
Mae X wedi cyflwyno ei adroddiad chwarterol cyntaf i Ofcom ar y camau y mae wedi'u cymryd pan fydd defnyddwyr yn adrodd iddo am gynnwys casineb a therfysgaeth.
Mae’n ymddangos bod X wedi gwella o ran pa mor gyflym y mae’n adolygu'r deunydd hwn, ond mae gennym bryderon parhaus ynghylch pa mor effeithiol yw ymateb X wrth dynnu cynnwys casineb a therfysgaeth anghyfreithlon i lawr.
Byddwn yn craffu ar y data a gyflwynwyd ac yn parhau i ymgysylltu ag X fel mater o flaenoriaeth o ran ei ganlyniadau cymedroli cynnwys.
Ymrwymiadau X i fynd i'r afael â chynnwys casineb a therfysgaeth anghyfreithlon
Ym mis Mai, yn dilyn cyfnod o ymgysylltu dwys ag Ofcom, ymrwymodd X i adolygu cynnwys terfysgol a chasineb anghyfreithlon a amheuir y mae defnyddwyr yn rhoi gwybod amdano gan ddefnyddio ei offeryn adrodd am gynnwys anghyfreithlon pwrpasol yn y DU, a hynny o fewn 24 awr. Ymrwymodd i wneud hyn dros gyfnod o dri mis.
Fel mesur diogelwch ychwanegol, ymrwymodd hefyd i adolygu ac asesu o leiaf 85% o’r cynnwys casineb a therfysgaeth anghyfreithlon a amheuir y mae defnyddwyr yn rhoi gwybod amdano trwy ei offeryn adrodd am gynnwys anghyfreithlon pwrpasol yn y DU o fewn uchafswm o 48 awr. Ymrwymodd i wneud hyn dros gyfnod o dri mis.
Dywedom ni y byddem yn asesu data perfformiad chwarterol X a gyflwynwyd i ni dros gyfnod o 12 mis.
Rydym bellach wedi derbyn adroddiad chwarterol cyntaf X. O'i gymharu â thystiolaeth a ddadansoddwyd yn gynharach eleni, mae'n ymddangos bod y data diweddaraf hwn yn dangos rhai gwelliannau yn yr amser cyfartalog y mae’n ei gymryd i X weithredu ar yr adroddiadau hyn, ac mae ei berfformiad yn dod o fewn yr amserlenni ymateb y cytunwyd arnynt o dan ei ymrwymiadau.
Byddwn yn croeswirio'r metrigau perfformiad hyn yn erbyn ein profion ein hunain, ac rydym wedi bod yn glir gydag X bod yn rhaid iddo, o leiaf, gynnal y perfformiad hwn.
Mae gennym bryderon parhaus, fodd bynnag, ynghylch effeithiolrwydd ymateb X i dynnu cynnwys casineb a therfysgaeth anghyfreithlon i lawr, ac rydym wedi derbyn adroddiadau cymysg ynghylch ymrwymiad X i ymgysylltu ag arbenigwyr trydydd parti.
Rydym yn parhau i ymgysylltu ag X ar y materion hyn fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau gwelliannau. Rydym hefyd yn disgwyl cyflwyno dadansoddiad pellach o'u perfformiad yn ein diweddariad nesaf yn gynnar yn y flwyddyn newydd, unwaith y byddwn wedi derbyn data pellach gan y cwmni.
Diweddariad ar ymchwiliad i X
Yn gynharach eleni, Ofcom oedd un o'r rheoleiddwyr cyntaf yn y byd i weithredu ar adroddiadau pryderus ynghylch cyfrif sgwrsbot Grok AI ar X yn cael ei ddefnyddio i greu a rhannu delweddau rhywiol dwfn ffug o bobl go iawn, gan gynnwys plant, a allai fod yn gynnwys anghyfreithlon.
