Mae Adran 152 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (y ‘Ddeddf’) yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom sefydlu a chynnal Pwyllgor cynghori. Bydd y Pwyllgor yn cynnwys cadeirydd a benodir gan Ofcom, a pha bynnag nifer o aelodau eraill a benodir gan Fwrdd Ofcom y mae Ofcom yn eu hystyried yn briodol.
Swyddogaeth y Pwyllgor yw rhoi cyngor i Ofcom ar y materion hynny a nodir yn adran 152(4) o’r Ddeddf.
Gwener 16 Mai 2025
Gwener 13 Mehefin 2025
Gwener 11 Gorffennaf 2025
Gwener 16 Mai 2025
Gwener 13 Mehefin 2025
Gwener 11 Gorffennaf 2025
Gwener 12 Medi 2025
Gwener 3 Hydref 2025
Gwener 7 Tachwedd 2025
Gwener 5 Rhagfyr 2025
Gwener 23 Lonawr 2026
Gwener 27 Chwefror 2026
Gwener 10 Ebrill 2026
Gwener 8 MaI 2026
Gwener 5 Mehefin 2026
Gwener 3 Gorffennaf 2026
Gwener 11 Medi 2026
Gwener 2 Hydref 2026
Gwener 6 Tachwedd 2026
Gwener 4 Rhagfyr 2026
- Cofnodion pumed cyfarfod y Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth ar-lein a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2025
- Cofnodion pedwerydd cyfarfod y Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth ar-lein a gynhaliwyd ar 12 Medi 2025
- Cofnodion trydydd cyfarfod y Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth ar-lein a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2025
-
Cofnodion ail gyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ddiogelwch Ar-lein, a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2025
- Cofnodion cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth Ar-lein, a gynhaliwyd ar 16 Mai 2025
Elisabeth Costa
Elisabeth Costa yw Pennaeth Arloesedd a Phartneriaethau yn y Tîm Mewnwelediadau Ymddygiadol (BIT), ymgynghoriaeth ymchwil ac arloesi byd-eang. Mae hi'n arwain partneriaethau byd-eang BIT ac yn datblygu meysydd arbenigedd sy'n dod i'r amlwg - yn enwedig sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau mewn amgylcheddau ar-lein a chroesdoriad AI ac ymddygiad dynol.
Fel aelod o’r Pwyllgor, mae gan Elisabaeth brofiad amlddisgyblaeth mewn gwyddor ymddygiad, rheoleiddio, gwerthuso a datblygu polisi i’r Pwyllgor. Ers ymuno â BIT yn 2015, mae hi wedi arwain ymchwil arloesol ar gymhwyso gwyddoniaeth ymddygiadol reoleiddio, gan gyd-ysgrifennu papurau sylfaenol ar benderfyniadau defnyddwyr ac ymddygiad sy’n sail niwed ar-lein. Mae Elisabeth wedi gweithio gyda rheoleiddwyr a phartneriaid ledled y byd i wella diogelwch ar-lein, deall y ffactorau seicolegol sy’n effeithio ar dueddiad i ystod eang o niwed ar-lein, a chynyddu gwytnwch i Dwyllwybodaeth a Chamwybodaeth.
Cyn derbyn ei rôl bresennol, bu Elisabeth yn Reolwr Gyfarwyddwr y Tîm Mewnwelediadau Ymddygiadol yn y Deyrnas Unedig ac roedd hi’n uwch swyddog yn Nhrysorlys Awstralia.
Mae Elisabeth yn Uwch Gymrawd Gwadd yn Ysgol Economeg Llundain a chwblhaodd ei hastudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Harvard.
Ymunodd Elisabeth â’r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei phenodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Jeffrey Howard
Mae Jeffrey Howard yn Athro Athroniaeth Wleidyddol a Pholisi Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL). Ef yw cyfarwyddwr Labordy Lleferydd Digidol UCL, sy'n cynnal prosiectau ymchwil ar lywodraethiant cyfathrebu ar-lein priodol. Mae hefyd yn Uwch Gydymaith Ymchwil yn y Sefydliad Moeseg mewn Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae wedi cyhoeddi nifer o weithiau ar ryddid mynegiant, cyfryngau cymdeithasol, a democratiaeth, ymhlith pynciau eraill.
