
- Mae Ofcom yn nodi pedwar dull sicrwydd oedran sy’n gallu bod yn ‘hynod effeithiol’ wrth bennu a yw rhywun yn 16 oed neu’n hŷn: paru ID ffotograffig, gwasanaethau ID digidol, gwiriadau bancio ac amcangyfrif oedran wyneb
- Erbyn diwedd 2026, bydd y Llywodraeth yn nodi sut y bydd y gwaharddiad yn gweithio’n ymarferol
- Yna bydd y rheoleiddiwr yn ymgynghori ar ganllawiau'r diwydiant ac yn barod i wirio cydymffurfiaeth pan ddaw'r gwaharddiad i rym y flwyddyn nesaf
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei asesiad cyflym o sut y gallai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol benderfynu’n ddibynadwy a yw rhywun yn 16 oed neu'n hŷn, cyn i'r Llywodraeth a Senedd y DU benderfynu sut y bydd gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol y DU yn gweithio’n ymarferol.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Llywodraeth waharddiad cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl dan 16 oed a dywedodd y byddai’n hanfodol i gwmnïau technoleg ddefnyddio dulliau sicrwydd oedran hynod effeithiol – sef prawf cryfach na'r "camau rhesymol" a gymhwysir fel maen prawf yn Awstralia – er mwyn i’r gwaharddiad gael ei roi ar waith yn llwyddiannus yn y DU. [1]
Er mwyn helpu i lywio ystyriaeth Senedd y DU o reolau manwl y Llywodraeth ar gyfer y gwaharddiad, gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol i Ofcom gynnal asesiad cyflym o sut y gallai sicrwydd oedran hynod effeithiol edrych ar gyfer pennu a yw rhywun yn 16 oed neu'n hŷn. [2]
Pedwar dull ar gyfer gwiriadau oedran 16 oed
Pan luniwyd ein canllawiau sicrwydd oedran ar gyfer platfformau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein y llynedd, gwnaethom nodi saith dull a allai fod yn hynod effeithiol ar gyfer pennu a yw rhywun yn 18 oed neu’n hŷn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae llai o ddewis o ddulliau hynod effeithiol yn 16 oed nag yn 18 oed, gan mai dim ond i bobl 18 oed neu’n hŷn y mae rhai opsiynau ar gael.
Mae ein hasesiad cyflym, a gyhoeddwyd heddiw, wedi nodi pedwar dull sicrwydd oedran sy'n gallu bod yn hynod effeithiol wrth benderfynu a yw defnyddiwr yn 16 oed neu'n hŷn: paru ID ffotograffig, gwasanaethau ID digidol, gwiriadau bancio ac amcangyfrif oedran wyneb. [3]

Paru ID ffotograffig: Mae hyn yn gwirio gwybodaeth berthnasol ar ddogfen ID – fel pasbort neu drwydded yrru – ac yn cymharu'r llun ar y ddogfen â delwedd fyw o'r defnyddiwr a dynnwyd yn ystod y gwiriad oedran. Amcangyfrifir bod gan 94% o bobl 16 oed a hŷn yn y DU naill ai pasbort neu drwydded yrru. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad oes gan tua 150,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn y DU yr un o’r ddau. [4]
Gwiriadau bancio: Mae hyn yn defnyddio gwybodaeth sydd gan sefydliad ariannol am oedran defnyddiwr, gyda chaniatâd y defnyddiwr. Fel arfer, byddai angen i bobl ddarparu ID i agor cyfrif banc, yna gellir defnyddio gwybodaeth fancio fel dull mwy cyfleus ar ôl hynny. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gan tua 90% o bobl ifanc 16 i 17 oed yn y DU gyfrif banc.
Gwasanaethau ID digidol: Maent yn galluogi pobl i brofi’n ddigidol pwy ydynt, neu ddarparu gwybodaeth amdanynt eu hunain, fel eu hoedran. Gallant ddefnyddio ID ffotograffig i wirio eu hoedran gyda gwasanaeth ID digidol unwaith, yna defnyddio'r gwasanaethau ID digidol wedi hynny, gan leihau'r angen i ddefnyddio ID ffotograffig dro ar ôl tro.
