
Heddiw, mae Ofcom wedi agor dau ymchwiliad ar wahân i ddarparwyr telathrebu, Vonage Business Limited a Voxbone SA, yn sgil pryderon bod rhifau ffôn sy’n eiddo i’r cwmnïau hynny yn cael eu camddefnyddio, gan gynnwys at ddibenion cyflawni sgamiau.
Yn unol â rheolau Ofcom ar rifau i ddiogelu defnyddwyr a chanllawiau’r diwydiant, rhaid i gwmnïau ffôn gymryd camau priodol i sicrhau nad yw’r rhifau rydym wedi'u dyrannu iddynt yn cael eu camddefnyddio gan fusnesau neu unigolion y maent wedi'u trosglwyddo iddynt. Gall camddefnyddio rhifau gynnwys, er enghraifft, cael eu defnyddio i hwyluso galwadau a negeseuon testun sy’n rhannu sgamiau. Rhaid i gwmnïau hefyd gymryd camau i sicrhau bod rhifau'n cael eu defnyddio'n gywir yn unol â'r Cynllun Rhifo Ffôn Cenedlaethol.
Er mwyn i gwmnïau ffôn fynd i'r afael â chamddefnyddio rhifau, rydym yn disgwyl iddynt, ymhlith pethau eraill, gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy 'adnabod eich cwsmer' ar eu cwsmeriaid busnes er mwyn atal sgamwyr rhag cael gafael ar rifau dilys yn y lle cyntaf. Yn ogystal, dylent gadw’r lefel o risg sy’n gysylltiedig â chwsmer busnes dan adolygiad drwy fonitro am achosion posibl o gamddefnyddio rhifau, ac ymateb yn rhagweithiol i unrhyw achosion o gamddefnyddio sy'n cael eu hadrodd iddynt.
Rydym wedi casglu gwybodaeth sydd wedi codi pryderon ynghylch defnyddio rhifau a ddyrannwyd i Vonage Business Limited a Voxbone SA. Yn benodol, bydd ein hymchwiliadau yn ceisio canfod a yw'r ddau gwmni wedi cydymffurfio â gofynion perthnasol Amod Cyffredinol B1, gan gynnwys rhwymedigaethau sy'n ymwneud â defnydd effeithiol ac effeithlon o rifau, a'r camau a gymerwyd i oruchwylio eu defnydd.
Camau gorfodi parhaus
Mae ymchwiliadau heddiw yn rhan o’n rhaglen gorfodi sy'n canolbwyntio’n benodol ar sgamiau ffôn a negeseuon testun. Nod y rhaglen hon yw diogelu cwsmeriaid trwy gefnogi arferion gorau wrth ddefnyddio rhifau ffôn a sicrhau bod darparwyr yn dilyn rheolau Ofcom.
Byddwn yn casglu rhagor o wybodaeth ac yn rhoi diweddariad ar y ddau ymchwiliad hyn maes o law. Os oes gennym sail resymol i amau bod unrhyw gwmnïau eraill wedi torri ein rheolau, efallai y byddwn yn lansio ymchwiliadau pellach a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen bwletin gorfodi.
Ar eich ochr chi
Yn ddiweddar, mae Ofcom wedi lansio Hwb Defnyddwyr newydd - www.ofcom.org.uk/cy/areichochrchi - sy'n cynnig cyfoeth o awgrymiadau, gan gynnwys sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau, ynghyd â chyngor arbed arian, help gyda phroblemau gwasanaeth cyffredin a ffyrdd o wneud cwyn.
Cynnwys cysylltiedig