HERO - Context and intent shape audience views on offensive language

Cyd-destun a bwriad yn dylanwadu ar farn y gynulleidfa ar iaith sarhaus

Cyhoeddwyd: 15 Hydref 2026
  • Cynulleidfaoedd yn fwy parod i oddef rhegi ond yn llai parod i dderbyn iaith wahaniaethol
  • Ofcom yn mabwysiadu dull newydd o sgorio iaith sarhaus, wedi’i lywio gan farn y gynulleidfa

Mae gwylwyr a gwrandawyr yn dweud eu bod o’r farn bod iaith wahaniaethol yn fwy problematig na rhegi ar y teledu, radio a gwasanaethau ar-alw yn ôl astudiaeth agwedd ddiweddaraf Ofcom.  

Pan ddaw i ddarlledu cynnwys a allai fod yn sarhaus, mae cyfranogwyr yn ein hymchwil yn cydnabod bod cydbwysedd i'w daro, gan bwyso rhyddid i fynegi yn erbyn cyfrifoldeb i ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed – yn enwedig plant a grwpiau sy’n agored i niwed.

Mae'r adroddiad yn datgelu gwahaniaeth clir rhwng agweddau cyffredinol cynulleidfaoedd modern at regi o gymharu ag iaith wahaniaethol. Dywedodd llawer o gyfranogwyr eu bod yn aml yn gweld neu’n clywed rhegi mewn bywyd bob dydd, gan arwain at fwy o oddefgarwch tuag at regi mewn rhaglenni. Roedd cyfranogwyr hefyd yn teimlo y gall geiriau sarhaus fod yn ffordd bwysig o greu effaith ddramatig, dod â hiwmor, adlewyrchu bywyd go iawn, neu hyd yn oed addysgu cynulleidfaoedd. 

Wedi dweud hynny, mae people yn dal i ddisgwyl i ddarlledwyr ddefnyddio iaith sarhaus yn gyfrifol, yn enwedig pan ddaw i ddioeglu plant, ac i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael digon o reolaeth i wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn maen nhw'n ei wylio ac yn gwrando arno.

Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl amddiffyniadau cryf yn erbyn iaith wahaniaethol

Er bod goddefgarwch tuag at rhegi mewn rhaglenni wedi cynyddu'n raddol dros amser yn unol â newidiadau cymdeithasol, mae cynulleidfaoedd o’r farn y dylai darlledwyr ddarparu amddiffyniadau cryf rhag iaith niweidiol sy'n dirywio neu'n gwahaniaethu yn erbyn unigolion neu grwpiau penodol.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo bod iaith wahaniaethol yn aml yn gallu atgyfnerthu stereoteipiau negyddol, gyda termau sarhaus sy'n ymwneud â hil, cenedligrwydd ac ethnigrwydd ymhlith y rhai a ystyrir yn lleiaf derbyniol. Roedd iaith wahaniaethol sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd a chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael ei ystyried yn arbennig o sensitif gan gyfranogwyr.

Rhannwyd safbwyntiau ar iaith adfer (reclaimed language), gyda rhai yn ei gweld fel ffordd o rymuso ac eraill yn credu bod risg o normaleiddio termau sarhaus. Cododd cyfranogwyr eraill bryderon bod pobl yn cael eu beirniadu neu eu barnu fwyfwy am ddefnyddio termau a allai fod wedi cael eu hystyried yn dderbyniol o'r blaen.

Mae cyd-destun yn bwysig

Roedd cyfranogwyr yn cydnabod mai anaml y byddai derbynioldeb iaith sarhaus yn cael ei bennu gan eiriau yn unig, gyda chynulleidfaoedd yn ystyried ystod o ffactorau cyd-destunol pwysig eraill. 
Daeth y bwriad neu'r cymhelliant y tu ôl i'r iaith i'r amlwg fel un o'r dylanwadau cryfaf ar ganfyddiadau o dderbynioldeb. Roedd cyfranogwyr hefyd yn ystyried y platfform neu'r sianel, amser darlledu, genre, hunaniaeth y siaradwr a phresenoldeb rhybuddion, ymddiheuriadau neu ‘bleepio’ fel ffactorau pwysig wrth bennu derbynioldeb.

