10 ways to cut phone and internet bills - HERO

Ymchwil newydd gan Ofcom yn datgelu sut i dorri biliau ffôn a’r rhyngrwyd

Cyhoeddwyd: 26 Chwefror 2026

Mae data newydd a gyhoeddwyd heddiw gan y corff gwarchod telathrebu wedi nodi meysydd lle gallai miliynau o gwsmeriaid ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu arbed arian ar eu biliau.  

Ym marchnadoedd telathrebu cystadleuol y DU, mae cynigion gwych ar gael ac mae cwmnïau'n buddsoddi yn eu rhwydweithiau i ddarparu mwy o ddewis ac ansawdd gwell. Gwaith Ofcom yw sicrhau y gall pobl fanteisio ar yr hyn sydd ar gael a dewis yr hyn sy'n iawn iddyn nhw.  
 
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ei gwneud hi'n haws i bobl siopa o gwmpas ac arbed arian, trwy gyflwyno rhybuddion diwedd contract, crynodebau contract symlach, a phrosesau newid haws ar gyfer band eang a ffôn symudol.  
 
Ein hadroddiad prisio ac ymgysylltu a defnyddwyr yw'r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o'r hyn sy'n digwydd ym marchnadoedd ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu y DU. Yn gyffredinol, mae defnyddwyr yn cael mwy am lai, ond mae ymchwil eleni yn taflu goleuni ar 10 maes lle gallai miliynau o bobl wneud arbedion mawr ar eu biliau.  

Yn gyffredinol mae prisiau yn gostwng...

Yn ôl ein hymchwil, gostyngodd prisiau band eang cyfartalog sydd ar gael yn y farchnad mewn termau real y llynedd, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau cyflymach. Ar draws gwahanol gyflymderau, gostyngodd prisiau 6% ar gyfartaledd. Mewn llawer o achosion, gall cwsmeriaid newid i wasanaeth band eang ffeibr llawn gyflymach, mwy dibynadwy a thalu'r un peth, neu lai, nag y maent ar hyn o bryd yn ei wneud am wasanaeth copr neu ffeibr-rhannol.  

Rydym hefyd wedi canfod bod cynlluniau symudol SIM yn unig yn ennill mewn poblogrwydd. Am y tro cyntaf, maent bellach yn cyfrif am hanner y tanysgrifiadau talu misol, i fyny o 44% flwyddyn flaenorol. Y llynedd, gostyngodd prisiau cyfartalog ar gyfer cynlluniau SIM yn unig gyda data diderfyn 8% mewn termau real, ac mae bargeinion SIM yn unig ar gael am lai na £5 y mis. 

... er gwaethaf cynnydd mewn prisiau canol contract

Er bod gan rai darparwyr gontractau gyda phris sefydlog, mae llawer yn cynnig pris cychwynnol ar ddechrau'r contract cyn eu codi. Fodd bynnag, oherwydd bod prisiau cyffredinol wedi gostwng yn gyson mewn termau real yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gall pobl gadw eu gwariant hirdymor cyffredinol yn wastad, neu hyd yn oed ei leihau mewn termau real,os ydyn nhw’n cofrestru ar gyfer contract newydd am bris is pryd bynnag y bydd eu cyfnod contract cychwynnol yn dod i ben

Arbedion i gwsmeriaid sydd allan o gontract

Mae ein data diweddaraf yn dangos bod 28% o gwsmeriaid band eang allan o gontract. Ar gyfartaledd, mae cwsmeriaid sydd mewn contract yn gwario rhwng £7 a £9 y mis yn llai na chwsmeriaid sydd allan o gontract. 

Mae'r gwahaniaeth hwn wedi culhau'n sylweddol, ond mae'n dal i fod yn wir y gallai'r rhan fwyaf o gwsmeriaid sydd allan o gontract arbed arian. Gallent wneud hyn trwy siarad â'u darparwr presennol a llofnodi cytundeb newydd gyda nhw. 

Newid i ddarparwr newydd

Gallai pobl hefyd arbed trwy newid darparwr, ac mae mwy o gwsmeriaid band eang yn gwneud hyn ers i ni wneud y broses yn gyflymach ac yn haws. Y llynedd, newidiodd 18% o aelwydydd ddarparwr rhyngrwyd, i fyny o 14% yn 2023. 

Mae'r cynnydd hwn yn dilyn cyflwyno rhwydweithiau band eang ffeibr llawn newydd, a chyflwyno proses Newid Un Cyffwrdd ym mis Medi 2024, sydd wedi cael ei defnyddio gan dros 2 filiwn o gwsmeriaid. 

