Cyhoeddwyd: 3 Tachwedd 2025
Ymgynghori yn cau: 1 Rhagfyr 2025
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Dyma alwad am dystiolaeth ar gyfer dau adroddiad y mae'n rhaid i Ofcom eu cynhyrchu o dan y Ddeddf am y defnydd o sicrwydd oedran a siopau apiau gan blant.
Rydym yn ceisio tystiolaeth a mewnbwn ar y canlynol:
- sut mae darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig wedi defnyddio sicrwydd oedran i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, pa mor effeithiol y mae wedi bod at y diben hwnnw, ac a oes ffactorau sydd wedi atal neu rwystro defnydd effeithiol o sicrwydd oedran, megis cost neu breifatrwydd defnyddwyr;
- pa rôl mae siopau apiau yn ei chwarae mewn plant sy'n dod ar draws cynnwys sy'n niweidiol iddynt trwy gyfrwng apiau rheolediedig y mae'r siopau apiau yn eu darparu; asesu defnydd ac effeithiolrwydd sicrwydd oedran a ddefnyddir ar hyn o bryd gan siopau apiau; ac archwilio a fyddai diogelwch plant ar-lein yn cael ei ddiogelu'n well trwy ddefnyddio mwy o sicrwydd oedran neu fesurau eraill ar lefel siop apiau.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 1 Rhagfyr 2025.
Sut i ymateb
Cyfeiriad
Tîm Cyflawni Polisi Diogelwch Ar-lein
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain
SE1 9HA
Ebost: AgeAssuranceCfE@ofcom.org.uk