An abstract image of hands typing on a keyboard

Ofcom yn lansio ymchwiliad i X dros ddelweddaeth rywiol Grok

Cyhoeddwyd: 12 Ionawr 2026
Diweddarwyd diwethaf: 15 Ionawr 2026

Diweddariad, 15 Ionawr 2026

Mae X wedi dweud ei fod wedi gweithredu mesurau i atal cyfrif Grok rhag cael ei ddefnyddio i greu delweddau personol o bobl. 

Mae hwn yn ddatblygiad i'w groesawu. Fodd bynnag, mae ein hymchwiliad ffurfiol yn parhau. Rydym yn gweithio i symud hyn ymlaen i a chael atebion i'r hyn a aeth o'i le a beth sy'n cael ei wneud i'w drwsio.


Datganiad gwreiddiol, 12 Ionawr 2026

Heddiw, mae corff gwarchod diogelwch ar-lein annibynnol y DU, Ofcom, wedi agor ymchwiliad ffurfiol i X o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, i benderfynu a yw wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys sy'n anghyfreithlon yn y DU.

Ein hasesiad cychwynnol

Mae adroddiadau sy’n peri pryder mawr am gyfrif chatbot Grok AI ar X yn cael ei ddefnyddio i greu a rhannu delweddau noeth o bobl – a allai fod yn gyfystyr â cham-drin delweddau personol neu bornograffi – a delweddau rhywiol o blant a allai fod yn gyfystyr â deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM).[1]  

Fel corff gwarchod diogelwch ar-lein annibynnol y DU, gwnaethom gysylltu ar frys ag X ddydd Llun 5 Ionawr, a gosod dyddiad cau pendant o ddydd Gwener 9 Ionawr iddo esbonio pa gamau y mae wedi'u cymryd i gydymffurfio â'i ddyletswyddau i ddiogelu ei ddefnyddwyr yn y DU.

Ymatebodd y cwmni erbyn y dyddiad cau, a gwnaethom gynnal asesiad cyflym o'r dystiolaeth fel mater o frys.[2]

Beth fydd ein hymchwiliad yn ei archwilio

Mae Ofcom wedi penderfynu agor ymchwiliad ffurfiol i ganfod a yw X wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein – yn benodol, i ganfod a yw wedi:

  • asesu'r risg y bydd pobl yn y DU yn gweld cynnwys sy'n anghyfreithlon yn y DU, a chynnal asesiad risg wedi'i ddiweddaru cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'w wasanaeth;
  • cymryd camau priodol i atal pobl yn y DU rhag gweld cynnwys anghyfreithlon 'blaenoriaeth' – gan gynnwys delweddau personol nad ydynt yn gydsyniol a CSAM;[3]
  • tynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono;
  • ystyried diogelu defnyddwyr rhag achosion o dorri cyfreithiau preifatrwydd;
  • asesu'r risg y mae ei wasanaeth yn ei pheri i blant y DU, a chynnal asesiad risg wedi'i ddiweddaru cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'w wasanaeth;
  • defnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i ddiogelu plant y DU rhag gweld pornograffi.[4]

Rôl Ofcom

Mae'r cyfrifoldeb cyfreithiol ar lwyfannau i benderfynu a yw cynnwys yn torri cyfreithiau'r DU, a gallant ddefnyddio ein Canllawiau Dyfarniadau Cynnwys Anghyfreithlon wrth wneud y penderfyniadau hyn. Nid yw Ofcom yn sensor – nid ydym yn dweud wrth lwyfannau pa bostiadau neu gyfrifon penodol y dylent eu tynnu i lawr.

Ein gwaith ni yw barnu a yw safleoedd ac apiau wedi cymryd camau priodol i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys sy'n anghyfreithlon yn y DU, a diogelu plant y DU rhag cynnwys arall sy'n niweidiol iddynt, fel pornograffi.

Proses ymchwilio Ofcom

Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi'r broses y mae'n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i gwmni a phenderfynu a yw wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol.[5]

Ein cam cyntaf yw casglu a dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes achos o ddiffyg cydymffurfio wedi digwydd. Os, yn seiliedig ar y dystiolaeth honno, rydym o'r farn bod achos o ddiffyg cydymffurfio wedi digwydd, byddwn yn cyhoeddi penderfyniad dros dro i'r cwmni, a fydd wedyn yn cael cyfle i ymateb i'n canfyddiadau yn llawn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.

How Ofcom investigates under the Online Safety Act_X Grok process CYM

Pwerau gorfodi

Os yw ein hymchwiliad yn canfod bod cwmni wedi torri'r gyfraith, gallwn ei gwneud yn ofynnol i lwyfannau gymryd camau penodol i gydymffurfio neu i unioni niwed a achoswyd gan y tor-cyfraith. Gallwn hefyd osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw cymwys byd-eang, pa un bynnag sydd fwyaf.[6]

Yn yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg cydymffurfio parhaus, gallwn wneud cais i lys am 'fesurau tarfu ar fusnes', lle gallai llys osod gorchymyn, dros dro neu lawn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr taliadau neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o lwyfan, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd rwystro mynediad i safle yn y DU. Dim ond pan fo'n briodol ac yn gymesur i atal niwed sylweddol i unigolion yn y DU y gall llys osod gorchmynion o'r fath.[7]

Awdurdodaeth y DU

Mewn unrhyw ddiwydiant, rhaid i gwmnïau sydd am ddarparu gwasanaeth i bobl yn y DU gydymffurfio â chyfreithiau'r DU. Mae Deddf Diogelwch Ar-lein y DU yn ymwneud â diogelu pobl yn y DU. Nid yw'n gofyn i blatfformau gyfyngu ar yr hyn y gall pobl mewn gwledydd eraill ei weld.