Mae disgwyliadau rhwng gwahanol ddarlledwyr a sianeli yn amrywio. Roedd y BBC yn cael ei ddal i safonau arbennig o uchel, tra bod disgwyl i rai sianeli fod yn fwy heriol neu wthio’r ffiniau. Roedd cyfranogwyr yn gyffredinol yn fwy derbyniol o iaith sarhaus ar sianeli ar-alw, lle roeddent yn teimlo eu bod wedi dewis y cynnwys yn weithredol.

Amddiffyniadau cryf i blant ond mwy o hyblygrwydd ar gyfer rhaglenni ar ôl y trothwy

Er gwaethaf newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio cynnwys, mae llawer o gyfranogwyr  yn parhau i weld y trothwy fel amddiffynfa bwysig i ddiogelu plant rhag niwed ac yn farc clir ar gyfer disgwyliadau'r gynulleidfa.

Gyda hyn mewn golwg, rydym yn newid ein dull o ddosbarthu geiriau ac ymadroddion a allai fod yn sarhaus yn ein 'Canllaw Cyfeirio Cyflym' ar gyfer darlledwyr.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd yr astudiaeth eleni yn cynnwys gofyn i gyfranogwyr aseinio graddfeydd derbynioldeb i restr o eiriau ac ymadroddion a allai fod yn sarhaus.

O dan ein dull newydd, bydd pob term yn cael sgôr cyn y trothwy a sgôr ar ôl y trothwy, gan adlewyrchu adborth y gynulleidfa. Mae hyn yn cydnabod bod gan gyfranogwyr safbwyntiau gwahanol am dderbynioldeb yr un term gan ddibynnu ar amser y darllediad a'r gynulleidfa debygol.
Mae'r dull diwygiedig hwn yn sicrhau bod darlledwyr yn cael darlun llawnach o agweddau'r gynulleidfa tuag at y defnydd o dermau sarhaus pan fydd plant yn fwy tebygol o fod yn gwylio, tra'n rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt mewn rhaglenni a ddarlledir ar ôl y trothwy amser (watershed) sydd wedi'u hanelu at oedolion.

Ynghyd â'r prif ganfyddiadau'r ymchwil, bydd hyn yn helpu darlledwyr i wneud penderfyniadau golygyddol ynghylch disgwyliadau'r gynulleidfa o iaith a allai fod yn sarhaus ac unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd i ddiogelu gwylwyr a gwrandawyr.

Bydd y canfyddiadau hefyd yn cefnogi tîm Safonau a Gorfodi Cynnwys Ofcom wrth ystyried achosion sy'n ymwneud ag iaith a allai fod yn sarhaus, tra'n parhau i roi sylw llawn i ryddid i fynegi.

Agweddau at niwed posibl yn sgil o honiadau iechyd ac ariannol mewn rhaglenni

Ar wahân, mae Ofcom wedi cyhoeddi ymchwil ar agweddau cynulleidfaoedd at niwed posibl o hawliadau iechyd ac ariannol mewn rhaglenni, gan adeiladu ar ei ddealltwriaeth o ymchwil flaenorol yn 2017. 

Wrth ystyried niwed posibl mewn rhaglenni, roedd cyfranogwyr o’r farn po fwyaf credadwy oedd yr honiad yn ymddangos, y mwyaf o botensial oedd ganddo i achosi niwed. Roedden nhw'n ystyried bod hygrededd yn cael ei lywio gan bedwar prif ffactor: pwy wnaeth yr honiad, sut y cafodd ei gyflwyno, ble cafodd ei ddarlledu, a'r gynulleidfa gyrraedd. Roedden nhw'n arbennig o bryderus am honiadau a oedd yn gwarantu canlyniadau penodol.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo y dylai cyfrifoldeb personol gael ei gydbwyso â dyletswydd gofal darlledwyr. Roedden nhw'n disgwyl i ddarlledwyr, yn enwedig darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gymhwyso prosesau gwirio ffeithiau a diwydrwydd dyladwy cadarn wrth gyflwyno honiadau iechyd ac ariannol. Roeddent yn cefnogi amddiffyniadau sy'n helpu cynulleidfaoedd i wneud penderfyniadau gwybodus, fel datgeliadau risg, heriau a dadl cyflwynwyr, a chyflwyno safbwyntiau amgen.