
Mae pobl yn wynebu amrywiol o rwystrau a heriau wrth adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar-lein, yn ôl adroddiad newydd gan Verian, a gomisiynwyd gan Ofcom.
Gan adeiladu ar ein hymchwil a'n tystiolaeth flaenorol yn y maes hwn, mae'r astudiaeth - sy'n adrodd ar ganfyddiadau o gyfweliadau manwl, byrddau crwn arbenigol a gweithdai cyd-greadigol - yn archwilio'r dulliau, y negeseuon, a'r lleisiau dibynadwy a allai atseinio gyda gwahanol grwpiau wrth ddod ar draws camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Yr hyn a ganfuom
Mae'r ymchwil yn tanlinellu bod tueddiadau i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn benodol i gyd-destun; gall unrhyw un fod yn agored i niwed ar wahanol adegau ac mewn gwahanol ffyrdd.
Yn gryno:
- roedd canfyddiadau cyfranogwyr o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn cael eu taflu ar genedlaethau eraill; roedd pobl iau yn fwy tebygol o ystyried bod cenedlaethau hŷn yn fwy agored i niwed, ac i'r gwrthwyneb;
- roedd heriau adnabod yn cynnwys: llawer iawn o wybodaeth ar-lein; diffyg ymddiriedaeth mewn deallusrwydd artiffisial; data ac ystadegau'n ymddangos allan o'u cyd-destun; rhwystrau diwylliannol ac ieithyddol; a diffyg sgiliau ac ymwybyddiaeth;
- awgrymodd rhai cyfranogwyr y gall fod yn anodd a gall gymryd amser i symud i ffwrdd o ‘farn leiafrifol’ – a ddiffinnir fel safbwyntiau ar bynciau pwysig nad ydynt yn cael eu cadw'n eang gan boblogaeth y DU. Roedd rhwystrau’n cynnwys ofnau o gael eu hynysu o gymunedau trafod ar-lein; pryderon ynghylch colli hunaniaeth; ac anawsterau wrth ddod o hyd i dystiolaeth arall;
- roedd y cyfranogwyr yn teimlo y dylai sgyrsiau am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth fod yn rhydd o wrthdaro a rhagfarn;
- roedd y cyfranogwyr o'r farn bod helpu pobl i lywio camgwybodaeth a thwyllwybodaeth yn gofyn am ddull aml-sianel - er enghraifft, person i berson, mannau cymunedol, cyfryngau cymdeithasol, teledu, radio, ac ymgyrchoedd hysbysfwrdd. Awgrymodd y cyfranogwyr hefyd y gallai negeseuon ganolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi gwerthusiad beirniadol o wybodaeth a manteision ymgysylltu ag ystod eang o ffynonellau a safbwyntiau.
Rôl Ofcom
O dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, mae gan Ofcom ddyletswyddau statudol i hyrwyddo a chynnal ymchwil i lythrennedd yn y cyfryngau. Ychwanegodd Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 eglurhad a manylder at ein dyletswyddau llythrennedd yn y cyfryngau. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i Ofcom godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am amrywiaeth o faterion llythrennedd yn y cyfryngau a diogelwch ar-lein, a dyletswydd i helpu defnyddwyr i ddeall natur ac effaith camgwybodaeth a thwyllwybodaeth, ac i leihau amlygiad.
O dan y Ddeddf, bydd Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth Ar-lein newydd Ofcom hefyd yn rhoi cyngor i Ofcom ynghylch meysydd penodol o'n gwaith sy'n berthnasol i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Mae gennym ni hefyd ddyletswyddau penodol i wella llythrennedd yn y cyfryngau. Drwy ein rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau, byddwn ni’n parhau i gomisiynu ymchwil a chefnogi prosiectau cymunedol ar lawr gwlad mewn partneriaeth â sefydliadau arbenigol. Ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy am ein strategaeth llythrennedd yn y cyfryngau a gwaith cysylltiedig yn y maes hwn.