Mae Jeffrey yn Gymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI, Meddyliwr Cenhedlaeth Newydd BBC/AHRC, Rising Star yr Academi Brydeinig, ac wedi derbyn Gwobr Goffa Berger gan y Gymdeithas Athronyddol America. Ar y gweill ganddo ar hyn o bryd mae ei lyfr ar leferydd rhydd yn yr oes ddigidol gyda Gwasg Prifysgol Princeton. Enillodd ei DPhil o Brifysgol Rhydychen a'i AB o Brifysgol Harvard.
Ymunodd Jeffrey â'r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei benodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Will Moy
Will Moy yw Prif Weithredwr Cydweithrediad Campbell, rhwydwaith ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngwladol sy'n defnyddio dulliau gwyddonol i grynhoi’r holl dystiolaeth sydd yna ar faterion polisi pwysig. Mae'n anelu at wneud defnyddio tystiolaeth gwyddorau cymdeithasol o'r radd flaenaf mor naturiol â chwilio am air yn y geiriadur.
Cyn ymuno â Chydweithrediad Campbell, fe oedd arweinydd elusen Full Fact yn y DU, gan hyrwyddo defnydd tystiolaeth ddibynadwy mewn bywyd cyhoeddus, rhwng 2010 i 2023. Defnyddiwyd gwiriwr ffeithiau a gwaith arall Full Fact gan ddegau o filiynau o bobl gan gynnwys llunwyr polisi, y cyfryngau, a phrif gwmnïau rhyngrwyd. Gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol, fe wnaethant adeiladu offer Deallusrwydd Artiffisial sydd wedi mynd ymlaen i gael eu defnyddio mewn mwy na deugain o wledydd ledled y byd.
Mae'n uwch gymrawd ymchwil gwadd yn y Sefydliad Polisi yng Ngholeg y Brenin Llundain ac yn gymrawd ymchwil gwadd Gwilym Gibbon yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen.
Ymunodd Will â'r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei benodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Devika Shanker-Grandpierre
Mae Devika Shanker-Grandpierre yn gynghorydd strategol sy'n arbenigo mewn helpu sefydliadau byd-eang i lywio strategaeth dechnoleg, rheoli risgiau, a chreu gwerth. Mae hi wedi gweithredu fel uwch swyddog yn y sector technoleg, lle arweiniodd sefydliadau byd-eang oedd yn canolbwyntio ar reoli risg a gwirio platfform. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi datblygu strategaethau hirdymor i fynd i'r afael â niwed ar-lein,gan weithio ar draws marchnadoedd rhyngwladol, i gryfhau tryloywder ac atebolrwydd sefydliadau mewn amgylcheddau digidol cymhleth.
Mae gan Devika brofiad o weithio yn y sector gwasanaethau ariannol hefyd, lle bu’n arloesi yn y maes canfod twyll a lliniaru risg. Mae hi'n Aelod o'r Panel Thematig ar gyfer Hwb Gwybodaeth yr UE ar Atal Radicaliaeth, sy'n canolbwyntio ar gryfhau ymdrechion yr UE yn erbyn radicaiaeth all arwain at eithafiaeth dreisgar a therfysgaeth.
Mae Devika hefyd yn awdur cyfrannol i'r Rhwydwaith Byd-eang ar Eithafiaeth a Thechnoleg (GNET), lle mae’n gwneud cysylltiadau rhwng safbwyntiau hanesyddol, datblygiadau technolegol cyfoes, a'r strategaethau llywodraethiant angenrheidiol sy’n gallu lleihau niwed cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae hi'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol i gwmni Ballet Ieuenctid Cenedlaethol Iwerddon. Mae gan Devika MBA o Brifysgol Ryngwladol Symbiosis.
Ymunodd Devika â'r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei phenodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
T: 020 7981 3000
Cynnwys cysylltiedig