
Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, mae gwrando ar y cyhoedd a deall profiadau byw pobl ar-lein yn ffordd bwysig o siapio ein gwaith.
Yn ddiweddar, gwnaethom gwblhau tri darn o ymchwil, sy'n edrych ar sut mae oedolion yn dod ar draws neu’n profi gwahanol fathau o gynnwys sensitif a niweidiol ar-lein. Gwnaethom yr ymchwil hon yn rhannol i'n helpu i ddeall sut mae pobl yn llywio platfformau lle gall cynnwys trallodus ymddangos, a'r offer y maent yn eu defnyddio, neu’n dymuno eu defnyddio, i reoli'r hyn maent yn ei weld. Mae'r astudiaethau hefyd wedi ein helpu i ddiweddaru ein sylfaen dystiolaeth ar gynnwys anghyfreithlon. Gyda'i gilydd, mae'r ymchwil yn tynnu sylw at fanteision a heriau bywyd ar-lein, ac at bwysigrwydd pobl i gael mwy o reolaeth dros eu profiadau ar-lein tra'n cadw’r dewis ynghylch y cynnwys y maent yn ei weld.
Yma rydym yn tynnu sylw at rai o brif ganfyddiadau allweddol yr ymchwil hwn, beth maent yn ei ddweud wrthym am brofiadau pobl ar-lein a sut mae'r mewnwelediadau hyn yn llywio ein gwaith ar ddiogelwch ar-lein.
Gall gweld cynnwys sensitif neu drallodus ar-lein fod yn ddigwyddiad dyddiol
Yn un o'n hastudiaethau, disgrifiodd pobl ddod ar draws ystod eang o gynnwys sensitif fel rhan gyffredin o'u profiad ar-lein. Roedd hyn yn cynnwys trais graffig, deunydd rhywiol eglur, a chynnwys sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a allai hyrwyddo hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Roedd hyn yn gwneud i lawer ohonynt deimlo anghysur, dicter neu sioc.
Tynnodd yr ymchwil sylw hefyd at sut mae rhai pobl yn fwy agored i risgiau ar-lein nag eraill. Siaradodd pobl o ystod o grwpiau lleiafrifol am weld casineb a gwahaniaethu ar-lein a sut mae hyn yn effeithio ar eu hymdeimlad o ddiogelwch corfforol. Roedd menywod yn fwy tebygol na dynion i siarad am ddod ar draws gynnwys sensitif, fel negeseuon uniongyrchol rhywiaethol a chynnwys sy'n canolbwyntio ar deneu-dra eithafol.
Mae pobl yn aml yn dod ar draws y cynnwys hwn yn annisgwyl
Hefyd tynnodd yr ymchwil sylw at sut mae pobl yn aml yn dod ar draws cynnwys sensitif yn anfwriadol. Disgrifiodd rhai pobl hefyd sut y daethant ar draws cynnwys yn annisgwyl a oedd, yn ôl eu disgrifiad, yn debygol o fod yn anghyfreithlon.
Dywedodd rhai bod cynnwys sensitif yn anodd ei osgoi, gan fod y cynnwys wedi ymddangos yn annisgwyl mewn mannau ar-lein y maent yn eu defnyddio bob dydd. Disgrifiosdd pobl yn aml ddod ar draws cynnwys trwy ffrydiau personol, argymhellion ac adrannau sylwadau, yn hytrach na chwilio amdano’n weithredol.
Yn ein hastudiaeth ddiweddar ar gasineb ar-lein, dywedodd mwy na thri chwarter o bobl eu bod wedi dod ar draws cynnwys yr oeddent yn ei ystyried yn gasineb yn ystod y flwyddyn flaenorol. Canfuom hefyd fod rhai grwpiau yn fwy tebygol nag eraill o ddod ar draws cynnwys casineb. Er enghraifft, dywedodd 90% o bobl LHDT+ ac 85% o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eu bod wedi gweld cynnwys o'r fath ar-lein. Yn gyffredinol, roedd pobl hefyd yn fwy tebygol o ddod ar draws casineb wedi’i gyfeirio at gymunedau yr oeddent eu hunain yn perthyn iddynt.
Ymhlith y rhai a oedd wedi dod ar draws casineb, dywedodd dros dri chwarter eu bod wedi’i weld wrth sgrolio ar-lein, ac roedd mwy na hanner wedi dod ar ei draws mewn sylwadau neu adrannau ymateb.