Mae 'altnets' band eang yn aml yn rhatach

Mae gan wyth o bob 10 cartref yn y DU bellach fynediad at fand eang ffeibr llawn gyflymach, mwy dibynadwy, yn dilyn defnyddio rhwydweithiau newydd gan Openreach, Virgin Media O2 ac ystod eang o gwmnïau heriol newydd, a elwir yn 'altnets'. Mae hyn yn golygu bod gan bobl fwy o ddewis erbyn hyn. 

Mae ein dadansoddiad yn awgrymu bod cystadleuaeth brisio rhwng darparwyr sefydledig a rhai newydd wedi dwysáu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Altnets yn aml yn cynnig prisiau is na'r cwmnïau sefydledig, er mwyn denu cwsmeriaid, ac mae prisiau darparwyr mwy yn gostwng yn agosach at y rhai a gynigir gan y cwmnïau heriol newydd. 

Brandiau cyllideb symudol

Yn debyg i fand eang, mae prif frandiau'r gweithredwyr symudol mwyaf yn tueddu i fod yn ddrytach. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r prisiau symudol isaf wedi cael eu cynnig naill ai gan weithredwyr rhwydwaith rhithwir symudol, sy'n manteisio ar y prif rwydweithiau symudol, neu gan frandiau cyllideb y cwmnïau mwyaf.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r brandiau hyn wedi cynnig bargeinion sy’n gyson rhwng 40% a 50% yn rhatach na'r prisiau cyfartalog. Edrychwch ar wefannau cymharu sydd wedi'u hachredu gan Ofcom i weld beth sydd ar gael. 

Llinellau tir heb eu defnyddio 

Bum mlynedd yn ôl, roedd bron pob tariff band eang yn cynnwys llinell dir. Fodd bynnag, mae gwasanaethau band eang annibynnol bellach ar gael yn eang, ac maent yn profi i fod yn boblogaidd. 

Y llynedd, ni wnaeth 70% o aelwydydd a brynodd eu band eang a'u llinell dir gyda'i gilydd yn gwneud galwad allanol. Gallai llawer o'r cwsmeriaid hyn arbed trwy newid i wasanaeth band eang annibynnol, sydd fel arfer yn costio tua £7 y mis yn llai na band eang gyda llinell dir. 

Data symudol heb ei ddefnyddio 

Mae ein dadansoddiad o'r defnydd o ddata symudol yn dangos bod 29% o ddefnyddwyr sy’n talu’n fisol yn defnyddio 2 GB o ddata neu lai y mis. Er bod 39% o gwsmeriaid sy’n talu’n fisol yn cymryd gwasanaeth gyda dros 50 GB o ddata cynhwysol y mis, dim ond 5% sy'n defnyddio cymaint â hynny o ddata. 

Mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid symudol talu’n fisol (55%) yn defnyddio 20% neu lai o'u lwfans data misol, gyda 17% arall yn defnyddio rhwng 20% a 40% o'r hyn y mae eu tariff yn ei gynnig. Mae hyn yn awgrymu y gallai llawer o gwsmeriaid allu arbed arian trwy ddewis tariff gyda lwfans data sy'n cyd-fynd yn well â'u hanghenion. 

Mae bwndeli yn rhatach

Canfu ein dadansoddiad fod y rhan fwyaf o aelwydydd sy'n bwndelu eu gwasanaethau telathrebu gyda'i gilydd yn elwa o brisiau is, o'i gymharu â'r rhai sy'n eu prynu ar wahân, gydag arbedion yn amrywio o £26 i £48 y mis. 

Mae gwasanaethau teledu talu, yn benodol, wedi dod yn rhatach pan gânt eu cymryd fel rhan o fwndel. Pan gaiff ei bwndelu gyda band eang a llinell dir, gostyngodd y pris cyfartalog  pan fydd pobl yn cymryd contract ar gyfer teledu-drwy-dalu mewn bwndel 23% mewn termau real y llynedd i £12 y mis. 

Mwy o bobl yn manteisio ar dariffau cymdeithasol

Mae'r pecynnau rhatach hyn ar gyfer pobl sy'n hawlio budd-daliadau penodol yn amrywio o £12.50 i £24 y mis ar gyfer band eang. Ni allwn orfodi cwmnïau telathrebu i'w cynnig, ond rydym wedi bod yn pwyso ar gwmnïau i wneud hynny, ac mae nifer y tariffau sydd ar gael wedi tyfu o dri yn unig yn 2020 i fwy na 30. 

Mae ein data newydd yn dangos bod 532,000 o gwsmeriaid yn defnyddio tariff cymdeithasol ym mis Mehefin 2025, i fyny 26,000 o'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, nid yw 70% o aelwydydd cymwys yn gwybod eu bod yn bodoli. Rydym yn parhau i bwyso ar gwmnïau i wneud y peth iawn a chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu cwsmeriaid.