Diffodd rhwydweithiau symudol 3G y DU: beth mae angen i chi ei wybod

Cyhoeddwyd: 6 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 29 Mai 2026

Mae rhwydweithiau symudol 3G bellach wedi'u diffodd. Mae'r rhwydweithiau symudol 2G yn cael eu diffodd yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Dyma beth mae hyn yn ei olygu i chi fel cwsmer.

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau symudol y DU yn defnyddio tair 'cenhedlaeth' wahanol o dechnoleg symudol: 2G, 4G a 5G.

Mae darparwyr symudol yn paratoi i ddiffodd eu rhwydweithiau 2G, a bydd hyn yn effeithio ar gwsmeriaid ar y rhwydweithiau hynny sy'n defnyddio dyfeisiau a gwasanaethau symudol hŷn. Os oes gennych ddyfais neu wasanaeth symudol 4G neu 5G, mae'n annhebygol y bydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi ac efallai mai dim ond diweddariad meddalwedd neu osodiadau y bydd ei angen arnoch.

Mae rhwydweithiau 2G yn dibynnu ar dechnoleg hŷn, llai effeithlon

Mae darparwyr symudol yn diffodd y rhwydweithiau 2G i wneud lle i'r rhwydweithiau 4G a 5G mwy datblygedig. Mae 4G a 5G yn cynnig gwasanaethau gwell, cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid.

Bydd 2G yn cael ei ddiffodd yn y blynyddoedd i ddod

Mae pob gweithredwr rhwydwaith symudol wedi cadarnhau i Lywodraeth y DU y byddant yn diffodd 2G erbyn 2033 fan bellaf. Fodd bynnag, efallai y bydd MNOs unigol yn penderfynu diffodd gwasanaethau yn gynt na hynny.  Bydd angen uwchraddio pob dyfais 2G yn unig i 4G o leiaf.

Mae darparwyr yn diffodd eu rhwydweithiau ar wahanol adegau

Mae pob gweithredwr rhwydwaith symudol yn gosod ei amserlen ei hun ar gyfer diffodd ei rwydwaith 2G.

  • Mae EE wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau diffodd ei rwydwaith 2G ym mis Mai 2029.
  • Mae VodafoneThree wedi cyhoeddi y bydd yn diffodd rhwydwaith Vodafone 2G yn ystod 2030 (nid oes gan Three rwydwaith 2G).
  • Mae O2 wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau diffodd ei rwydwaith 2G yn ystod haf 2029.

Y rhain yw prif ddarparwyr rhwydwaith symudol 2G yn y DU. Mae pob cwmni symudol arall yn darparu eu gwasanaethau an ddefnyddio’r rhwydweithiau hyn. Er enghraifft:

  • Mae Lebara Mobile, Asda Mobile, Talk Mobile a VOXI yn defnyddio rhwydwaith Vodafone.
  • Mae Your Co-op, 1p Mobile, Utility Warehouse, Ecotalk, Lycamobile a BT Mobile yn defnyddio rhwydwaith EE.
  • Mae Tesco Mobile, Giffgaff, a Sky Mobile yn defnyddio rhwydwaith O2.

Bydd amseroedd diffodd 2G ar gyfer y darparwyr hyn yr un fath â'r rhwydwaith maen nhw'n ei ddefnyddio.

Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi os bydd hyn yn effeithio arnoch chi

Bydd eich darparwr symudol yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi os bydd hyn yn effeithio arnoch chi a pha gamau y mae angen i chi eu cymryd. Efallai y gallech hefyd edrych ar osodiadau eich dyfais i weld a oes rhywdwaith 4G ar gael – edrychwch o dan 'rhwydweithiau symudol' neu 'data symudol'.

