Ar agor
Bwrdd Trafod Ar-lein ‘4chan’
10 Mehefin 2025
Rydym yn cychwyn ymchwiliad i benderfynu a yw’r bwrdd trafod ar-lein 4chan wedi methu—neu’n methu ar hyn o bryd—cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Bydd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar achosion posibl o dorri rheolau yn y meysydd canlynol:
- Methu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth;;Methu ac atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.
- Methu cwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol; a hefyd
- Peidio â chydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch mewn cysylltiad â chynnwys anghyfreithlon.
Deddf Diogelwch Ar-lein 2023: adran 9, adran 10, adran 12, adran 23(2); adran 102(8).
Penderfyniad Cadarnhau: Fersiwn nad yw'n gyfrinachol
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau a gyhoeddwyd i 4chan Community Support LLC ('4chan') ar 19 Mawrth 2026 mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 9(2), 10(5) a 12 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 mewn perthynas â 4chan.org.
Yn unol ag adran 132 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'), rydym heddiw wedi cyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i 4chan Community Support LLC ('4chan') mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 9(2), 10(5) a 12 o'r Ddeddf mewn perthynas â 4chan.org.
Methiant i gydymffurfio ag adran 9(2) o'r Ddeddf
Mae Ofcom wedi penderfynu bod 4chan wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswydd o dan adran 9(2) o'r Ddeddf i gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol mewn perthynas â 4chan.org, a bod y methiant hwn yn parhau.
Mewn perthynas â'r methiant hwn, mae Ofcom wedi gosod ar 4chan:
- y gofyniad i gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol mewn perthynas â 4chan.org erbyn 2 Ebrill 2026, a
- dirwy sengl o £50,000.
Os bydd diffyg cydymffurfio yn parhau, bydd dirwy ddyddiol ychwanegol o £200 y dydd yn cael ei gosod, gan ddechrau o'r diwrnod ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y gofynion hyd at y dyddiad y cydymffurfir ag adran 9(2), neu (os yw'n gynt) erbyn 1 Mehefin 2026.
Methiant i gydymffurfio ag adran 10(5) o'r Ddeddf
Mae Ofcom wedi penderfynu bod 4chan wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswydd o dan adran 10(5) o’r Ddeddf i gynnwys darpariaethau yn nhelerau gwasanaeth 4chan.org sy'n nodi sut y dylid diogelu unigolion rhag cynnwys anghyfreithlon, a bod y methiant hwn yn parhau.
Mewn perthynas â'r methiant hwn, mae Ofcom wedi gosod ar 4chan:
- y gofyniad i gynnwys darpariaethau yn nhelerau gwasanaeth 4chan.org sy'n nodi sut y dylid diogelu unigolion rhag cynnwys anghyfreithlon erbyn 2 Ebrill 2026, a
- dirwy sengl o £20,000.
Os bydd diffyg cydymffurfio yn barhaus, bydd dirwy ddyddiol ychwanegol o £100 y dydd yn cael ei gosod gan ddechrau o'r diwrnod ar ôl y dyddiad cau gofynion hyd at y dyddiad y cydymffurfir ag adran 10(5), neu (os yw'n gynt) erbyn 1 Mehefin 2026.
Methiant i gydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf
Mae Ofcom wedi penderfynu bod 4chan wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswydd o dan adran 12 o'r Ddeddf i sicrhau bod plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar 4chan.org drwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol, a bod y methiant hwn yn parhau.
Mewn perthynas â'r methiant hwn, mae Ofcom wedi gosod ar 4chan:
- gofyniad ar 4chan.org i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol erbyn 2 Ebrill 2026, a
- Dirwy sengl o £450,000.
Os bydd diffyg cydymffurfio yn barhaus, bydd dirwy ddyddiol ychwanegol o £500 y dydd yn cael ei gosod gan ddechrau o'r diwrnod ar ôl y dyddiad cau gofynion tan y dyddiad y cydymffurfir ag adran 12, neu (os yw'n gynt) erbyn 1 Mehefin 2026.
Bydd fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Ymchwiliad i fethiant 4chan Community Support LLC i gydymffurfio â'i ddyletswydd asesu risg cynnwys anghyfreithlon, ei ddyletswydd diogelwch cynnwys anghyfreithlon a’i ddyletswyddau diogelwch plant
Yn unol ag adran 130 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, rydym heddiw wedi cyhoeddi hysbysiad dros dro o dorri’r gorchymyn i 4chan Community Support LLC.
