Cadarnhewch a ydych chi chi allan o gontract neu beidio.
Pan fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer contract ffôn, band eang neu deledu-drwy-dalu, rydych chi fel arfer wedi'ch clymu am 12, 18 neu 24 mis. Os byddwch yn gadael cyn i'ch contract ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi gadael, a elwir hefyd yn dâl terfynu cynnar (early termination fee).
Os ydych chi allan o gontract, gallwch siopa o gwmpas am fargen newydd a gallech arbed arian trwy newid.
Gofynnwch i'ch darparwr a ydych chi'n dal i fod mewn contract, neu gallwch gadarnhau statws eich contract ar wefan neu ap eich darparwr. Os ydych chi mewn contract, cadwch lygad allan am hysbysiadau gan eich darparwr.
Eich hawl i wybod
Rhaid i'ch darparwr ddweud wrthych chi pan fydd eich contract yn dod i ben a dweud wrthych chi am eu bargeinion gorau. Gelwir y rhain yn hysbysiadau diwedd contract. Os ydych chi allan o gontract yn barod, rhaid i'ch darparwr eich atgoffa bob blwyddyn a rhoi diweddariad i chi ar eu bargeinion gorau.
Rhaid i'ch darparwr anfon yr hysbysiad hwn atoch, drwy neges destun, e-bost neu lythyr, rhwng 10 a 40 diwrnod cyn i'ch contract ddod i ben. Rhaid i'r wybodaeth hon gynnwys:
- pryd fydd eich contract yn dod i ben;
- unrhyw gyfnod rhybudd ar gyfer gadael eich darparwr;
- y pris rydych chi wedi bod yn ei dalu hyd yn hyn, a'r hyn y byddwch chi'n ei dalu pan fydd eich contract yn dod i ben;
- bargeinion gorau eich darparwr, gan gynnwys unrhyw brisiau sydd ar gael i gwsmeriaid newydd yn unig; a
- manylion contractau eraill rydych chi wedi'u cymryd fel rhan o'ch bwndel, gan gynnwys dyddiadau gorffen y contractau hynny.
Cynnwys cysylltiedig