Amcangyfrif oedran wyneb: Mae hyn yn dadansoddi nodweddion wyneb defnyddwyr i amcangyfrif eu hoedran. Gall rhai technolegau fod ychydig flynyddoedd allan wrth amcangyfrif oedran pobl ifanc 16 oed. Er mwyn ystyried hyn, dylai gwasanaethau fabwysiadu dull 'herio oedran' a defnyddio gwirio oedran fel ail wiriad – yn debyg i’r ffordd y mae siopau yn defnyddio’r dull 'Her 25' wrth werthu alcohol. [5]
Gan fod angen ID ffotograffig naill ai fel rhan o’n dulliau a argymhellir neu, yn ôl pob tebyg, fel rhan o ail wiriad, mae ein hasesiad yn cydnabod ei bod yn debygol y byddai angen i’r bobl ifanc 16 ac 17 oed hynny nad oes ganddynt ID ffotograffig eto gymryd camau i gael gafael ar un. [6]
Ni fydd angen i rai oedolion sydd â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol gwblhau gwiriad oedran os oes gan y platfform wybodaeth gywir a dibynadwy sy’n cadarnhau eu bod dros yr oedran gofynnol. Serch hynny, mae’n debygol y bydd gwefannau ac apiau yn gofyn i lawer o oedolion brofi eu hoedran, gan ddefnyddio'r ystod ehangach o ddulliau ar gyfer 18 oed a nodwyd yn ein canllawiau presennol.
Bydd gwiriadau oedran 16 oed yn cynnwys prosesu data personol. Fodd bynnag, mae ein hasesiad yn dod i'r casgliad y gellir cyflwyno’r dulliau sydd ar gael mewn ffordd sy'n diogelu preifatrwydd defnyddwyr ac yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Comisiwn Gwybodaeth yn hyn o beth.
Ni all dulliau casglu oedran cyfredol – sy’n dadansoddi ymddygiad defnyddwyr ar-lein i amcangyfrif eu hoedran – weithredu fel porth oedran, gan fod angen i’r defnyddiwr fod ar y platfform eisoes er mwyn iddynt weithio.
Mae rhywfaint o ymdrechion i osgoi’r rheolau yn anochel, ond gall gwasanaethau liniaru risgiau
Bydd angen i blatfformau cyfryngau cymdeithasol weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol yn llawn, sy'n cynnwys cymryd mesurau i fynd i'r afael ag ymdrechion gan blant i’w hosgoi. Os caiff ei weithredu'n gywir, dylai hyn leihau'n sylweddol y tebygolrwydd y bydd pobl dan 16 oed yn cael mynediad at wefannau ac apiau cyfyngedig.
Fodd bynnag, ni ellir dileu'r risg o osgoi’r rheolau’n llwyr, a bydd rhai plant yn llwyddo i osgoi gwiriadau oedran. Rydym wedi nodi rhai ffyrdd y gall gwasanaethau liniaru'r risgiau hyn – er enghraifft, trwy alluogi defnyddwyr eraill i adrodd yn hawdd am gyfrifon y mae amheuaeth eu bod yn perthyn i blant dan oed, a thrwy ddefnyddio modelau casglu oedran.
Byddwn yn monitro achosion lle mae plant yn osgoi’r rheolau, ac yn cyhoeddi ymchwil ar y pwnc o fewn deuddeg mis i'r gwaharddiad ddod i rym, i helpu i lywio unrhyw gamau gweithredu gan y Llywodraeth yn y dyfodol.
Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: "Bydd y gwaharddiad hwn yn siapio dyfodol bywydau plant ar-lein, felly mae'n bwysig ei wneud yn iawn. Gall weithio os yw cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud gwiriadau oedran hynod effeithiol, ac rydym wedi amlinellu ffyrdd y gellid eu cyflawni. Pan ddaw i rym y flwyddyn nesaf, byddwn yn barod i gymryd camau cyflym a chadarn yn erbyn unrhyw gwmni sy'n methu â chydymffurfio.
"Dylem ddisgwyl y bydd plant yn ceisio osgoi'r cyfyngiadau – yn union fel na all deddfau alcohol atal pobl dan oed rhag yfed alcohol yn gyfan gwbl – ond bydd ffyrdd i blatfformau liniaru'r risg hon. Bydd hyn yn golygu newid diwylliannol enfawr i'n cymdeithas, felly bydd yn cymryd amser i addasu, a bydd gan bawb ran i'w chwarae."
