Man putting parcels in van 271026 HERO

Ofcom yn mynnu bod gwelliannau gan gwmnïau parseli wrth i lefelau boddhad ostwng

Cyhoeddwyd: 27 Hydref 2026
  • Tablau cynghrair blynyddol Ofcom yn datgelu'r cwmnïau parseli gorau a gwaethaf ar gyfer boddhad cwsmeriaid
  • Amazon a FedEx sydd ar y brig eto o ran lefelau boddhad, gydag Evri a Yodel yn olaf am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
  • Ar ôl tair blynedd o lefelau boddhad cwsmeriaid eithaf cyson ar y cyfan, gyda gwelliannau gwasanaeth mewn rhai ardaloedd, gwelwyd lefelau yn gostwng yn 2026
  • Y corff gwarchod yn cyfarwyddo cwmnïau i godi safonau, gan ystyried camau rheoleiddio ychwanegol

Heddiw, mae Ofcom wedi rhybuddio gweithredwyr post fod yn rhaid i wasanaeth cwsmeriaid wella'n sylweddol, wrth i'r corff gwarchod ystyried amddiffyniadau ychwanegol i ddefnyddwyr sy’n derbyn parseli.

Yn ôl pedwerydd arolwg blynyddol Ofcom, er bod boddhad cwsmeriaid cyfartalog yn parhau i fod yn weddol uchel ar 75%, gostyngodd lefelau am y tro cyntaf mewn tair blynedd, ar ôl aros yn sefydlog ar 78% ers 2023. Mae’r profiad y mae pobl yn ei gael yn amrywio gan ddibynnu ar ba gwmni parseli sy'n dosbarthu eu pecyn, gyda lefelau boddhad yn amrywio rhwng 64% a 84% ar gyfer gwahanol gwmnïau. [1] 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cystadleuaeth yn y farchnad parseli wedi cynnig manteision i ddefnyddwyr, gan arwain at fwy o ddewis a phrisiau isel. Fodd bynnag, gwnaethom nodi problemau yn flaenorol gyda'r ffordd yr oedd cwynion yn cael eu trin a’r ffordd yr oedd cwsmeriaid anabl yn cael eu trin. O ganlyniad, gwnaethom gryfhau ein rheoleiddio yn y meysydd hyn yn 2023. [2]

Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal ymchwil defnyddwyr estynedig, sy'n cynnwys olrhain profiadau pobl o gysylltu â chwmnïau parseli, a phrofiadau defnyddwyr anabl.

Cwmnïau parseli gorau a gwaethaf 

Wrth gymharu perfformiad cwmnïau parseli unigol wrth ymdrin â chwynion gan y bobl sy’n derbyn y parseli, mae Amazon a FedEx ar y brig eto eleni o ran boddhad gwasanaeth cwsmeriaid. Cyflawnodd y ddau gwmni sgôr boddhad cyfartalog o 56% ar draws pob elfen o'r broses gyswllt.

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, Yodel ac Evri sy’n perfformio waethaf. Mae boddhad ymhlith cwsmeriaid sydd â rheswm i gysylltu â nhw neu gwyno iddynt am broblem dosbarthu yn sylweddol is na'r cyfartaledd, sef 34% a 26% yn y drefn honno. Y cwmnïau hyn hefyd sydd â'r lefelau uchaf o anfodlonrwydd, gydag Evri yn sgorio 42% a Yodel yn  sgorio 33%. [3] 

parcel-delivery-report-2026-satisfaction-CYM 1

Nifer o barseli a phroblemau dosbarthu

Y llynedd, anfonodd a derbyniodd pobl yn y DU nifer uchaf erioed o barseli, sef 4.6 biliwn. Roedd hyn 8.6% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.

Ar draws yr holl weithredwyr, mae saith o bob 10 derbynnydd parseli (71%) wedi profi problem dosbarthu yn ystod y chwe mis diwethaf, i fyny o 68% y llynedd. Y problemau mwyaf cyffredin a brofwyd yw oedi wrth ddosbarthu (32%), parseli yn cael eu gadael mewn lleoliad amhriodol (28%), y gyrrwr dosbarthu heb guro'n ddigon uchel (25%), a methu â rhoi digon o amser i ateb y drws (20%).

parcel-delivery-report-2026-top10-CYM 1


Os na fydd gwelliannau, efallai y bydd rheolau llymach i ddilyn

Ar ôl i'n hamddiffyniadau newydd ddod i rym, gwnaeth gweithredwyr parseli nifer o welliannau i brosesau ymdrin â chwynion, ac roedd arwyddion bod profiad y cwsmer yn gwella mewn rhai meysydd.

Fodd bynnag, yn yr un modd â boddhad cyffredinol, mae boddhad cyfartalog gyda’r holl weithredwyr wedi gostwng eleni o 47% i 43%. Hefyd, mae defnyddwyr anabl a'r rhai sydd â chyflyrau cyfyngol yn dal i fod yn fwy tebygol o gael anawsterau (76%) o gymharu â phobl nad oes ganddynt gyflyrau cyfyngol (68%).

Rydym yn pryderu bod nifer sylweddol o gwsmeriaid yn dal i gael problemau, ac y gall gweithredwyr parseli wneud mwy. Yng ngoleuni'r pryderon hyn, rydym yn ystyried camau pellach i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu diogelu'n ddigonol, gan gynnwys ystyried a oes angen rheoleiddio cryfach. 

Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach ar y gwaith hwn pan fyddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad monitro blynyddol ar y farchnad bost ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Polisi Ofcom: "Mae parseli yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd, ac mae pobl yn disgwyl i becynnau gyrraedd ar amser a heb drafferth. Er bod rhai cwmnïau'n darparu gwasanaeth da, mae gormod o gwsmeriaid yn dal i gael problemau. 

"Mae angen i gwmnïau roi cwsmeriaid yn gyntaf a gwella perfformiad, neu byddwn yn ystyried mesurau pellach i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu'n iawn."


Nodiadau i olygyddion

  1. Ym mis Ionawr a Gorffennaf 2026, cynhaliodd Yonder Consulting arolwg o 4,179 o bobl 16+ oed ar-lein. Roedd y sampl yn cynnwys trigolion y DU a oedd â phrofiad o gwmnïau dosbarthu yn y DU yn y chwe mis cyn yr ymchwil ac fe'i pwyswyd i alinio â phroffil poblogaeth y DU o ran oedran a rhyw, rhanbarth, ethnigrwydd a gradd gymdeithasol.
  2. Os yw rhywun yn prynu rhywbeth ar-lein ac mae eu parsel wedi'i ddifrodi neu nad yw'n cyrraedd, y ffordd fwyaf cyffredin o geisio cael iawndal yw gan y manwerthwr ar-lein o dan gyfraith defnyddwyr. Yna gall yr anfonwr geisio iawndal gan y cwmni parseli, ac weithiau efallai y bydd angen i dderbynnydd gysylltu â'r gweithredwr parseli.
  3. Cafodd Yodel ei gaffael gan InPost yn 2025, ac mae bellach yn gweithredu o dan frand InPost.