Os oes gennych ddyfais fwy newydd, efallai na fydd angen i chi wneud unrhyw beth

Os ydych chi’n defnyddio dyfais 4G neu 5G mwy newydd yn barod, ni ddylai fod angen i chi wneud dim. Efallai y bydd angen diweddariad meddalwedd neu osodiadau ar rai dyfeisiau 4G i sicrhau bod unrhyw alwadau rydych chi'n eu gwneud yn defnyddio'r rhwydwaith cywir. Os felly, bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi ac yn esbonio sut i wneud y diweddariadau angenrheidiol.

Os oes gennych ddyfais hŷn, bydd angen i chi gael un newydd

Os ydych chi'n defnyddio dyfais hŷn nad yw'n caniatáu i chi ddefnyddio 4G neu 5G, bydd angen i chi gael un newydd. Unwaith eto, bydd eich darparwr yn dweud wrthych os yw hynny'n wir, felly cadwch lygad ar unrhyw negeseuon maen nhw'n eu hanfon atoch. Dylent roi rhybudd digonol i chi, fel eich bod chi’n cael digon o amser i ddod o hyd i'r ddyfais sy’n iawn i chi.

Os ydych chi'n poeni na fyddwch chi'n gallu fforddio dyfais newydd, dywedwch wrth eich darparwr. Efallai y bydd yn gallu cynnig cymorth ychwanegol a help i ddod o hyd i opsiynau fforddiadwy.

Ar hyn o bryd, mae cwsmeriaid sy'n defnyddio dyfais hŷn ar rwydweithiau EE, Vodafone, ac O2 yn dal i allu gwneud galwadau ac anfon negeseuon testun gan ddefnyddio 2G, ond nid yw'r rhwydwaith 2G wedi'i gynllunio i gyrchu gwasanaethau data, felly nid yw cwsmeriaid â dyfeisiau hŷn bellach yn gallu cael mynediad at y rhan fwyaf o'u gwasanaethau data symudol nawr bod 3G wedi'i ddiffodd (ond os yw’r dyfeisiau hŷn yn gallu cysylltu â Wi-Fi,  gall cwsmeriaid ddefnyddio’r Wi-Fi i gael mynediad at wasanaethau data).

Nid oes gan Three rwydwaith 2G, felly os oes gennych ddyfais hŷn nad yw'n caniatáu ichi ddefnyddio 4G neu 5G, mae angen i chi gael un newydd er mwyn gwneud galwadau, anfon negeseuon testun a chael mynediad at ddata symudol nawr bod 3G wedi'i ddiffodd.

Gofynnwch i unrhyw ffrindiau a theulu sydd gennych y gallai'r newidiadau effeithio arnynt, i weld a oes angen help arnynt i ddeall beth sydd angen ei wneud.

Os ydych chi'n prynu dyfais, gwnewch yn siŵr ei bod yn cefnogi 4G

Os ydych chi'n prynu dyfais, yn enwedig gan werthwr trydydd parti (fel marchnadoedd ar-lein neu mewn archfarchnad), gwnewch yn siŵr ei bod yn cefnogi rhwydwaith 4G. Wrth werthu’r ddyfais i chi, dylai'r gwerthwr ddweud wrthych ba rwydweithiau (y cyfeirir atynt weithiau fel 'technolegau') y gall y ddyfais eu defnyddio.

Efallai y bydd hyn yn effeithio ar fathau eraill o ddyfeisiau

Mae rhai dyfeisiau eraill, fel larymau gofal, larymau diogelwch a therfynellau talu (payment terminals), yn defnyddio rhwydweithiau 2G hefyd. Os oes gennych ddyfais fel hyn, efallai y bydd angen i chi ei huwchraddio i wneud yn siŵr ei bod yn dal i weithio ar ôl i'r rhwydweithiau 2G gael eu diffodd. Gofynnwch i’ch cyflenwr dyfais neu ddarparwr gwasanaeth i weld a fydd eich dyfais yn cael ei heffeithio.

