Newid darparwr llinell dir

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2017
Diweddarwyd diwethaf: 25 Awst 2026

Newid eich llinell dir yn syml gyda Newid Un Cam. Cysylltwch â'r darparwr rydych chi am symud ato, a byddan nhw’n rheoli'r newid i chi. Weithiau efallai y bydd angen ymweliad gan beiriannydd neu offer newydd arnoch, ond dylai eich darparwr newydd egluro beth fydd yn digwydd.

Gall newid eich helpu i arbed arian os ydych chi allan o gontract. Efallai y byddwch hefyd yn gallu arbed arian trwy fwndelu eich llinell dir ynghyd â'ch gwasanaeth band eang. Gweler ein hawgrymiadau arbed arian.

Awgrymiadau newid

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael tariff cymdeithasol

Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill, efallai y byddwch yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Gall hwn fod yn fargen ffôn rhatach, heb unrhyw godiadau prisiau canol contract, i bobl ar incwm is. Edrychwch ar ein canllaw tariff cymdeithasol.

  Newid eich llinell dir – tri cham hawdd

  1. Cysylltwch â'ch darparwr newydd dewisol i ddechrau'r broses Newid Un Cam

Cofrestrwch ar-lein neu siaradwch â'r darparwr rydych chi am ymuno ag ef. Byddant yn gofyn am eich cyfeiriad, eich darparwr presennol, y gwasanaethau rydych chi am eu newid ac a ydych am gadw'ch rhif.

  1. Gwiriwch y wybodaeth gan eich darparwr presennol

Edrychwch ar y manylion yn ofalus. Bydd eich darparwr presennol yn anfon gwybodaeth bwysig atoch, gan gynnwys manylion unrhyw ffioedd. Os penderfynwch fwrw ymlaen, efallai y bydd y darparwr newydd yn gallu trefnu'r newid ar gyfer eich dyddiad dewisol.

Os ydych chi'n symud i rwydwaith gwahanol, dylai eich darparwr newydd ddweud wrthych os fydd angen ymweliad gan beiriannydd, offer newydd neu unrhyw gamau sefydlu arall.

  1. Cael eich gwasanaeth newydd i weithio

Dylai eich darparwr newydd esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i gael eich llinell dir newydd i weithio, gan gynnwys sut i sefydlu unrhyw offer newydd. Unwaith y bydd eich gwasanaeth newydd yn gweithio, dylent roi'r gorau i'ch hen wasanaeth yn awtomatig.

Eich hawliau wrth newid

Ni ddylai eich hen ddarparwr godi tâl arnoch am unrhyw gyfnod rhybudd ar ôl y dyddiad newid. Ni ddylai unrhyw golled gwasanaeth bara mwy nag un diwrnod gwaith. Rhaid i'ch darparwr eich digolledu mewn rhai achosion, gan gynnwys os cewch eich gadael heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith, neu os byddent yn  colli apwyntiad gwasanaeth neu osod. Gweler ein canllaw iawndal awtomatig.

  Gwirio ffioedd terfyn cynnar

Gwiriwch a ydych allan o gontract ai peidio ar wefan neu ap eich darparwr. Gallwch hefyd ofyn i'ch darparwr neu wirio'ch e-bost am unrhyw hysbysiadau diwedd contract. Os byddwch chi'n newid cyn diwedd eich contract, efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd terfynu cynnar. Os byddwch chi’n newid gan ddefnyddio Newid Un Cam, rhaid i'ch darparwr ddweud wrthych am unrhyw ffioedd cyn i chi newid. 

  Newid eich llinell dir pan fyddwch yn rhan o fwndel o wasanaethau

Os byddwch yn bwndelu eich llinell dir gyda gwasanaethau eraill gan eich darparwr presennol, er enghraifft gyda'ch band eang, fel arfer byddwch fel yn dilyn y broses a ddisgrifir uchod i newid y ddau wasanaeth.

Os ydych chi eisiau symud eich rhif llinell dir i ddarparwr arall ond cadw eich band eang gyda'ch darparwr presennol, gwiriwch beth mae'ch darparwr presennol yn ei ddweud am newid cyn mynd ymlaen. Mewn rhai achosion, gall trosglwyddo’ch llinell dir effeithio ar y gwasanaeth band eang sy'n gysylltiedig ag ef. Os oes gennych chi’r opsiwn i gadw’ch gwasanaeth band eang presennol, bydd eich darparwr presennol fel arfer yn gofyn i chi siarad â nhw i gadarnhau beth rydych chi am ei wneud.

Os yw'ch bwndel hefyd yn cynnwys mathau eraill o wasanaethau, fel teledu, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr presennol i ganslo'r rheini. Byddant yn egluro eich opsiynau.

Os nad ydych chi'n siŵr, gofynnwch i'ch darparwr presennol cyn bwrw ymlaen.

  Cadw eich rhif, hyd yn oed ar ôl canslo

Os ydych eisoes wedi canslo eich gwasanaeth llinell dir blaenorol, gallwch chi ofyn am gadw eich rhif ffôn yn rhad ac am ddim, cyn belled â'ch bod chi’n gofyn o fewn mis i ganslo. Gofynnwch i'ch darparwr newydd pan fyddwch chi'n cofrestru.

  Rheoli proses newid eich hun

Efallai y byddwch chi'n dewis rheoli proses newid eich hun, er enghraifft i gael parhad rhwng eich hen wasanaeth a'ch gwasanaeth newydd. Fodd bynnag, cofiwch na fyddai'r broses Newid Un Cam yn berthnasol yn yr achos hwn. I reoli eich newid, dywedwch wrth eich darparwr newydd pan fyddwch chi'n archebu a threfnwch y canslo ar wahân gyda'ch darparwr presennol. Gwiriwch unrhyw ffioedd y gallai fod yn rhaid i chi eu talu i'ch darparwr presennol os ydych chi'n dal mewn contract, neu unrhyw gyfnodau rhybudd os nad ydych chi.

  Canslo’r newid os ydych chi’n newid eich meddwl

Mae gennych yr hawl i ganslo'ch archeb o fewn 14 diwrnod calendr. Os byddwch chi'n newid eich meddwl, cysylltwch â'ch darparwr newydd i ganslo'r newid. Os yw'ch gwasanaeth eisoes wedi dechrau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaeth rydych chi eisoes wedi'i ddefnyddio ac unrhyw gostau gosod. Ni fydd eich hen wasanaeth yn cael ei adfer yn awtomatig.

  Beth i’w wneud os bydd eich darparwr yn mynd allan o fusnes

Edrychwch ar ein cyngor ar beth i'w wneud os yw'ch darparwr yn mynd allan o fusnes.

Eich barn ar y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?