Mae yna ffyrdd y gall blatfformau ddiogelu pobl yn y DU heb atal eu defnyddwyr mewn rhannau eraill o'r byd rhag parhau i weld y cynnwys hwnnw.[8]

Dywedodd Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodi yn Ofcom: "Mae adroddiadau am Grok yn cael ei ddefnyddio i greu a rhannu delweddau personol anghyfreithlon heb ganiatâd a deunydd cam-drin rhywiol plant ar X wedi bod yn destun peri pryder mawr. Rhaid i blatfformau ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys sy'n anghyfreithlon yn y DU ac ni fyddwn yn oedi cyn ymchwilio lle rydym yn amau bod cwmnïau'n methu yn eu dyletswyddau, yn enwedig lle mae risg o niwed i blant.

"Byddwn yn bwrw ymlaen â'r ymchwiliad hwn fel mater o'r flaenoriaeth, wrth sicrhau ein bod yn dilyn proses briodol. Fel asiantaeth gorfodi diogelwch ar-lein annibynnol y DU, mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod ein hymchwiliadau yn gyfreithiol gadarn ac yn cael eu penderfynu'n deg"

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl.  


Nodiadau i olygyddion 

  1. Mae'n anghyfreithlon yn y DU i rannu delweddau personol nad ydynt yn gydsyniol neu ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol. Gweler 66D, is-adrannau 5-7 o'r Ddeddf Troseddau Rhywiol, fel y'i mewnosodwyd gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ar gyfer y diffiniad o gam-drin delweddau perthnasol, ac mae Atodlen 6 yn esbonio'r troseddau camfanteisio'n rhywiol a cham-drin plant sy'n droseddau blaenoriaeth o dan y Ddeddf.
  2. Cawsom ymateb gan xAI ddydd Gwener 9 Ionawr. Rydym yn asesu a oes problemau cydymffurfio posibl gyda xAI - fel darparwr Grok – o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein sy'n cyfiawnhau ymchwiliad. Rydym wedi ceisio eglurhad brys gan xAI ynghylch y camau y mae'n eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr yn y DU.
  3. Mae codau ymarfer niwed anghyfreithlon Ofcom yn nodi mesurau diogelwch y gall darparwyr eu gweithredu i gydymffurfio â'u dyletswyddau, fel: cael prosesau adrodd a chwynion defnyddwyr am gynnwys anghyfreithlon sy'n hawdd ei ddarganfod, ei gyrchu a'i ddefnyddio; adnoddau digonol a hyfforddi timau cymedroli cynnwys fel y bo'n briodol i ddelio â chynnwys anghyfreithlon; a chael systemau cymedroli cynnwys sydd wedi'u cynllunio i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan fyddant yn ymwybodol ohono.
  4. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau yma ac yma sy'n nodi dulliau sicrwydd oedran yr ydym yn ystyried eu bod yn gallu bod yn hynod effeithiol wrth benderfynu a yw defnyddiwr yn blentyn ai peidio.
  5. Gellir dod o hyd i'n Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein yma.
  6. Ers i ddyletswyddau ddod i rym llai na blwyddyn yn ôl, rydym wedi defnyddio ystod o'n pwerau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, gan gynnwys:
    • Lansio ymchwiliadau i fwy na 90 o lwyfannau.
    • Cyhoeddi chwe dirwy am beidio â chydymffurfio, gan gynnwys yn erbyn safle noethni AI am beidio â chael gwiriadau oedran cadarn ar waith.
    • Cyhoeddi'r ddirwy gyntaf o £1 miliwn o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn erbyn y cwmni porn AVS Group.

O ganlyniad i'n camau gorfodi hyd yma:

    • Mae darparwyr porn wedi cyflwyno gwiriadau oedran newydd.
    • Mae gwasanaethau a ddefnyddir i ddosbarthu CSAM wedi defnyddio technoleg paru hash.
    • Nid yw rhai safleoedd risg uchel bellach ar gael i gyfeiriadau IP y DU.

Mae rhestr lawn o'n camau gorfodi o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar gael yma.

    1. Er na fyddwn yn oedi cyn defnyddio'r pwerau hyn lle mae'n briodol ac yn gymesur, byddai'n ymyrraeth reoleiddiol sylweddol oherwydd yr effaith y mae’n eu cael ar argaeledd gwasanaethau a gwybodaeth ar-lein i bobl yn y DU. Yn ddiweddar, gwnaethom roi rhybudd i ddarparwr fforwm hunanladdiad ein bod yn barod i wneud cais i lys am fesurau tarfu ar fusnes yn gyflym ar ôl i'r cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ar ein penderfyniad dros dro fynd heibio, os bydd unrhyw ddiffyg cydymffurfio y gallwn ei nodi yn ein penderfyniad dros dro yn parhau.
    2. Mae rhagor o wybodaeth am awdurdodaeth ar gael yma.