Mae Ofcom o'r farn bod sail resymol dros gredu bod y darparwr wedi torri ei ddyletswyddau o dan adran 9, 10 a 12 o'r Ddeddf, yn benodol:
- Ei ddyletswydd i gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol;
- Ei ddyletswyddau mewn perthynas â'i Delerau Gwasanaeth;
- Ei ddyletswydd i ddiogelu plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.
Mae'r hysbysiad yn egluro sut mae Ofcom wedi cyrraedd ei farn dros dro a'r camau rydym yn bwriadu eu cymryd. Bydd gan 4chan Community Support LLC nawr 10 diwrnod gwaith i gyflwyno sylwadau i Ofcom, a fydd yn cael eu hystyried yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol.
Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad maes o law.
Cwmpas yr ymchwiliad: Diweddariad
Ers i ni agor ein hymchwiliad i 4chan Community Support LLC ('4chan') a'i gydymffurfiaeth â'i ddyletswyddau i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon, mae’r dyletswyddau newydd wedi dod i rym i ddiogelu plant o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf') – sef y "dyletswyddau Diogelu Plant".
Mae’r dyletswyddau’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau rheoledig defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, y mae’n debygol y bydd plant yn eu defnyddio, roi systemau a phrosesau cymesur effeithiol ar waith, sydd wedi'u cynllunio i leihau'r risg o niwed i blant o gynnwys sydd ar gael ar eu gwefan. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt atal plant rhag dod ar draws mathau penodol o gynnwys niweidiol – a elwir yn ' Cynnwys Prif Flaenoriaeth ' – yn gyfan gwbl. Yn benodol, mae adran 12 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sy'n dod o dan Ran 3 o'r Ddeddf, ac sy’n caniatáu un neu fwy o fathau o Gynnwys Prif Flaenoriaeth (gan gynnwys pornograffi), ddefnyddio gwiriadau oedran neu dechnoleg amcangyfrif oedran hynod effeithiol (neu'r ddau) i atal plant rhag dod ar draws y math hwnnw o gynnwys ar y gwasanaeth.
Felly, mae Ofcom yn ehangu'r ymchwiliad hwn i ystyried a oes sail resymol i gredu bod 4chan wedi methu, neu'n parhau i fethu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 12 o'r Ddeddf.
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi fersiwn anghyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau a gyhoeddwyd i 4chan Community Support LLC (‘4chan’) ar 13 Hydref 2025 mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â dau hysbysiad gwybodaeth o dan adran 102(8)(a) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’). Rydym hefyd yn cyhoeddi'r cais am wybodaeth gyntaf a'r ail y cyfeirir atynt yn y penderfyniad hwn.
Penderfyniad Cadarnhau: Dyletswyddau Hysbysiad Gwybodaeth
Yn unol ag adran 132 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'), rydym heddiw wedi cyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i 4chan Community Support LLC ('4chan') mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â dau gais am wybodaeth statudol.
Mae Ofcom wedi penderfynu bod 4chan wedi torri ei ddyletswydd o dan adran 102(8)(a) o'r Ddeddf i gydymffurfio â chais statudol am wybodaeth, ar ddau achlysur gwahanol.
Rydym yn gosod dirwy o £20,000 ar 4chan mewn perthynas â'r ddau doriad. Gosodwyd y gosb hon o ystyried ein Canllawiau Cosb.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i 4chan bellach gymryd camau ar unwaith i gydymffurfio ag adran 102(8)(a) drwy ddarparu'r canlynol:
- copi o'r cofnod ysgrifenedig o'i asesiad risg cynnwys anghyfreithlon mewn perthynas â 4chan.org fel sy'n ofynnol gan y cais am wybodaeth statudol cyntaf; a
- gwybodaeth a bennir yn yr ail gais am wybodaeth statudol sy'n ymwneud â'i refeniw byd-eang cymwys ('QWR').
Os bydd 4chan yn methu â chydymffurfio, bydd cosb ddyddiol o £100 y dydd yn cael ei gosod o'r diwrnod ar ôl dyddiad y Penderfyniad Cadarnhau am naill ai 60 diwrnod neu hyd nes y bydd 4chan yn darparu’r wybodaeth a amlinellir uchod i Ofcom (pa un bynnag sydd gynharaf).
Bydd fersiwn nad yw’n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Penderfyniad Dros Dro: Dyletswyddau Hysbysiad Gwybodaeth
Yn unol ag adran 130 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, rydym heddiw wedi cyhoeddi hysbysiad dros dro o dorri’r rheoliadau i 4chan Community Support LLC.