Yn ystod ein hymchwiliad, rydym wedi casglu a dadansoddi llawer iawn o wybodaeth – gan ddefnyddio ein pwerau ffurfiol – i ddeall prosesau X ac archwilio ei gydymffurfiaeth ag ystod o wahanol ddyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Mae'r materion rydym wedi bod yn eu harchwilio yn cynnwys: y ffordd y gwnaeth asesu'r risg o gynnwys anghyfreithlon yn ymddangos ar ei blatfform; pa mor hawdd yw hi i ddefnyddwyr roi gwybod am gynnwys anghyfreithlon a amheuir; a sut yr aeth ati i wneud y penderfyniadau cymedroli a wnaeth mewn ymateb i adroddiadau.
Bydd ein hymchwiliad nawr yn penderfynu – yn seiliedig ar y dystiolaeth rydym wedi’i chasglu – a ydym yn ystyried bod X wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon.
Os oes gennym sail resymol i gredu ei fod wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau, ein cam nesaf fyddai cyhoeddi barn dros dro i X yn nodi'r rhesymau dros ein canfyddiadau arfaethedig. Yna byddai X yn cael cyfle llawn i ymateb i'n canfyddiadau, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.
Gwelliannau a sicrhawyd i ddiogelu plant rhag porn ar X
O ganlyniad i'n gwaith casglu tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad, darganfuom, mewn rhai amgylchiadau, fod deunydd pornograffig â rhwystr oedran yn parhau i fod yn hygyrch ar X i gyfrifon nad oeddent wedi'u gwirio fel rhai sy'n perthyn i ddefnyddwyr 18 oed neu'n hŷn.
Mewn ymateb i'n pryderon, mae X bellach wedi gweithredu cyfres o newidiadau i'w wasanaeth. Mae hyn yn golygu bod cynnwys wedi'i labelu fel pornograffi yn cael ei gyfyngu'n gyson ar gyfer cyfrifon nad ydynt wedi cwblhau sicrwydd oedran trwy ddulliau dynodedig X.
Felly, rydym wedi penderfynu canolbwyntio gweddill ein hymchwiliad ar ei gydymffurfiaeth â'i ddyletswyddau cynnwys anghyfreithlon a chwynion ac adrodd, er ein bod yn parhau i fonitro effeithiolrwydd ei wiriadau oedran.
Newidiadau i’r gwasanaeth Grok annibynnol
Pan agorwyd ein hymchwiliad i X ym mis Ionawr, roeddem yn glir nad oeddem yn gallu ymchwilio i greu delweddau anghyfreithlon o fewn y gwasanaeth Grok annibynnol, oherwydd bylchau yn y ffordd y mae sgwrsfotiau wedi’u cynnwys o dan y Ddeddf.
Fodd bynnag, yn dilyn ymgysylltu ag Ofcom, rhoddodd SpaceXAI (a elwid gynt xAI) gyfyngiadau ar waith ar y pryd i rwystro pobl rhag defnyddio'r gwasanaeth i gynhyrchu neu weld delweddau o bobl go iawn mewn dillad sy’n dangos llawer o’r corff, fel bicinis.
Ers hynny, o ganlyniad i ymgysylltu pellach ag Ofcom, mae SpaceXAI bellach hefyd wedi gweithredu cyfyngiadau i sicrhau bod plant yn y DU yn cael eu diogelu rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar y gwasanaeth Grok.
Mae wedi cyfyngu pobl â chyfeiriadau IP y DU rhag gweld, cynhyrchu a/neu rannu cynnwys pornograffig gan ddefnyddio'r dechnoleg cynhyrchu delweddau a ddarperir gan wasanaeth annibynnol Grok, yn yr ap neu drwy ddolenni. Yn ogystal, rhoddodd SpaceXAI gyfyngiadau ar waith i’w sgwrsbotiau cysylltiedig, gan gynnwys 'Ani', i'w hatal rhag cymryd rhan mewn sgyrsiau rhywiol gyda defnyddwyr y DU.
Bydd Ofcom yn parhau i fonitro’r ffordd y caiff y cyfyngiadau hyn eu cymhwyso ac yn ymgysylltu â SpaceXAI ynghylch cymhwyso'r Ddeddf yn ehangach i'r gwasanaeth annibynnol Grok.
Cynnwys cysylltiedig