffonau clyfar safonol yn gallu derbyn signalau o’r gofod, yn dilyn ein penderfyniadau i ganiatáu i gwmnïau rhwydweithiau symudol a lloeren bartneru a darparu gwasanaethau ‘uniongyrchol i ddyfeisiau’ i ddefnyddwyr ffonau yn y DU.

Rhannu sbectrwm i hybu cysylltiadau

Bydd ein cynlluniau yn golygu mai’r DU fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i rannu tonnau awyr ar draws gwasanaethau symudol a Wi-Fi. Bydd hyn yn arwain at fand eang di-wifr gwell, signalau cryfach mewn lleoliadau prysur a chefnogaeth ar gyfer technolegau newydd.