
Heddiw, mae Ofcom wedi dirwyo’r darparwr telathrebu, Tismi, am fethu â chymryd camau priodol a chymesur i sicrhau nad oedd rhifau ffôn a ddyrannwyd yn cael eu camddefnyddio, gan gynnwys at ddibenion sgamiau.
Mae Ofcom yn dyrannu rhifau ffôn, fel arfer mewn blociau mawr, i ddarparwyr telathrebu. Yna gallant drosglwyddo'r rhifau i unigolion neu fusnesau.
Yn unol â chanllawiau’r diwydiant a rheolau Ofcom am rifau ffôn, sydd wedi’u dylunio i ddiogelu defnyddwyr, mae’n rhaid i gwmnïau ffôn gymryd camau priodol i sicrhau nad yw'r rhifau rydyn ni’n eu dyrannu iddynt yn cael eu camddefnyddio gan fusnesau neu unigolion y cânt eu trosglwyddo iddynt. Gallai camddefnyddio rhifau, er enghraifft, gynnwys eu defnyddio i hwyluso galwadau a negeseuon testun sgam.
Er mwyn i gwmnïau ffôn fynd i'r afael â’r broblem o gamddefnyddio rhifau, rydym yn disgwyl iddynt, ymhlith pethau eraill, gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy 'adnabod eich cwsmer' ar eu cwsmeriaid busnes i atal sgamwyr rhag cael mynediad at rifau dilys yn y lle cyntaf. Yn ogystal, dylent adolygu’n barhaus lefel y risg y mae cwsmer busnes yn ei beri, trwy fonitro ar gyfer achosion posibl o gamddefnyddio rhifau ac ymateb yn briodol i unrhyw ddigwyddiadau o gamddefnyddio a adroddir iddynt.
Beth wnaeth ein hymchwiliad ei ddarganfod
Rydym wedi canfod nad oedd gan Tismi unrhyw fesurau priodol neu gymesur ar waith i atal camddefnyddio rhifau a ddyrannwyd iddynt rhwng Tachwedd 2022 a Ionawr 2025 o leiaf. O ganlyniad, roedd y cwmni yn gyfrifol am adael i oddeutu 366,000 o rifau a ddyrannwyd fod yn agored i gamddefnydd posibl, ac felly, i nifer sylweddol o ddefnyddwyr ddioddef niwed, a hynny am dros ddwy flynedd. Wrth wneud hynny, methodd Tismi hefyd â bodloni'r disgwyliadau a nodir yn ein Canllaw Arfer Da.
Yn benodol, datgelodd ein hymchwiliad fod Tismi wedi;
- is-ddyrannu rhifau i'w gwsmeriaid heb gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy priodol i sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o'r rhifau hynny a'u hatal rhag cael eu camddefnyddio, gan gynnwys ar gyfer cyflawni sgamiau;
- methu â monitro a oedd y rhifau a oedd wedi cael eu his-ddyrannu yn cael eu camddefnyddio, ac nid oedd ganddynt y systemau a'r prosesau priodol ar waith i nodi a mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio;
- methu â rhoi proses ddogfennol ffurfiol ar waith i ymdrin ag adroddiadau o gamddefnydd. [1]
Yn ystod ein hymchwiliad, gwnaethom gyhoeddi cyfarwyddyd i Tismi rwystro rhai rhifau ym mis Mehefin 2025, er mwyn eu hatal rhag cael eu defnyddio ymhellach gan sgamwyr. Gwnaeth Tismi roi’r bloc hwn ar waith.
Cosb ariannol
O ganlyniad i fethiannau difrifol Tismi, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £437,500 i'r cwmni[2], a fydd yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys EM.
Fel rhan o'n penderfyniad, rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Tismi gymryd camau pellach i ddangos tystiolaeth ei fod yn cydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys darparu manylion am ei broses diwydrwydd dyladwy a'i waith monitro parhaus, a'i ymateb i adroddiadau o achosion o gamddefnyddio, yn unol â'i bolisïau a'i brosesau newydd.
Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Does dim esgus i ddarparwyr cyfathrebu fethu â rhoi'r gwiriadau a rheolaethau priodol ar waith i ddiogelu rhifau rhag cael eu camddefnyddio. Heddiw, rydym yn anfon neges glir i'r diwydiant y bydd unrhyw gwmni sy'n rhoi cwsmeriaid ar drugaredd sgamwyr yn wynebu'r canlyniadau."
Agor ymchwiliad newydd
Mae Ofcom hefyd wedi agor ymchwiliad newydd i Xtra Phones UK, yn ymwneud â phryderon bod rhifau ffôn a ddelir gan y cwmni hwn yn cael eu camddefnyddio.
Mae'r ymchwiliad hwn yn dod o dan ein rhaglen gorfodi sy'n edrych yn benodol ar sgamiau ffôn a thestunau. Nod y rhaglen hon yw diogelu cwsmeriaid trwy gefnogi arfer gorau wrth ddefnyddio rhifau ffôn a sicrhau bod darparwyr yn dilyn rheolau Ofcom.
Ar eich ochr chi
Yn ddiweddar, mae Ofcom wedi lansio Hwb Defnyddwyr ar-lein newydd, cwbl ddwyieithog – Hwb Defnyddwyr: Ar eich ochr chi sy'n cynnig cyfoeth o awgrymiadau, gan gynnwys sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau, ynghyd â chyngor ar arbed arian, help gyda phroblemau gwasanaeth cyffredin a llwybrau i gwyno.
Nodiadau i olygyddion
- Amodau Cyffredinol B1.6, B1.8 a B1.9(c)
- Mae'r gosb yn cynnwys gostyngiad o 30%, gan fod Tismi wedi cyfaddef ei fod ar fai.
- Er mwyn diogelu uniondeb ymchwiliadau parhaus eraill, ni fydd fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach.
Cynnwys cysylltiedig