Hysbysiad tryloywder: Ymchwil ar sgwrsbot deallusrwydd artiffisial (AI), cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau rhannu fideo i archwilio diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 22 Mehefin 2026

Gan ddechrau yn haf 2026, mae Ofcom yn bwriadu cynnal ymchwil rheolaidd ar gyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau rhannu fideo i ddeall a yw cynnwys niweidiol yn cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr sy’n blant.

Bydd y cam hwn o ymchwil yn canolbwyntio ar gyfrifon sy'n cynrychioli plant 13-17 oed. Bydd Ofcom yn sefydlu cyfrifon ffuglennol gyda'r oedrannau hyn ac yn eu defnyddio i arsylwi’r  cynnwys sy'n cael ei argymell neu a gyflwynir fel arall i'r cyfrifon hynny gan wasanaethau.

Bydd yr ymchwil hwn yn cael ei gynnal gan ymchwilwyr Ofcom a fydd yn defnyddio cyfrifon a dyfeisiau a reolir gan Ofcom.

Mae Ofcom yn cynnal ymchwil ar wasanaethau sgwrsbot deallusrwudd artiffisial (AI) mewn cysylltiad â'n dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd ymchwilwyr Ofcom yn archwilio amrywiaeth o wasanaethau sgwrsbot AI (gan gynnwys ChatGPT, Grok, SnapMyAI a Talkie) a’n creu cyfrifon defnyddwyr ar ddyfeisiau a reolir gan Ofcom i gefnogi'r ymchwil hwnnw.

Bydd yr ymchwil yn archwilio cofrestru a mynediad, rhyngweithio ac ymgysylltu, ymatebion y sgwrsbot i awgrymiadau, ac unrhyw nodweddion neu reolaethau diogelwch sydd ar gael ar y platfform.

Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, mae ymchwilwyr yn bwriadu creu cyfrifon 13-17 a chyfrifon 18+, gan ddefnyddio personau ffuglennol i arsylwi a chofnodi pob gweithgaredd yn unol â phrotocol gwaith maes strwythuredig. Bydd gweithgarwch ar blatfformau AI yn cael ei reoli'n ofalus a bydd yn cael ei gynnal yn unol â mesurau diogelu ymchwilwyr priodol. Ni fyddwn yn rhyngweithio â defnyddwyr eraill ar y gwasanaeth; dim ond mynediad at ymarferoldeb y platfform ac ymatebion y sgwrsbot y byddwn yn ei gael.

Pwrpas yr ymchwil yw deall yn well sut mae gwasanaethau sgwrsbot AI wedi’u cynllunio a sut maen nhw'n ymateb i ddefnyddwyr, gan gynnwys a all cynnwys niweidiol gael ei gynhyrchu ar gyfer gwahanol broffiliau defnyddwyr a sut.

Rydym yn disgwyl i'r ymchwil hon ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, a bydd ein canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi yn fuan wedi hynny.