Mae Ofcom yn fodlon bod sail resymol dros gredu bod y darparwr wedi torri ei ddyletswyddau o dan adran 102(8) o'r Ddeddf i gydymffurfio â dau gais am wybodaeth. Byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a ddarperir mewn ymateb i'r hysbysiad dros dro hwn cyn i ni wneud penderfyniad terfynol ar y mater hwn.
Y dyletswyddau ychwanegol sy'n cael eu hymchwilio
Ar 10 Mehefin 2025, fe wnaethom agor ymchwiliad i weld a yw darparwr 4chan wedi methu/yn methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i:
- ymateb yn ddigonol i gais am wybodaeth statudol;
- cwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol; a
- cydymffurfio â'r dyletswyddau diogelwch ynghylch cynnwys anghyfreithlon.
Mae ymchwiliad Ofcom yn parhau i archwilio ar yr un pryd a oes sail resymol i gredu bod y darparwr wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'r dyletswyddau eraill sy'n cael eu hymchwilio, gan gynnwys dyletswyddau i amddiffyn ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon. Byddwn yn rhoi diweddariadau ar y materion hyn maes o law.
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i fwrdd trafod ar-lein ‘4chan’. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried cydymffurfiad 4chan â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (“y Ddeddf”).
Mae Adran 9(2) o’r Ddeddf yn mynnu bod pob gwasanaeth chwilio a defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sydd o fewn cwmpas y Ddeddf yn cynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon erbyn 16 Mawrth 2025. Ymysg pethau eraill, mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau asesu’r risgiau y byddai defnyddwyr yn dod o hyd i gynnwys anghyfreithlon ar eu llwyfannau, gan gynnwys deunydd anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth (fel y’i diffinnir yn y Ddeddf).
Mae Adran 10 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio i ddefnyddio'r canlynol:
- camau cymesur i liniaru a rheoli yn effeithiol:
- y risg y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyflawni neu hwyluso trosedd flaenoriaeth; a’r
- risgiau o niwed i unigolion a nodwyd yn eu hasesiad risg o gynnwys anghyfreithlon.
- systemau a phrosesau cymesur i:
- atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth; a
- lleihau’r amser mae unrhyw gynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth yn bresennol a mynd ati’n ddi-oed i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono; a
Mae’n rhaid i wasanaethau hefyd gynnwys darpariaethau yn yr amodau gwasanaeth sy’n nodi sut bydd unigolion yn cael eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon, yn cymhwyso’r telerau hynny’n gyson ac yn sicrhau bod telerau’r gwasanaeth yn glir ac yn hawdd eu cyrraedd.
Daeth y ‘Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon’ hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.
Gall darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio gydymffurfio â’r Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon drwy roi camau ar waith sy’n cael eu hargymell yng Nghodau Ymarfer Ofcom ar gynnwys anghyfreithlon ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025 (y ‘Codau Ymarfer’), neu drwy fesurau amgen.
Mae gan Ofcom bwerau o dan adran 102(8) o’r Ddeddf i fynnu bod personau’n ymateb i hysbysiad gwybodaeth yn y modd a’r ffurf a nodwyd.
Ymchwiliad:
Ar 14 Ebrill 2025, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad gwybodaeth ffurfiol i ddarparwr gwasanaeth 4chan yn gofyn am gopi o’r cofnod o’i Asesiad Risg o Niwed Anghyfreithlon, fel rhan o’n Rhaglen Gorfodi Asesiad Risg. Adeg agor yr ymchwiliad hwn, ni chafwyd unrhyw ymateb i’r hysbysiad gwybodaeth.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a oes sail resymol dros gredu bod 4chan wedi methu, neu’n methu ar hyn o bryd cydymffurfio â’i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonir o dan y Ddeddf, yn ogystal â’i ddyletswydd i gwblhau a chadw cofnod o’i Asesiad Risg o Niwed Anghyfreithlon. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried a oes sail resymol dros gredu bod 4chan wedi methu, neu’n methu ar hyn o bryd cydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddiogelu ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon o dan adran 10.
Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn amlinellu ei ddull arferol o orfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a’r camau gweithdrefnol y mae’n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad.
Pan fyddwn yn canfod methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf). Yn yr achosion mwyaf difrifol o beidio â chydymffurfio, a lle bo’n briodol, o ystyried y risg o niwed i unigolion yn y Deyrnas Unedig, gallwn ofyn am orchymyn llys i fynnu bod trydydd partïon yn cymryd camau i darfu ar fusnes y darparwr. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon (fel darparwyr gwasanaethau talu neu hysbysebu, neu Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd) dynnu gwasanaethau o wasanaeth rheoledig yn y Deyrnas Unedig, neu rwystro mynediad ato.
Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law.
CW/01307/06/25