Profiadau o gynnwys hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta
Roedd y duedd hon hefyd yn glir mewn astudiaeth ddiweddar arall a oedd yn edrych ar sut mae pobl yn dod ar draws cynnwys sy'n hyrwyddo hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Hyd yn oed pan oedd pobl wedi chwilio am y cynnwys hwn yn fwriadol i ddechrau, er enghraifft wrth brofi heriau iechyd meddwl difrifol neu anhwylderau bwyta, gallai'r math hwn o ddeunydd barhau i ymddangos ymhell ar ôl iddynt beidio â bod eisiau ei weld mwyach, a phan oeddent yn aml yn ceisio gwella o brofiadau personol anodd. Weithiau byddai pobl yn dod ar draws y cynnwys cynhyrfus hwn pan fyddai fideos yn cael eu chwarae’n awtomatig ar wefannau poblogaidd yr oeddent yn eu defnyddio, ac ar adegau eraill fe ddaethant ar ei draws mewn mannau ar-lein a oedd fod i fod yn gefnogol.
Mwy o reolaeth, ond heb lai o ddewis
Thema gyson trwy gydol yr ymchwil oedd bod pobl eisiau mwy o reolaeth dros eu profiadau ar-lein. Maent eisiau offer sy'n eu helpu i reoli'r hyn maent yn eu gweld ar-lein, ac i leihau eu hamlygiad i gynnwys y maent yn ei ystyried yn ofidus neu'n niweidiol. Maent yn gwerthfawrogi mesurau, fel y gallu i rwystro a thawelu pobl eraill, yn ogystal ag offer sy'n caniatáu iddynt nodi eu bod am weld llai o fathau penodol o gynnwys.
Roedd pobl hefyd o’r farn gref am bwysigrwydd cadw dewis. Gofynnom i bobl am eu defnydd o offer i hidlo mathau o gynnwys a welsant ormod ohono, gan gynnwys casineb ar-lein. Roedd rhai pobl eisiau defnyddio'r offer hwn i ddiogelu eu hiechyd meddwl neu i gael profiad ar-lein mwy cadarnhaol, ac roeddent yn rhwystredig nad oeddent yn haws dod o hyd iddynt neu eu defnyddio. Ond roedd yna hefyd amharodrwydd gan rai pobl a oedd eisiau bod yn ymwybodol o faterion sy'n effeithio ar eu cymunedau, cefnogi defnyddwyr eraill sy'n cael eu hymosod arnynt ar-lein, neu gael gwybod beth oedd yn digwydd yn y byd o'u cwmpas – hyd yn oed os oedd hynny'n golygu parhau i ddod ar draws cynnwys a allai fod yn ofidus. Roedd rhai yn poeni y gallai hidlo gormod ei gwneud hi'n anoddach dod ar draws gwahanol safbwyntiau neu ymgysylltu â sgyrsiau pwysig.
Hefyd gwnaethom ofyn i bobl am rybuddion cynnwys, gan gynnwys y rhai sy'n gofyn i ddefnyddwyr wneud penderfyniad ymwybodol ynghylch a ddylid gweld y cynnwys, fel clicio arno. Yn ogystal â’u hystyried yn fwy defnyddiol na rhybuddion sy'n diflannu ar ôl ychydig eiliadau, roedd pobl weithiau'n ffafrio nodweddion o’r fath yn hytrach na’r syniad o guddio categorïau cynnwys yn llwyr, gan eu bod yn cael mwy o wybodaeth yn hytrach na dim ond tynnu cynnwys o'r golwg yn unig. Adlewyrchodd hyn awydd ehangach am amgylcheddau ar-lein sy'n darparu amddiffyniad a dewis – er mewn rhai achosion roedd yn ymddangos bod ofn yn cael eu dylanwadu gan yr ofn colli allan ar gynnwys y mae pobl eraill yn ei weld.
Pam fod yr ymchwil hon yn bwysig
Mae deall profiadau pobl ar-lein yn rhan bwysig o'r sail dystiolaeth ar gyfer gwaith diogelwch ar-lein Ofcom. Mae ymchwil fel hyn yn ein helpu i ddeall nid yn unig y mathau o gynnwys y mae pobl yn dod ar eu traws ar-lein, yn ogystal sut y gall profiadau fod yn wahanol rhwng unigolion a chymunedau, a sut mae pobl eisiau llywio'r profiadau hyn.
Cyfrannodd y mewnwelediadau hyn at ein sail dystiolaeth ac mae wedi helpu i lywio datblygiad ein polisïau ar gyfer ein hymgynghoriad diweddar, Rhoi mwy o ddewis, rheolaeth ac ymddiriedaeth i ddefnyddwyr yn eu profiad ar-lein. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cynigion ar gyfer sut y gall gwasanaethau ar-lein roi mwy o reolaeth i bobl dros y cynnwys y maent yn ei weld a'r bobl y maent yn rhyngweithio â nhw ar-lein.
Rydym hefyd yn eich gwahodd i ddarparu adborth ar y cynigion yr ydym wedi'u cyflwyno yn ein hymgynghoriad, sydd ar agor tan 2 Hydref 2026.
Cynnwys cysylltiedig