
Heddiw, mae Ofcom yn ceisio barn ar Ganllawiau arfaethedig sy'n ymwneud â sut mae cwmnïau technoleg yn ymateb i geisiadau gan rieni sy’n galaru ynghylch defnydd eu plentyn a fu farw o wasanaeth.
Mae colli plentyn yn brofiad erchyll i unrhyw riant, ac yn achosi galar aruthrol. Trwy ein gweithdy a'n cyfweliadau â rhieni sy’n galaru, rydym wedi clywed yn uniongyrchol am y rhwystrau sylweddol maen nhw wedi'u hwynebu wrth geisio atebion gan gwmnïau technoleg am ddefnydd eu plant o'u gwefannau a'u apiau cyn eu marwolaeth.
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gosod gofynion ar gwmnïau technoleg ynghylch sut y gallant gynyddu tryloywder a lleihau ansicrwydd i rieni sy’n galaru sy'n gwneud ceisiadau yn yr amgylchiadau anodd hyn. Er mwyn helpu gwasanaethau i gydymffurfio â'r dyletswyddau hyn, mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom lunio Canllawiau i’r diwydiant.
Trin rhieni sy’n galaru ag urddas, parch a sensitifrwydd
Mae Canllawiau drafft Ofcom, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad heddiw, yn nodi'r camau ymarferol yr ydym yn disgwyl i ddarparwyr gwasanaethau perthnasol eu cymryd er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau yng nghyswllt defnyddwyr sy’n blant a fu farw, o dan y Ddeddf.
O ystyried bod lle i wasanaethau fynd ymhellach – y tu hwnt i'w gofynion cyfreithiol craidd – mae ein Canllawiau arfaethedig hefyd yn cynnwys ystod o fesurau arfer da eraill i sicrhau bod rhieni sy’n galaru yn cael eu trin gydag urddas, parch a sensitifrwydd.
Mae ein Canllawiau drafft yn disgwyl i wasanaethau, ymhlith pethau eraill:
- darparu gwybodaeth glir a hygyrch yn eu telerau gwasanaeth am eu polisi datgelu gwybodaeth, gan gynnwys sut y gall rhieni sy’n galaru wneud ceisiadau a'r dystiolaeth sydd ei hangen;
- sicrhau eu bod yn ymateb i rieni sy’n galaru yn amserol;
- cynnig gwasanaeth cymorth - a allai fod yn llinell gymorth - i rieni sy’n galaru;
- gweithredu proses gŵynion syml i'w defnyddio, hawdd ei defnyddio a thryloyw, gyda thîm neu unigolyn enwebedig sy'n gyfrifol am ymdrin â phryderon, ac amserlen ymateb glir.
Rydym nawr yn gofyn am adborth ar ein Canllawiau drafft y mae'n rhaid eu cyflwyno erbyn 23 Mawrth 2026.
Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion cyn cyhoeddi ein Canllawiau terfynol, ac ar ôl hynny, byddwn yn adolygu sut mae darparwyr gwasanaethau perthnasol yn cydymffurfio â'u dyletswyddau yn y maes hwn, ac i ba raddau y maent yn cymhwyso'r mesurau arfer da.
Cadw gwybodaeth am weithgaredd ar-lein plant a fu farw
Ar wahân, mae Ofcom heddiw wedi cwblhau Canllawiau ar gyfer llwyfannau ar-lein sy'n nodi pa wybodaeth y mae'n ofynnol iddynt ei chadw am weithgarwch ar-lein plentyn pan fydd Ofcom yn cyhoeddi Hysbysiad Cadw Data.
Mae Hysbysiadau Cadw Data yn cael eu cyhoeddi gan Ofcom ar gais crwner sy'n ymchwilio i farwolaeth plentyn. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd gadw gwybodaeth sy'n ymwneud â gweithgaredd ar-lein plentyn o'r pwynt y maent yn derbyn yr hysbysiad, a thrwy hynny sicrhau bod y wybodaeth ar gael i'r crwner os gofynnir amdani.
Rydym eisoes wedi cyhoeddi nifer o'r hysbysiadau hyn ers i'r darpariaethau ddod i rym ar 30 Medi.
Mae rhai llwyfannau ar-lein yn dileu data defnyddiwr yn awtomatig os yw eu cyfrif yn anweithredol am gyfnod penodol. Er mwyn galluogi gweithredu'n gyflym ar ôl marwolaeth plentyn, rydym wedi nodi'r mathau o wybodaeth y gallai crwneriaid dymuno ei darparu i Ofcom am y plentyn os yw'n hysbys ar y pryd, a'r mathau o ddata y bydd angen i lwyfannau eu cadw yn gyffredinol.
Rydym yn arbennig o ddiolchgar am y safbwyntiau amhrisiadwy gan rieni sy’n galaru wrth helpu i lunio ein Canllawiau terfynol.