Ar agor
Bwrdd Trafod Ar-lein ‘4chan’
10 Mehefin 2025
Rydym yn cychwyn ymchwiliad i benderfynu a yw’r bwrdd trafod ar-lein 4chan wedi methu—neu’n methu ar hyn o bryd—cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Bydd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar achosion posibl o dorri rheolau yn y meysydd canlynol:
- Methu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth;
- Methu cwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol; a hefyd
- Peidio â chydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch mewn cysylltiad â chynnwys anghyfreithlon.
Deddf Diogelwch Ar-lein 2023: adran 9, adran 10; adran 23(2); adran 102(8).
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i fwrdd trafod ar-lein ‘4chan’. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried cydymffurfiad 4chan â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (“y Ddeddf”).
Mae Adran 9(2) o’r Ddeddf yn mynnu bod pob gwasanaeth chwilio a defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sydd o fewn cwmpas y Ddeddf yn cynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon erbyn 16 Mawrth 2025. Ymysg pethau eraill, mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau asesu’r risgiau y byddai defnyddwyr yn dod o hyd i gynnwys anghyfreithlon ar eu llwyfannau, gan gynnwys deunydd anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth (fel y’i diffinnir yn y Ddeddf).
Mae Adran 10 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio i ddefnyddio'r canlynol:
- camau cymesur i liniaru a rheoli yn effeithiol:
- y risg y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyflawni neu hwyluso trosedd flaenoriaeth; a’r
- risgiau o niwed i unigolion a nodwyd yn eu hasesiad risg o gynnwys anghyfreithlon.
- systemau a phrosesau cymesur i:
- atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth; a
- lleihau’r amser mae unrhyw gynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth yn bresennol a mynd ati’n ddi-oed i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono; a
Mae’n rhaid i wasanaethau hefyd gynnwys darpariaethau yn yr amodau gwasanaeth sy’n nodi sut bydd unigolion yn cael eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon, yn cymhwyso’r telerau hynny’n gyson ac yn sicrhau bod telerau’r gwasanaeth yn glir ac yn hawdd eu cyrraedd.
Daeth y ‘Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon’ hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.
Gall darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio gydymffurfio â’r Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon drwy roi camau ar waith sy’n cael eu hargymell yng Nghodau Ymarfer Ofcom ar gynnwys anghyfreithlon ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025 (y ‘Codau Ymarfer’), neu drwy fesurau amgen.
Mae gan Ofcom bwerau o dan adran 102(8) o’r Ddeddf i fynnu bod personau’n ymateb i hysbysiad gwybodaeth yn y modd a’r ffurf a nodwyd.
Ymchwiliad:
Ar 14 Ebrill 2025, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad gwybodaeth ffurfiol i ddarparwr gwasanaeth 4chan yn gofyn am gopi o’r cofnod o’i Asesiad Risg o Niwed Anghyfreithlon, fel rhan o’n Rhaglen Gorfodi Asesiad Risg. Adeg agor yr ymchwiliad hwn, ni chafwyd unrhyw ymateb i’r hysbysiad gwybodaeth.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a oes sail resymol dros gredu bod 4chan wedi methu, neu’n methu ar hyn o bryd cydymffurfio â’i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonir o dan y Ddeddf, yn ogystal â’i ddyletswydd i gwblhau a chadw cofnod o’i Asesiad Risg o Niwed Anghyfreithlon. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried a oes sail resymol dros gredu bod 4chan wedi methu, neu’n methu ar hyn o bryd cydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddiogelu ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon o dan adran 10.
Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn amlinellu ei ddull arferol o orfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a’r camau gweithdrefnol y mae’n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad.
Pan fyddwn yn canfod methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf). Yn yr achosion mwyaf difrifol o beidio â chydymffurfio, a lle bo’n briodol, o ystyried y risg o niwed i unigolion yn y Deyrnas Unedig, gallwn ofyn am orchymyn llys i fynnu bod trydydd partïon yn cymryd camau i darfu ar fusnes y darparwr. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon (fel darparwyr gwasanaethau talu neu hysbysebu, neu Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd) dynnu gwasanaethau o wasanaeth rheoledig yn y Deyrnas Unedig, neu rwystro mynediad ato.
Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law.
CW/01307/06/25