Camau nesaf
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn bwriadu cyhoeddi ei set gyntaf o reoliadau ar gyfer y gwaharddiad cyn diwedd 2026. Rydym eisoes yn datblygu ein canllawiau drafft ar gyfer platfformau, a byddwn yn ymgynghori ar hyn cyn gynted ag y bydd rheoliadau'r Llywodraeth yn cael eu gosod yn y Senedd.
Gallai siopau apiau wneud mwy o ddefnydd o wiriadau oedran i ddiogelu plant yn well
Er mai gwasanaethau rheoleiddiedig eu hunain fydd yn gyfrifol am gyflawni eu dyletswyddau diogelwch ar-lein presennol a rhai’r dyfodol – gan gynnwys trwy ddefnyddio gwiriadau oedran hynod effeithiol – mae adroddiad Ofcom ar wahân, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi y gallai siopau apiau hefyd fod â rôl bwysig i'w chwarae.
Canfu ein hymchwil fod tri chwarter o blant sy'n defnyddio'r rhyngrwyd wedi adrodd mai apiau wedi'u lawrlwytho o siop apiau oedd eu prif ddull o fynd ar-lein. Fodd bynnag, mae'r holl siopau apiau a ddadansoddwyd gennym ar hyn o bryd yn dibynnu ar blant yn hunan-ddatgan eu hoedran, gyda dim ond nifer fach yn defnyddio gwiriadau ychwanegol mewn amgylchiadau cyfyngedig.
Gallai siopau apiau wneud mwy i ddiogelu plant ar-lein trwy wneud mwy o ddefnydd o ddulliau sicrwydd oedran hynod effeithiol. Er mwyn bod yn effeithiol, byddai angen i hyn gael ei gefnogi gan wybodaeth ddibynadwy am y risgiau y mae apiau’n eu peri i blant ac amddiffyniadau wedi'u cynllunio'n dda sy'n mynd i'r afael â'r risgiau hynny.
Gan nad yw siopau apiau ar hyn o bryd yn cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf, mae ein hadroddiad yn codi ystyriaethau technegol, polisi a chydymffurfiaeth bwysig i'r Llywodraeth, pe bai'n ystyried dod â siopau apiau o fewn cwmpas model rheoleiddio yn y dyfodol.
Rydym hefyd o’r farn bod angen arloesedd parhaus gan y diwydiant technoleg ehangach - gan gynnwys ar lefel dyfeisiau a system weithredu yn ogystal â siopau apiau - i ddarparu gwell canlyniadau diogelwch ar-lein i blant a chefnogi amddiffyniadau lefel gwasanaeth. Yn y pen draw, efallai mai dull haenog neu system gyfan fydd fwyaf effeithiol, gan osgoi unrhyw bwynt methiant sengl a chynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd.
Nodiadau i olygyddion:
- Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu defnyddio "yr un model ar gyfer gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol ag Awstralia" ond mae'n bwriadu "dysgu'r gwersi o brofiad Awstralia trwy gyflwyno mesurau sicrwydd oedran mwy effeithiol i gefnogi cydymffurfiaeth".
- Rydym wedi seilio ein hasesiad ar y meini prawf a'r egwyddorion a nodir yn ein canllawiau presennol ar sicrwydd oedran hynod effeithiol yn 18 oed. Felly, rydym wedi asesu dulliau yn erbyn meini prawf cywirdeb technegol, cadernid, dibynadwyedd a thegwch, ac wedi ystyried egwyddorion hygyrchedd a rhyngweithrededd.
- Gallai’r farchnad ddatblygu atebion newydd ac arloesol unwaith y bydd cyfyngiadau oedran newydd ar waith, a byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau sy'n dod i'r amlwg yn y farchnad.
- Tystiolaeth a ddarparwyd i ni gan CitizenCard, wedi’i hamcangyfrif o arolwg sampl nad yw'n gynrychioliadol a gynhaliwyd mewn ysgolion gydag 8,459 o ymatebwyr 16 a 17 oed.
- Enghraifft o sut y gallai ‘her oedran’ weithio yn ymarferol:

6. Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed wneud cais am basbort neu drwydded yrru dros dro, neu wneud cais am gerdyn adnabod ffotograffig wedi'i ardystio gan y Cynllun Safonau Prawf Oedran (PASS). Mae cardiau PASS ar gael am ddim i bobl ifanc 16 ac 17 oed, ac mewn llawer o achosion mae'n bosibl i bobl ifanc 16 ac 17 oed wneud cais am un heb fod ganddynt ID ffotograffig cyfredol.
Cynnwys cysylltiedig