Mae rhwydweithiau 2G a 3G hefyd yn cael eu diffodd ledled y byd

Mae'r rhwydweithiau 2G a 3G yn cael eu diffodd yn raddol ledled y byd. Mae gan bob gwlad amserlen wahanol ar gyfer diffodd.

Os ydych chi'n teithio i wlad lle maen nhw wedi dechrau diffodd y rhwydweithiau hyn yn barod, gallai hynny effeithio ar eich profiad o ddefnyddio gwasanaethau crwydro. Mewn rhai achosion, efallai na fyddwch yn gallu gwneud galwadau neu gyrchu data oni bai eich bod wedi'ch cysylltu â Wi-Fi (yn enwedig os oes gennych ffôn hŷn). Siaradwch â'ch darparwr cyn i chi adael y DU, a darllenwch ein cyngor cysylltiedig ar ddefnyddio eich ffôn dramor.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â diffodd 2G, cysylltwch â'ch darparwr symudol.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth am sut rydym yn disgwyl i ddarparwyr symudol fynd i'r afael â'r broses ddiffodd.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd y Llywodraeth y DU siarter diffodd 2G wirfoddol, sy'n nodi ymrwymiadau gan weithredwyr rhwydwaith symudol i gefnogi proses bontio ddidrafferth oddi wrth gwasanaethau 2G.

Golygiadau i'r fideo: Pam mae cwmnïau symudol yn diffodd y rhwydweithiau 2G / 3G?

Oeddech chi'n gwybod bod cwmnïau symudol wedi diffodd eu rhwydweithiau 3G? Byddant yn diffodd eu rhwydweithiau 2G yn raddol dros y blynyddoedd nesaf.📱

Mae cwmnïau symudol wedi penderfynu diffodd rhwydweithiau 3G a 2G, er mwyn gwneud lle i 4G a 5G – sy’n cynnig gwasanaethau cyflymach a gwell. Os ydych chi’n defnyddio set law 4G yn barod, ni ddylai fod angen i chi wneud unrhyw beth. Ond bydd angen i bobl sydd â setiau llaw hŷn heb 4G uwchraddio. Bydd eich darparwr yn cysylltu os ydych yw hyn yn debygol o effeithio arnoch chi.

Rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg trwy gydol y broses hon, felly rydym wedi nodi’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr telathrebu yn ystod y broses diffodd.

Gwyliwch y fideo am fwy o wybodaeth a darllenwch ein canllaw yma.

***

Trawsgrifiad y fideo:

"Mae rhwydweithiau symudol 3G wedi'u diffodd yn y DU. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd darparwyr symudol y DU yn diffodd rhwydweithiau symudol 2G hefyd.

Pam? Er mwyn rhyddhau'r tonnau awyr ar gyfer rhwydweithiau 4G a 5G sy'n cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy.

Ar hyn o bryd, mae cwsmeriaid â dyfeisiau hŷn yn gallu gwneud galwadau ac anfon negeseuon testun gan fod y rhain yn dibynnu ar y rhwydwaith 2G.

Ond bydd angen i'r cwsmeriaid hyn uwchraddio i set law 4G neu 5G cyn i'r rhwydweithiau 2G gael eu diffodd.

Y cwmnïau symudol sy’n penderfynu ar amseriad y diffodd, ond rydym yn disgwyl iddynt gyfathrebu'r broses yn glir i'r holl gwsmeriaid, gan roi digon o rybudd iddynt am y camau y gallai fod angen iddynt eu cymryd. Rydym yn gwybod efallai y bydd angen help ar rai pobl sy'n dibynnu ar ddyfeisiau hŷn i uwchraddio, felly rydym yn disgwyl i ddarparwyr gynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid agored i niwed, yn enwedig pobl sy'n cael trafferthion ariannol.

Os ydych chi’n poeni sut y gallai hyn effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, y peth gorau i'w wneud yw cysylltu â'ch darparwr a byddant yn rhoi cyngor i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am y diffodd, ewch i ofcom.org.uk

Rate this page

Was this page helpful?