Quarterly TV complaints HERO

Cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gŵwynion telathrebu a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 26 Hydref 2026

Heddiw rydym wedi cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar y cwynion rydyn ni wedi'u derbyn am brif ddarparwyr llinell dir, band eang, ffonau symudol a theledu-drwy-dalu y DU.

Mae'r ffigurau hyn yn cwmpasu ail chwarter y flwyddyn, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, pan welwyd gostyngiad yn nifer y cwynion o gymharu â'r chwarter blaenorol.

Y rheswm am y gostyngiad hwn oedd bod llai o gŵynion am wasanaethau teledu-drwy-dalu. Yn y cyfamser, arhosodd cwynion am wasanaethau band eang, llinell dir a ffonau symudol yr un fath.

Y prif resymau dros gŵynion yn ymwneud â gwasanaethau band eang, llinellau tir a ffonau symudol yn ystod y cyfnod hwn oedd diffygion, ansawdd y gwasanaeth a chysylltu gwasanaethau, tra bod cwsmeriaid teledu-drwy-dalu yn fwyaf tebygol o gwyno am sut roedd darparwyr wedi ymdrin â'u cwynion.

Prif ganfyddiadau:

  • BT, EE, TalkTalk a Vodafone oedd y darparwyr band eang sefydlog y cwynwyd amdanynt fwyaf. Ni welwyd newid yn nifer y cwynion am BT, bu cynnydd yn y cwynion am EE, a gwelodd TalkTalk a Vodafone ostyngiad yn eu cwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr o gymharu â'r chwarter blaenorol.
  • Plusnet, Sky a Virgin Media a gafodd y nifer lleiaf o gŵynion am fand eang sefydlog.
  • Plusnet oedd y darparwr llinell dir y cwynwyd amdano fwyaf. Gwelwyd cynnydd yn y cwynion am Plusnet o gymharu â'r chwarter blaenorol. Roedd cwynion cwsmeriaid yn cael eu gyrru'n bennaf gan sut roedd eu cwynion yn cael eu trin.
  • Sky, Utility Warehouse, Virgin Media a Vodafone oedd y darparwyr llinell dir y cwynwyd amdanynt leiaf.
  • O2 a Sky Mobile oedd y darparwyr ffôn symudol talu’n fisol a gafodd y mwyaf o gŵynion. Roedd cwynion cwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â phroblemau gyda diffygion, gwasanaeth a darpariaeth (O2) a phrofiadau wrth newid darparwr (Sky Mobile).
  • Cafwyd y nifer lleiaf o gŵynion am EE, Giffgaff, Tesco Mobile, Three, Vodafone ac iD Mobile o ran gwasanaethau ffôn symudol talu’n fisol.
  • EE a Virgin Media oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu a gafodd y nifer mwyaf o gŵynion.
  • Y darparwr teledu-drwy-dalu a gafodd y nifer lleiaf o gŵynion oedd TalkTalk.

Er na ddigwyddodd yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y ffigurau cwynion hyn, cyhoeddwyd cytundeb yn gynharach y mis hwn i BT Group gaffael TalkTalk Group. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma.

Mae gennym hefyd ragor o wybodaeth i gwsmeriaid telathrebu ar ein hwb defnyddwyr, lle gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o gyngor i'ch helpu i ddewis a rheoli eich gwasanaethau, yn ogystal ag awgrymiadau ar arbed arian.

Er na all Ofcom helpu gyda chwynion cwsmeriaid unigol, trwy gyhoeddi'r ffigurau hyn gallwn helpu cwsmeriaid i ddewis y darparwyr a'r gwasanaethau sy'n gweddu orau i'w hanghenion.

Mae'r siartiau isod yn dangos nifer y cwynion rydyn ni wedi'u derbyn am wasanaethau band eang, llinell dir, ffôn symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu – darllenwch fwy. Gallwch ddefnyddio'r llithrydd i hidlo yn ôl blwyddyn.

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu