Dyma adroddiad cyntaf Ofcom ar gyflwr diogelwch ar-lein yn y DU ers i rannau pwysig o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf') ddod i rym yn 2025.
Mae gan ddarparwyr gwasanaeth set gynhwysfawr o ddyletswyddau i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys troseddol, a diogelu plant rhag ystod o niwed ar-lein. Mae ein hadroddiad yn dangos sut mae darparwyr gwasanaeth wedi ymateb i'r dyletswyddau newydd hyn a'r meysydd y mae'n rhaid i ddiwydiant ganolbwyntio arnynt yn y flwyddyn i ddod.
Mae'r rheolau newydd yn gosod safon uchel ar gyfer gwasanaethau i gadw pobl yn y DU yn ddiogel. Yn ystod y flwyddyn, bydd pobl wedi sylwi ar newidiadau mewn sawl maes tuag at fyd ar-lein mwy diogel. Ond mae llawer mwy i'w wneud, ac mae tueddiadau technoleg a chynnwys newydd yn peri risgiau ychwanegol.
Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth nawr fynd ymhellach. Yn 2026, rydym yn disgwyl i ddarparwyr gwasanaeth symud o gymryd camau cydymffurfio cychwynnol i gyflawni gwelliannau ystyrlon, mesuradwy i'w defnyddwyr. Er mwyn cyflawni'r newid hwn, yn 2026 rhaid i'r diwydiant ganolbwyntio ar:
- Gwneud yn siŵr bod gwiriadau oedran yn effeithiol
- Mesurau diogelu plant cryfach
- Atal cam-drin plant yn rhywiol a meithrin perthynas amhriodol
- Dileu terfysgaeth a chynnwys casineb anghyfreithlon yn fwy effeithiol
- Profiadau mwy diogel i fenywod a merched
- Goruchwyliaeth risg gliriach.